Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Durkheim, Émile"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 9: Llinell 9:
 
'''2. [[Solidariaeth]] gymdeithasol'''
 
'''2. [[Solidariaeth]] gymdeithasol'''
  
Yn ''The Division of Labour'' (1893) gwahaniaethodd Durkheim rhwng dau fath o [[solidariaeth]] gymdeithasol. Disgrifiodd [[solidariaeth]] fecanyddol (''mechanical solidarity'') fel elfen o gymdeithas draddodiadol lle mae undod wedi’i seilio ar debygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwaith, eu credoau crefyddol, a’u [[gwerthoedd]]. Cyferbynnodd [[solidariaeth]] fecanyddol â [[solidariaeth]] organig (''organic solidarity''), ffurf ar solidariaeth a ddatblygodd yn sgil newidiadau i’r byd gwaith yn ystod y Chwyldro Diwylliannol. Yn ôl Durkheim, yn ystod y cyfnod hwn, roedd ystod ehangach o swyddi ar gael, yn ogystal â mwy o arbenigedd. Nid oedd pobl nawr o reidrwydd yn dilyn eu rhieni i’r un swyddi, ac roedd mwy o ddewis gan unigolion dros elfennau o’u bywydau. Dadleuodd Durkheim fod hyn yn arwain at fwy o [[unigolyddiaeth]] o fewn y gymdeithas, ond bod solidariaeth yn cael ei chynnal gan fod y swyddi newydd hyn yn galw am fwy o gydweithrediad rhwng unigolion. Roedd rolau pobl felly yn fwy cyd-ddibynnol nag yr oeddent o fewn cymdeithasau cyntefig.
+
Yn ''The Division of Labour'' (1893) gwahaniaethodd Durkheim rhwng dau fath o [[solidariaeth]] gymdeithasol. Disgrifiodd [[solidariaeth]] fecanyddol (''mechanical solidarity'') fel elfen o gymdeithas draddodiadol lle mae undod wedi’i seilio ar debygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwaith, eu credoau crefyddol, a’u [[gwerthoedd]]. Cyferbynnodd [[solidariaeth]] fecanyddol â [[solidariaeth]] organig (''organic solidarity''), ffurf ar [[solidariaeth]] a ddatblygodd yn sgil newidiadau i’r byd gwaith yn ystod y Chwyldro Diwylliannol. Yn ôl Durkheim, yn ystod y cyfnod hwn, roedd ystod ehangach o swyddi ar gael, yn ogystal â mwy o arbenigedd. Nid oedd pobl nawr o reidrwydd yn dilyn eu rhieni i’r un swyddi, ac roedd mwy o ddewis gan unigolion dros elfennau o’u bywydau. Dadleuodd Durkheim fod hyn yn arwain at fwy o [[unigolyddiaeth]] o fewn y gymdeithas, ond bod solidariaeth yn cael ei chynnal gan fod y swyddi newydd hyn yn galw am fwy o gydweithrediad rhwng unigolion. Roedd rolau pobl felly yn fwy cyd-ddibynnol nag yr oeddent o fewn cymdeithasau cyntefig.
  
 
Datblygodd Durkheim gysyniad yr [[ymwybyddiaeth dorfol]] (''collective consciousness'') i esbonio newidiadau yn y ffordd yr oedd pobl yn meddwl o fewn cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig. Defnyddiodd y term i ddisgrifio’r tebygrwydd yng nghredoau a gwerthoedd pobl mewn cymdeithasau traddodiadol. Yn ôl Durkheim, roedd [[ymwybyddiaeth dorfol]] yn gryf pan oedd solidariaeth fecanyddol yn gryf o fewn cymdeithas. Gwelai fwy o amrywiaeth yng nghredoau pobl o fewn cymdeithasau oedd wedi eu nodweddu gan solidariaeth organig; roedd y rhain yn tueddu i fod yn fwy seciwlar, â mwy o ffocws ar hawliau’r unigolyn nag ar y gymdeithas ac ar grefydd.
 
