Edwards, Trebor (g.1939)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:05, 19 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gantorion mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Cymru yn ystod chwarter olaf yr 20g. Fe’i ganed yn Ninbych a bu’n ffermio ar hyd ei oes yn ardal Betws Gwerful Goch ger Corwen. Er mai amaethyddiaeth oedd prif gynhaliaeth y teulu, roedd i gerddoriaeth le pwysig ar yr aelwyd, ac roedd ei daid – a fu’n ffermio ym Mhen Bryniau, Betws Gwerful Goch – yn berchen ar lais bariton cryf.

Yn ystod yr 1970au cynnar bu Trebor Edwards yn canu mewn cyngherddau gyda Hogiau Clwyd a Lleisiau’r Alwen, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau radio a theledu megis Sêr y Siroedd, Dewch i’r Llwyfan, Dyma Gyfle ac Opportunity Knocks. Yn yr ail gyfres o Dyma Gyfle yn 1971 canodd ‘Holy City’, gan ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth a ddeuai â chantorion o bob rhan o ogledd Cymru i berfformio o flaen torf o dros fil ym Mhafiliwn Corwen.

Yn dilyn ei lwyddiant ar Dyma Gyfle, cynyddodd y galw am ei lais tenor persain. Roedd Trebor Edwards yn hunanddysgedig ar y cyfan ac yn ganwr naturiol wrth reddf ond datblygodd dechneg leisiol drwy dderbyn hyfforddiant gyda’r arweinyddes a’r gyfeilyddes Manon Easter Lewis, Gwilym Gwalchmai Jones (1921–70) a fu’n darlithio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) a’r tenor Rowland Jones (1912–78) a fu’n canu am flynyddoedd gyda chwmni Sadler’s Wells, Llundain. Bu’r pianydd Annette Bryn Parri hefyd yn gyfeilydd iddo am gyfnod gan gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu caneuon.

Yn fuan yn ei yrfa, penderfynodd Trebor Edwards mai gwell fyddai canu mewn cyngherddau a nosweithiau llawen yn hytrach na chystadlu mewn eisteddfodau. Dechreuodd ei yrfa recordio yn 1973 gyda dwy EP ar label Tŷ ar y Graig, is-gwmni Sain. Bu gwerthiant calonogol i’w recordiau cynnar, megis Dyma Fy Nghân (Sain, 1976) a Cân y Bugail (Sain, 1978), gyda ‘’Rhen Shep’ – cyfieithiad a wnaed gan Edward Morus Jones pan oedd ond yn bedair ar ddeg oed – yn ffefryn ar Dyma Fy Nghân.

Daeth llwyddiant ysgubol i ran Trebor Edwards ar ôl recordio’r gân ‘Un Dydd ar y Tro’, trefniant o’r gân ‘One Day at a Time, Sweet Jesus’ gan Marijohn Wilkins a Kris Kristofferson a recordiwyd yn wreiddiol gan Marilyn Sellars yn 1974. Roedd y gân yn hynod o addas i ansawdd sain a chwmpas ei lais. O fewn rhai misoedd o’i ryddhau gwerthodd yr albwm o’r un enw 24,000 o gopïau gan wneud y canwr yn un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus erioed yn yr iaith Gymraeg. Rhyddhawyd Ychydig Hedd yn 1982 ac yna Gwelaf dy Wên yn 1984, recordiau a oedd yn cynnwys trefniannau o ganeuon gan artistiaid megis Ryan Davies, Caryl Parry Jones, Robat Arwyn a Linda Gittins, ynghyd â nifer o emynau Cymraeg.

Roedd ‘Ychydig Hedd’ yn drefniant o ‘Ein bißchen Frieden’ gan Ralph Siegel a Bernd Meinunger, cân a enillodd gystadleuaeth yr Eurovision i Nicole o’r Almaen yn 1982. Ar gyfer y fersiwn Cymraeg, ymunodd disgyblion Ysgol Uwchradd Llangefni o dan Mary S. Jones gyda Trebor Edwards, ac er na fu’n gymaint o lwyddiant ag ‘Un Dydd ar y Tro’, gwerthodd y record ymhell dros 10,000 o gopïau.

