Dovaston, John Freeman Milward (1782-1854)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Bardd, naturiaethwr a cherddor amatur. Fe’i ganed yn The Nursery, Twyford, West Felton, Swydd Amwythig, a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt a Choleg Crist, Rhydychen (1801-4). Er nad oedd wedi cael unrhyw addysg gerddorol ffurfiol, ymddiddorodd mewn cerddoriaeth er pan oedd yn blentyn, ac yn Rhydychen daeth yn gyfeillgar â’r Dr William Crotch (1775-1847). Gyda’i ganiatâd ef, a than ei gyfarwyddyd, aeth ati i drawsgrifio detholiad o alawon o’r ‘copïau dilysaf oll’, er na nodir ei ffynonellau. Ymddangosodd casgliad Crotch ei hun, Specimens of Various Styles of Music, yn 1806-7.
Graddiodd Dovaston yn y gyfraith ond rhoddodd y gorau i’r yrfa honno yn 1808 pan etifeddodd stad y teulu. Rhyddhaodd hyn ef i farddoni, ei ddiddordeb mawr arall, a gosododd nifer o’i benillion ei hun i alawon Cymreig; gosodiadau yw’r rhain nad ydynt o anghenraid yn gyfieithiadau gan nad oedd gan Dovaston, fel y cyfaddefai ei hun, ‘fawr o fedr’ yn y Gymraeg. Un haf, ac yntau’n ymweld â chyfaill, William Turner, ym Mhen-y-bryn ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, cyfarfu â’r cerddor a’r athro o Sais, John Charles Clifton (1781–1841) a oedd yn ymweld â Chymru o Ddulyn (lle’r oedd yn byw ac yn addysgu ar y pryd). Cynigiwyd bod y ddau’n cydweithio ac y byddai Clifton yn darparu’r cydgordio a’r trefniannau i nifer o’r alawon hynny yr oedd Dovaston wedi gosod ei benillion iddynt.
Dechreuodd y gwaith ar y gyfrol gyntaf yn 1816 ac fe’i cyhoeddwyd yn Nulyn y flwyddyn ganlynol dan y teitl A Selection of British Melodies. Mae’n cynnwys pedair ar ddeg o alawon (deg ohonynt yn rhai Cymreig) y gosodwyd cerddi Saesneg Dovaston arnynt. Mae ail ran British Melodies, a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1820, yn cynnwys geiriau Saesneg wedi’u gosod i ddeuddeg alaw, a saith ohonynt yn ddigamsyniol Gymreig. O’r pump arall, mae ‘Cease your Funning’ yn amrywiad ar ‘Llwyn Onn’, a nodir am ‘Reged’ mai alaw o Cumbria ydyw. Yn rhagarweiniad i’r ail ran ceir hefyd bum trefniant o alawon ar gyfer dau berfformiwr ar un piano; mae pedair o’r rhain yn alawon Cymreig, sef 'Dafydd y Garreg Wen', ‘Mwynen Conwy’, ‘Dyvyrwch Gwyr Dyvi’ ac ‘Erddigan Caer Waen’.
Ymddangosodd y penillion Saesneg a geir yn y cyfrolau hyn yn ddiweddarach, heb gerddoriaeth, fel y chwe cherdd ar hugain gyntaf yn British Melodies, rhan o flodeugerdd a gyhoeddwyd yn 1825 o gerddi Dovaston. Mae ei gerdd gynharach, ‘Fitz-Gwarine: A Ballad of the Welsh Border’ (1812), yn cynnwys penillion a osodwyd i nifer o alawon Cymreig: ‘Llwyn Onn’, ‘Gorhoffed Gwŷr Harlech’ a ‘Merch Megan’, ond ni cheir cerddoriaeth a chyfeiria Dovaston y darllenwyr at gyfrol Edward Jones, Relicks of the Welsh Bards a ‘chasgliad Parry’. Mae eraill o’i amryfal benillion yn defnyddio’r alawon ‘Bodlondeb’, ‘Hafod’, ‘Marwnad Telyn Hoel’, ‘Morfa Rhuddlan’, ‘Rhyfelgyrch Cadpen Morgan’ a ‘Toriad y Dydd’.
Cyhoeddwyd anerchiadau Dovaston ar alawon cenedlaethol y byd, ac alawon cenedlaethol Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru fel dwy o’i ‘Three Popular Lectures; one on Natural History, and two on National Melody’ (1839) ond ni chynhwysir enghreifftiau cerddorol argraffedig. Roedd hefyd yn naturiaethwr brwd a gwnaeth ddarganfyddiadau gwerthfawr wrth wneud gwaith maes mewn ornitholeg. Ymhlith ei gyfeillion lawer yr oedd yr ysgythrwr nodedig Thomas Bewick (1753–1828). Bu farw, yn ddibriod, ar 8 Awst 1854.
David R. Jones
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.