Datblygodd Durkheim gysyniad yr [[ymwybyddiaeth dorfol]] (''collective consciousness'') i esbonio newidiadau yn y ffordd yr oedd pobl yn meddwl o fewn cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig. Defnyddiodd y term i ddisgrifio’r tebygrwydd yng nghredoau a gwerthoedd pobl mewn cymdeithasau traddodiadol. Yn ôl Durkheim, roedd [[ymwybyddiaeth dorfol]] yn gryf pan oedd solidariaeth fecanyddol yn gryf o fewn cymdeithas. Gwelai fwy o amrywiaeth yng nghredoau pobl o fewn cymdeithasau oedd wedi eu nodweddu gan solidariaeth organig; roedd y rhain yn tueddu i fod yn fwy seciwlar, â mwy o ffocws ar hawliau’r unigolyn nag ar y gymdeithas ac ar grefydd.
Llinell 17: Llinell 17:
 
'''3. Durkheim ar Grefydd'''  
 
'''3. Durkheim ar Grefydd'''  
  
Roedd gan Durkheim ddiddordeb mawr mewn [[crefydd]], yn bennaf o ran ei dylanwad ar solidariaeth gymdeithasol. Yn yr E''lementary Forms of Religious Life'' (1912), dadleuodd fod llawer o debygrwydd rhwng ffurfiau modern o fyw a chrefydd, o ran y ddibyniaeth ar symbolau a ffurfiau torfol o fyw. Un o’i brif ddadleuon oedd nad oedd Duw ddim yn rhan hanfodol o grefydd ac mai prif rôl [[crefydd]] yw creu solidariaeth gymdeithasol (Morris-Jones 1984/2015).
+
Roedd gan Durkheim ddiddordeb mawr mewn [[crefydd]], yn bennaf o ran ei dylanwad ar solidariaeth gymdeithasol. Yn yr ''Elementary Forms of Religious Life'' (1912), dadleuodd fod llawer o debygrwydd rhwng ffurfiau modern o fyw a chrefydd, o ran y ddibyniaeth ar symbolau a ffurfiau torfol o fyw. Un o’i brif ddadleuon oedd nad oedd Duw ddim yn rhan hanfodol o grefydd ac mai prif rôl [[crefydd]] yw creu solidariaeth gymdeithasol (Morris-Jones 1984/2015).
  
 
Yn yr ''Elementary Forms of Religious Life'', dewisodd Durkheim (1912) astudio ffurf ar dotemiaeth (''totemistic'') Awstraliaid fel ei destun. Ei fwriad oedd astudio’r hyn a welai fel ffurf fwyaf syml [[crefydd]], er mwyn gallu dynodi ei rhinweddau greddfol. Mae ffocws Durkheim ar dotemiaeth fel ffurf gyntefig ar grefydd wedi cael ei feirniadu yn fwy diweddar (Giddens, 1986): nid yw anthropolegwyr bellach yn gweld totemiaeth fel ffurf ar grefydd – ond fel un elfen o grefydd. Er hyn, mae nifer o syniadau Durkheim ar grefydd wedi bod yn ddylanwadol o fewn cymdeithaseg fodern, er enghraifft ei ddadl bod cymdeithasau crefyddol yn gwahaniaethu’n gryf rhwng y cysegredig a’r anghysegredig. Yn ôl Durkheim, mae’r cysegredig yn cynnwys yr holl arferion, y defodau a’r credoau sydd yn gysylltiedig â’r grefydd. Pwysleisiodd bwysigrwydd defodau yn arbennig (Roberts a Birt 1987/2014).
 
Yn yr ''Elementary Forms of Religious Life'', dewisodd Durkheim (1912) astudio ffurf ar dotemiaeth (''totemistic'') Awstraliaid fel ei destun. Ei fwriad oedd astudio’r hyn a welai fel ffurf fwyaf syml [[crefydd]], er mwyn gallu dynodi ei rhinweddau greddfol. Mae ffocws Durkheim ar dotemiaeth fel ffurf gyntefig ar grefydd wedi cael ei feirniadu yn fwy diweddar (Giddens, 1986): nid yw anthropolegwyr bellach yn gweld totemiaeth fel ffurf ar grefydd – ond fel un elfen o grefydd. Er hyn, mae nifer o syniadau Durkheim ar grefydd wedi bod yn ddylanwadol o fewn cymdeithaseg fodern, er enghraifft ei ddadl bod cymdeithasau crefyddol yn gwahaniaethu’n gryf rhwng y cysegredig a’r anghysegredig. Yn ôl Durkheim, mae’r cysegredig yn cynnwys yr holl arferion, y defodau a’r credoau sydd yn gysylltiedig â’r grefydd. Pwysleisiodd bwysigrwydd defodau yn arbennig (Roberts a Birt 1987/2014).

