Edwards, Lewis

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Lewis Edwards (1809-87) oedd deallusyn pennaf Cymru’r 19g. Wedi’i eni ym Mhen-llwyn, Ceredigion, bu’n cadw ysgolion yn ei sir enedigol ac yn Sir Gaerfyrddin cyn mynd ati i ymorol am addysg uwch. Ac yntau’n Ymneilltuwr, ni châi fynychu y ddwy hen brifysgol, sef Rhydychen na Chaer-grawnt, felly wedi treulio tymor ym mhrifysgol newydd Llundain, anelodd am Brifysgol Caeredin. Cafodd eistedd yno wrth draed Thomas Chalmers, yr athro diwinyddiaeth, a’r beirniad llenyddol John Wilson (‘Christopher North’) a oedd eisoes yn hysbys iddo trwy’i gyfraniadau i Blackwood’s Edinburgh Magazine, un o gylchgronau blaengar yr oes. Wedi graddio yn 1836 gyda’r clod uchaf, ymhen tair blynedd yn hytrach na’r pedair arferol, dychwelodd i Gymru a sefydlu yn y Bala, cartref ei wraig (hithau yn wyres i Thomas Charles), ysgol er mwyn hyfforddi pregethwyr i’r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg. Yn wahanol i’r Hen Ymneilltuwyr, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, ac i’r Eglwys yng Nghymru, ni feddai’r Methodistiaid Calfinaidd (a oedd erbyn hynny yr enwad Anghydffurfiol mwyaf yng Nghymru) ar eu coleg eu hunain, a buan y daeth Coleg y Bala yn brif ganolfan dysg y genedl gyfan. Gyda marwolaeth ei brifathro yn 1887 roedd tua 700 o wŷr ifainc wedi’u haddysgu yno, lawer ohonynt, fel O. M. Edwards, yn mynd ymlaen i wneud eu cyfraniad nodedig eu hunain i les y wlad.

Yn ogystal â’i awydd i godi safonau addysgol y pregethwyr a thrwyddynt y genedl gyfan, mynnodd hefyd ehangu gorwelion diwylliannol Cymru, a’i brif gyfrwng i wneud hynny oedd Y Traethodydd, y cylchgrawn a sefydlodd ar batrwm y cylchgronau llenyddol Saesneg (Blackwood’s yn arbennig), yn 1845. (‘My devoutest aspiration’, meddai unwaith, ‘is to see my beloved Wales restored to her proper place among the nations of the earth as the land of intellect and virtue’). Addysgu, goleuo, meithrin chwaeth, diwyllio a gwareiddio oedd amcan y chwarterolyn, a chyfryngodd i’r Cymry safonau Ewropeaidd. Llenyddol, athronyddol a diwinyddol oedd ei gynnwys gan mwyaf, ac ar ei dudalennau cyflwynwyd syniadau Kant, Goethe, elfennau celf a cherddoriaeth, Shakespeare, Milton, clasuron rhyddiaith Gymraeg yr 17g. ynghyd â thoreth o bynciau eraill. Bu’n gyfrwng dadeni deallusol. ‘The period of awakening and illumination in the Principality’, meddai Thomas Charles Edwards, mab Lewis Edwards a phrifathro cyntaf Coleg Aberystwyth, ‘may be dated approximately from the beginning of the year 1845, when the first Welsh quarterly periodical made its appearance.’ Diwinyddiaeth, fodd bynnag, oedd pennaf ymrwymiad Edwards, ac yn ei gyfres ‘Cysondeb y Ffydd’ (1845-61) a’i gyfrol Athrawiaeth yr Iawn (1860), gosododd Calfiniaeth ei draddodiad cysefin ar seiliau ehangach a mwy catholig. Sicrhaodd hefyd y byddai’r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn chwarae eu rhan nid fel sect gulfarn ond fel rhan gyflawn ac aeddfed o’r teulu Presbyteraidd byd-eang.

Er bod ei farn ar y Gymraeg, fel llawer yn ei genhedlaeth, yn amwys (dangoswyd hyn yn ei ffrwgwd â’i fyfyriwr Emrys ap Iwan yn helynt ‘yr Inglis Côs’ yn yr 1870au), ni ellir amau ei gyfraniad at addysgu’r genedl, ei diwyllio a lledu’i phyrth deallusol. Mewn gwirionedd roedd ymhlith y mwyaf o Gymry’r 19g.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Evans, T. L. (1967), Lewis Edwards (Abertawe: Gwasg John Penry).

Morgan. D. Densil (2008), ‘Lewis Edwards (1809-87) and Theology in Wales’, The Welsh Journal of Religious History, 3, 15-28.

Morgan, D. Densil (2009), Lewis Edwards (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.