Rhwng 1976 a 2008 rhyddhaodd y canwr bymtheg o recordiau, ynghyd ag ambell record yn Saesneg, megis Presenting Trebor Edwards (Sain, 1983). Ar sail gwerthiant ei recordiau, derbyniodd Trebor Edwards bum disg aur. Fodd bynnag, o ganlyniad i boblogrwydd digyffelyb ei recordiau bu rhai adolygwyr yn feirniadol o’r dewis diantur o repertoire a’r ddibyniaeth ar brydiau ar ganeuon sentimental megis ‘Capel y Wlad’ a ‘Croesffordd y Llan’. Ond yn ôl y cerddor Rhys Jones, roedd ei ganeuon yn llenwi bwlch amlwg ac arwyddocaol iawn ym maes adloniant Cymraeg:

[does] dim dadl … fod Trebor [Edwards] wedi ennill ei le yng nghalonnau’r rhan fwyaf ohonom ni. Mae’n anodd dirnad weithiau beth yn union yw’r gyfrinach … [un] o’m gofidiau i yw mai ychydig iawn, iawn o’n cantorion cyfoes sy’n anelu at gerddoriaeth ‘canol y ffordd’, hynny yw at chwaeth y rhan fwyaf o’r boblogaeth. A dyma gyfrinach Trebor ddwedwn i. (Edwards a Pritchard 2008, 144–5)

Dywedodd awdur cofiant Trebor Edwards, Elfyn Pritchard, mai cyfrinach ei lwyddiant oedd y ffaith ei fod yn rhoi’r un parch a sylw i bawb wrth ganu, ac yn sicr roedd naturioldeb a diffuantrwydd ei ganeuon yn dod â’r gynulleidfa’n nes ato.

Erbyn 1994, roedd recordiau Trebor Edwards ar label Sain wedi gwerthu dros 100,000 o gopïau, ac ers hynny mae’r cyfanswm wedi cyrraedd ymhell dros 200,000. Bu hyn yn fodd i gwmni Sain ddatblygu repertoire estynedig o artistiaid a genres trwy ryddhau cynnyrch roc, pop a gwerin mwy amgen ac arbrofol, neu’n wir ambell record glasurol nad oedd yn debygol o werthu mwy na rhai cannoedd. Fel y dywedodd rheolwr Sain, Dafydd Iwan:

Mae record gan Trebor Edwards yn gwerthu cymaint ddengwaith â goreuon y recordiau roc Cymraeg. Mae Côr Meibion da neu record o oreuon Cerdd Dant Cymru yn gwerthu cymaint deirgwaith â’r grwpiau roc mwyaf poblogaidd. I raddau helaeth iawn, Trebor Edwards a Chorau Meibion sy’n cynnal recordiau roc Cymraeg. (Wyn 2002, 378)

Parhaodd Trebor Edwards i ganu yn ystod yr 1990au, gan ymddangos ar nifer o raglenni teledu megis Cais am Gân, Trebor, Taro Tant a Noson Lawen, ynghyd â theithio’r byd yn perfformio mewn cyngherddau ac achlysuron amrywiol a chan ddifyrru môr-deithwyr ar longau pleser. Fe’i hetholwyd yn llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Ave Maria [EP] (Tŷ ar y Graig TAG245, 1973)
Duw Ŵyr [EP] (Tŷ ar y Graig TAG249, 1974)
Dyma Fy Nghân (Sain 1048D, 1976)
Cân y Bugail (Sain 1113D, 1978)
Un Dydd ar y Tro (Sain 1193D, 1980)
Ychydig Hedd (Sain C860, 1982)
Gwelaf dy Wên (Sain 1313D, 1984)
Diolch (Sain 1387D, 1986)
Edrych Ymlaen (Sain C696, 1990)
Ceidwad Byd (Sain SCD2061, 1993)
Ffefrynnau Newydd (Sain SCD2183, 1998)
Sicrwydd Bendigaid (Sain SCD2530, 2008)
Ceidwad Byd (Sain SCD2061, 1993)

Casgliadau:

Presenting Trebor Edwards (Sain 1280D, 1983)
Goreuon Trebor (Sain SCD9031, 1988)
The Very Best of Trebor Edwards (Sain SCD2169, 1997)
Trebor ar ei Orau (Sain SCD2377, 2007)

Llyfryddiaeth

Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)
Trebor Edwards ac Elfyn Pritchard, Un Dydd ar y Tro (Talybont, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.