Diwygiad 10:38, 25 Mai 2023

1. Cyflwyniad i Émile Durkheim

Mae Émile Durkheim yn cael ei weld fel un o brif sefydlwyr cymdeithaseg. Dadleuodd yn gryf y dylai cymdeithaseg gael ei gweld fel disgyblaeth wyddonol, a datblygodd ddulliau newydd er mwyn astudio’r byd cymdeithasol (Morris-Jones 1984/2015).

Ganed Durkheim i rieni Iddewig yn Lorraine, Ffrainc, yn 1858. Bu’n addysgu ym Mhrifysgol Bordeaux rhwng 1888 a 1902, pan gymerodd swydd yn y Sorbonne, lle’r arhosodd weddill ei fywyd. Yn 1898 sefydlodd L’Annee sociologique, cyfnodolyn pwysig iawn i’r gwyddorau cymdeithasol. Yn ogystal, ysgrifennodd nifer o lyfrau pwysig i’r gwyddorau cymdeithasol yn ystod ei fywyd, gan gynnwys The Division of Labour in Society (De la division du travail social, 1893), The Rules of the Sociological Method (Les Règles de la méthode sociologique, 1895), Suicide (Le Suicide: Étude de sociologie, 1897) a The Elementary Forms of the Religious Life (Les formes élémentaires de la vie religieuse, 1912).

Roedd llawer o waith Durkheim yn edrych ar y newidiadau cymdeithasol a ddeilliodd o’r Chwyldro Diwydiannol (Morris-Jones 1984/2015). Un o’r cwestiynau mwyaf blaengar yng ngwaith Durkheim oedd: sut y gellir cynnal solidariaeth gymdeithasol yn ystod y cyfnod diwylliannol pan mae’r cysylltiadau traddodiadol cymdeithasol, fel crefydd a’r teulu, yn gwanhau? Sylwodd Durkheim fod cymdeithas yn dod yn fwy heterogenaidd yn ystod y cyfnod hwn, a hynny oherwydd newidiadau yn natur gwaith yn bennaf.

2. Solidariaeth gymdeithasol

Yn The Division of Labour (1893) gwahaniaethodd Durkheim rhwng dau fath o solidariaeth gymdeithasol. Disgrifiodd solidariaeth fecanyddol (mechanical solidarity) fel elfen o gymdeithas draddodiadol lle mae undod wedi’i seilio ar debygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwaith, eu credoau crefyddol, a’u gwerthoedd. Cyferbynnodd solidariaeth fecanyddol â solidariaeth organig (organic solidarity), ffurf ar solidariaeth a ddatblygodd yn sgil newidiadau i’r byd gwaith yn ystod y Chwyldro Diwylliannol. Yn ôl Durkheim, yn ystod y cyfnod hwn, roedd ystod ehangach o swyddi ar gael, yn ogystal â mwy o arbenigedd. Nid oedd pobl nawr o reidrwydd yn dilyn eu rhieni i’r un swyddi, ac roedd mwy o ddewis gan unigolion dros elfennau o’u bywydau. Dadleuodd Durkheim fod hyn yn arwain at fwy o unigolyddiaeth o fewn y gymdeithas, ond bod solidariaeth yn cael ei chynnal gan fod y swyddi newydd hyn yn galw am fwy o gydweithrediad rhwng unigolion. Roedd rolau pobl felly yn fwy cyd-ddibynnol nag yr oeddent o fewn cymdeithasau cyntefig.

