Dovaston, John Freeman Milward (1782-1854)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:16, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bardd, naturiaethwr a cherddor amatur. Fe’i ganed yn The Nursery, Twyford, West Felton, Swydd Amwythig, a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt a Choleg Crist, Rhydychen (1801–4). Er nad oedd wedi cael unrhyw addysg gerddorol ffurfiol, ymddiddorodd mewn cerddoriaeth er pan oedd yn blentyn, ac yn Rhydychen daeth yn gyfeillgar â’r Dr William Crotch (1775–1847). Gyda’i ganiatâd ef, a than ei gyfarwyddyd, aeth ati i drawsgrifio detholiad o alawon o’r ‘copïau dilysaf oll’, er na nodir ei ffynonellau. Ymddangosodd casgliad Crotch ei hun, Specimens of Various Styles of Music, yn 1806–7.

Graddiodd Dovaston yn y gyfraith ond rhoddodd y gorau i’r yrfa honno yn 1808 pan etifeddodd stad y teulu. Rhyddhaodd hyn ef i farddoni, ei ddiddordeb mawr arall, a gosododd nifer o’i benillion ei hun i alawon Cymreig; gosodiadau yw’r rhain nad ydynt o anghenraid yn gyfieithiadau gan nad oedd gan Dovaston, fel y cyfaddefai ei hun, ‘fawr o fedr’ yn y Gymraeg. Un haf, ac yntau’n ymweld â chyfaill, William Turner, ym Mhen-y-bryn ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, cyfarfu â’r cerddor a’r athro o Sais, John Charles Clifton (1781–1841) a oedd yn ymweld â Chymru o Ddulyn (lle’r oedd yn byw ac yn addysgu ar y pryd). Cynigiwyd bod y ddau’n cydweithio ac y byddai Clifton yn darparu’r cydgordio a’r trefniannau i nifer o’r alawon hynny yr oedd Dovaston wedi gosod ei benillion iddynt.

Dechreuodd y gwaith ar y gyfrol gyntaf yn 1816 ac fe’i cyhoeddwyd yn Nulyn y flwyddyn ganlynol dan y teitl A Selection of British Melodies. Mae’n cynnwys pedair ar ddeg o alawon (deg ohonynt yn rhai Cymreig) y gosodwyd cerddi Saesneg Dovaston arnynt. Mae ail ran British Melodies, a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1820, yn cynnwys geiriau Saesneg wedi’u gosod i ddeuddeg alaw, a saith ohonynt yn ddigamsyniol Gymreig. O’r pump arall, mae ‘Cease your Funning’ yn amrywiad ar ‘Llwyn Onn’, a nodir am ‘Reged’ mai alaw o Cumbria ydyw. Yn rhagarweiniad i’r ail ran ceir hefyd bum trefniant o alawon ar gyfer dau berfformiwr ar un piano; mae pedair o’r rhain yn alawon Cymreig, sef 'Dafydd y Garreg Wen', ‘Mwynen Conwy’, ‘Dyvyrwch Gwyr Dyvi’ ac ‘Erddigan Caer Waen’.

Ymddangosodd y penillion Saesneg a geir yn y cyfrolau hyn yn ddiweddarach, heb gerddoriaeth, fel y chwe cherdd ar hugain gyntaf yn British Melodies, rhan o flodeugerdd a gyhoeddwyd yn 1825 o gerddi Dovaston. Mae ei gerdd gynharach, ‘Fitz-Gwarine: A Ballad of the Welsh Border’ (1812), yn cynnwys penillion a osodwyd i nifer o alawon Cymreig: ‘Llwyn Onn’, ‘Gorhoffed Gwŷr Harlech’ a ‘Merch Megan’, ond ni cheir cerddoriaeth a chyfeiria Dovaston y darllenwyr at gyfrol Edward Jones, Relicks of the Welsh Bards a ‘chasgliad Parry’. Mae eraill o’i amryfal benillion yn defnyddio’r alawon ‘Bodlondeb’, ‘Hafod’, ‘Marwnad Telyn Hoel’, ‘Morfa Rhuddlan’, ‘Rhyfelgyrch Cadpen Morgan’ a ‘Toriad y Dydd’.

Cyhoeddwyd anerchiadau Dovaston ar alawon cenedlaethol y byd, ac alawon cenedlaethol Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru fel dwy o’i ‘Three Popular Lectures; one on Natural History, and two on National Melody’ (1839) ond ni chynhwysir enghreifftiau cerddorol argraffedig. Roedd hefyd yn naturiaethwr brwd a gwnaeth ddarganfyddiadau gwerthfawr wrth wneud gwaith maes mewn ornitholeg. Ymhlith ei gyfeillion lawer yr oedd yr ysgythrwr nodedig Thomas Bewick (1753–1828). Bu farw, yn ddibriod, ar 8 Awst 1854.

David R. Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.