Datblygodd Durkheim gysyniad yr ymwybyddiaeth dorfol (collective consciousness) i esbonio newidiadau yn y ffordd yr oedd pobl yn meddwl o fewn cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig. Defnyddiodd y term i ddisgrifio’r tebygrwydd yng nghredoau a gwerthoedd pobl mewn cymdeithasau traddodiadol. Yn ôl Durkheim, roedd ymwybyddiaeth dorfol yn gryf pan oedd solidariaeth fecanyddol yn gryf o fewn cymdeithas. Gwelai fwy o amrywiaeth yng nghredoau pobl o fewn cymdeithasau oedd wedi eu nodweddu gan solidariaeth organig; roedd y rhain yn tueddu i fod yn fwy seciwlar, â mwy o ffocws ar hawliau’r unigolyn nag ar y gymdeithas ac ar grefydd.

Roedd Durkheim yn gweld newidiadau yn natur y gyfraith fel ymateb i ddatblygiad solidariaeth organig a dirywiad ymwybyddiaeth dorfol. O fewn cymdeithasau oedd yn dibynnu ar ymwybyddiaeth dorfol, rôl y gyfraith oedd cosbi unigolion oedd yn torri’r rheolau. Ond o fewn cymdeithasau a nodweddir gan solidariaeth organig, roedd yn rhaid datblygu cyfreithiau oedd wedi’u seilio ar adferiad yn hytrach na chosb. O ganlyniad, mae Durkheim yn dadlau bod cymdeithasau fel hyn yn fwy dibynnol ar gyfreithiau cydweithredol, er enghraifft rhai sifil, gweithdrefnol, masnachol, cyfansoddiadol a gweinyddol.

3. Durkheim ar Grefydd

Roedd gan Durkheim ddiddordeb mawr mewn crefydd, yn bennaf o ran ei dylanwad ar solidariaeth gymdeithasol. Yn yr Elementary Forms of Religious Life (1912), dadleuodd fod llawer o debygrwydd rhwng ffurfiau modern o fyw a chrefydd, o ran y ddibyniaeth ar symbolau a ffurfiau torfol o fyw. Un o’i brif ddadleuon oedd nad oedd Duw ddim yn rhan hanfodol o grefydd ac mai prif rôl crefydd yw creu solidariaeth gymdeithasol (Morris-Jones 1984/2015).

Yn yr Elementary Forms of Religious Life, dewisodd Durkheim (1912) astudio ffurf ar dotemiaeth (totemistic) Awstraliaid fel ei destun. Ei fwriad oedd astudio’r hyn a welai fel ffurf fwyaf syml crefydd, er mwyn gallu dynodi ei rhinweddau greddfol. Mae ffocws Durkheim ar dotemiaeth fel ffurf gyntefig ar grefydd wedi cael ei feirniadu yn fwy diweddar (Giddens, 1986): nid yw anthropolegwyr bellach yn gweld totemiaeth fel ffurf ar grefydd – ond fel un elfen o grefydd. Er hyn, mae nifer o syniadau Durkheim ar grefydd wedi bod yn ddylanwadol o fewn cymdeithaseg fodern, er enghraifft ei ddadl bod cymdeithasau crefyddol yn gwahaniaethu’n gryf rhwng y cysegredig a’r anghysegredig. Yn ôl Durkheim, mae’r cysegredig yn cynnwys yr holl arferion, y defodau a’r credoau sydd yn gysylltiedig â’r grefydd. Pwysleisiodd bwysigrwydd defodau yn arbennig (Roberts a Birt 1987/2014).

Roedd Durkheim yn gweld defodau fel gweithredoedd oedd yn cynrychioli ac yn creu credoau torfol y gymdeithas, ac roedd yn meddwl fod ganddyn nhw rôl allweddol o ran atgyfnerthu solidariaeth gymdeithasol, ar sail moesau a gwerthoedd cyffredin. Ar y llaw arall, o fewn cymdeithas anghysegredig, mae diffyg rheolau cymdeithasol a moesol, ac felly’r perygl yw fod unigolion yn canolbwyntio ar eu lles eu hunain yn unig, yn hytrach nag ar les y gymuned gyfan (Morris-Jones 1984/2015).

4. Durkheim a’r berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas

Un o brif amcanion Durkheim oedd sefydlu cymdeithaseg fel disgyblaeth wyddonol a oedd yn defnyddio dulliau gwyddonol i arsylwi ac esbonio’r byd cymdeithasol. Nid oedd yn credu y gallai dulliau seicolegol wneud hyn, gan eu bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn unig. Credai Durkheim yn gryf fod yna fyd cymdeithasol sy’n uwch nag unigolion, a bod hyn yn effeithio ar gymdeithas ac yn ei strwythuro. Yn The Rules of the Sociological Method (1885) disgrifiodd ffeithiau cymdeithasol fel ffurfiau o weithredu, meddwl a theimlo sy’n bodoli ar wahân i’r unigolyn, ac sy’n ymarfer pŵer gorfodol arnyn nhw. Maent yn cynnwys credoau ac arferion torfol sy’n anodd i unigolion eu gwrthsefyll, ac sy’n dylanwadu ar eu hagweddau a’u hymddygiad.

5. Durkheim a’i waith ar hunanladdiad

Yn Suicide (1897) fe ddefnyddiodd Durkheim y dulliau yr oedd wedi eu hamlinellu yn y Rules of the Sociological Method (1885) er mwyn ceisio darganfod y ffactorau cymdeithasol oedd yn achosi hunanladdiad. Dewisodd hunanladdiad fel ei astudiaeth achos. Ar y pryd roedd hyn yn cael ei weld fel ffenomen seicolegol, y gellid ei hesbonio gan ffactorau am yr unigolyn yn unig, fel mater iechyd meddwl. Ond roedd Durkheim am brofi bod ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar dueddiadau tuag at hunanladdiad. Gwnaeth hyn drwy edrych ar ystadegau rhyngwladol ar hunanladdiad dros Ewrop. Edrychodd ar nifer o ffactorau gwahanol, fel llythrennedd, statws priodasol a chrefydd.

Gwahaniaethodd rhwng pedwar math o hunanladdiad: hunanladdiad egoïstaidd (egoistic suicide), hunanladdiad allgarol (altruistic suicide), hunanladdiad anomig (anomic suicide) a hunanladdiad tynghedol (fatalistic suicide).

5.1 Hunanladdiad egoïstaidd

Yn ôl Durkheim, mae hunanladdiad egoïstaidd yn digwydd pan nad yw’r unigolyn yn teimlo’i fod wedi’i integreiddio’n gryf o fewn y gymdeithas ac nad yw’n teimlo’r un math o ddyletswydd i’w gymrodyr. Roedd hyn yn gysylltiedig â’i syniadau am effeithiau unigolyddiaeth ar gymdeithas. Defnyddiodd yr esiampl fod cyfraddau hunanladdiad yn tueddu i fod yn uwch o fewn rhanbarthau Protestannaidd Ewrop o’u cymharu â rhai Catholig. Credai fod hyn oherwydd bod llai o integreiddio o fewn y cymdeithasau Protestannaidd (Roberts a Birt 1987/2014). Dadleuodd fod hyn yn ganlyniad y pwyslais ar unigolyddiaeth a pherthynas yr unigolyn â Duw o fewn y grefydd.

5.2 Hunanladdiad allgarol

Yn ôl Durkheim, tra mae hunanladdiad egoïstaidd yn digwydd oherwydd diffyg integreiddio o fewn y gymdeithas, mae hunanladdiad allgarol yn digwydd pan fydd yr integreiddio yn rhy gryf. Rhoddodd esiamplau o’r disgwyliad y byddai gwragedd yn lladd eu hunain ar ôl marwolaeth eu gwŷr yn Bengal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hefyd, roedd disgwyl y byddai dynion mewn cymdeithasau rhyfelgar, fel y Gothiaid a Cheltiaid Sbaen, yn lladd eu hunain neu’n marw mewn rhyfel er mwyn osgoi cywilydd marwolaeth o henaint neu salwch.

5.3 Hunanladdiad anomig

Y trydydd math o hunanladdiad oedd hunanladdiad anomig. Roedd anomie yn gysyniad pwysig a dylanwadol yng ngwaith Durkheim. Mae anomie yn digwydd pan fydd y rheolau cymdeithasol sy’n uno cymdeithasau yn methu (Morris-Jones 1984/2015). Defnyddiodd y cysyniad yng nghyd-destun y newidiadau cymdeithasol a ddeilliodd o’r cyfnod o drawsnewid rhwng solidariaeth fecanyddol a solidariaeth organig. Yn Division of Labour, dadleuodd fod [[anomie yn digwydd pan oedd y newidiadau hyn yn digwydd yn rhy gyflym, fel ei bod yn anodd i bobl addasu i ffurf newydd o fyw, gan nad oedd y normau cymdeithasol yn ddigon cryf. Roedd yn credu y gallai hyn arwain at hunanladdiad anomig, pan fydd pobl yn teimlo’n ddibwrpas ac yn ansicr sut y dylent fyw eu bywydau.

5.4 Hunanladdiad tynghedol

Yn wir, mae hunanladdiad tynghedol yn aml yn cael ei hepgor o drafodaethau modern ar deipoleg hunanladdiad Durkheim. Er na thrafodwyd y math hwn o hunanladdiad yn fanwl gan Durkheim ei hun, mae’n werth tynnu sylw ato. Tra mae hunanladdiad anomig yn digwydd mewn cymdeithasau lle mae diffyg rheoleiddio (regulation), mae hunanladdiad tynghedol i’w gael mewn cymdeithasau sydd â gormod o reoleiddio. Caiff yr unigolyn ei reoli’n gaeth gan y gymdeithas, gan arwain at amodau gormesol. Byddai unigolion sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros eu bywydau yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad. Byddai enghreifftiau o hyn yn cynnwys caethweision a charcharorion, sy’n dewis hunanladdiad/ marw yn hytrach na pharhau i ddioddef yr amodau gormesol sy’n eu hwynebu. 6. Durkheim ar Addysg

Roedd trafodaeth Durkheim ar addysg yn rhan allweddol o’i waith; roedd yn addysgu’r pynciau addysg a chymdeithaseg yn y Sorbonne. Yn The Rules of the Sociological Method (1895), disgrifiodd addysg fel un o’r prif ffyrdd yr oedd cymdeithasau’n eu defnyddio i drosglwyddo gwerthoedd a moesau o un genhedlaeth i’r llall. Roedd Durkheim yn credu bod digon o homogenedd mewn cymdeithas er mwyn iddo allu gweithredu, ac y gellid sicrhau hyn drwy’r system addysg. Yn Division of Labour (1893), dadleuodd fod addysg hefyd yn paratoi plant ar gyfer y byd gwaith, ac yn sicrhau bod digon o amrywioldeb fel bod pobl ar gael i gyflawni rolau cymdeithasol angenrheidiol.

7. Dylanwad Durkheim

Bu farw Durkheim o strôc yn 1917, wedi marwolaeth ei fab yn y Rhyfel Byd Cyntaf ddwy flynedd yn gynharach. Mae ei waith wedi bod yn ddylanwadol iawn ar nifer o feysydd gwahanol o fewn cymdeithaseg, gan gynnwys troseddeg, addysg a chrefydd.

Mae deunyddiau dysgu digidol ar Durkheim wedi’u creu gan Rhian Hodges (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhian Barrance

Llyfryddiaeth

Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (New York: Free Press).

Durkheim, É. (1885/2013), The Rules of the Sociological Method and Selected Texts on Sociology and its Method (New York: Free Press).

Durkheim, É. (1897/2002), Suicide (London: Routledge).

Durkheim, É. (1912/2001), The Elementary Forms of Religious Life (Oxford: Oxford University Press).

Giddens, A. (1986), Durkheim (London: Fontana Press).

Hodges, R. (2022), Émile Durkheim. https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 14 Ebrill 2022].

Morris-Jones, H. (1984/2015), Y Meddwl Modern: Durkheim https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1415~4l~LpqkFfRf [Cyrchwyd: 18 Mehefin 2021].

Roberts, E. a Birt, P. (1987/2014), Be Ddyweddodd Durkheim https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1899~4B~dia9P9mc [Cyrchwyd: 18 Mehefin 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.