Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ellis, Osian (1928-2021)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 14: Llinell 14:
 
Ymhlith y cyfansoddwyr eraill a ysgrifennodd ar ei gyfer y mae [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] (1900-83); [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] (1929–2008); Jørgen Jersild (1913-2004) - a gyflwynwyd i Ellis gan Britten; [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] (1934–92); Malcolm Arnold (1921-2006); Gian Carlo Menotti (1911-2007); William Schuman (1910–92); Robin Holloway (g.1943) a [[Samuel, Rhian (g.1944) | Rhian Samuel]] (g.1944). Ymhlith gweithiau gwreiddiol Osian Ellis y mae’r ''St Asaph Canticles'' (1988) a ''Diversions'' ar gyfer dwy delyn (1990).
 
Arweiniodd cyfnod o ymchwil yng Ngregynog at ei lyfr, ''The Story of the Harp in Wales'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), ac mae wedi cyhoeddi erthyglau ar lawysgrif [[Ap Huw, Robert (c.1580-1665) | Robert ap Huw]] ac ar [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]] (Rhiwabon). Yn 1947 fe’i penodwyd yn aelod o bwyllgor gwaith [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a bu’n un o’r is-lywyddion er ''c.''1969; mae hefyd yn aelod o [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru | Gymdeithas Cerdd Dant Cymru]]. Ymhlith yr anrhydeddau niferus a ddaeth i’w ran y mae CBE (1971), DMus er anrhydedd (Prifysgol Cymru, 1970), FRAM (1960) a Chymrodoriaeth [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Bangor. Mae ei waith digymar gyda rhai o gerddorion mwyaf yr 20g. wedi cyfoethogi ''repertoire'' y delyn yn sylweddol. Ymhlith ei ddisgyblion y mae [[Bennett, Elinor (g.1943) | Elinor Bennett]].
+

Un o gerddorion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, bu farw Osian Ellis ar 5 Ionawr 2021 yn 92 mlwydd oed.
  
'''David R. Jones'''
 
'''David R. Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 13:42, 10 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o delynorion gorau ei genhedlaeth, athro, canwr penillion, trefnydd a chyfansoddwr. Ganed Osian Gwynn Ellis yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint, a’i fagu yn Sir Ddinbych mewn teulu hyddysg yng ngherddoriaeth a diwylliant Cymru. Yn ddeg oed, dechreuodd astudio’r delyn gydag Alwena Roberts, Telynores Iâl (1899-1981), ac yna gyda Gwendolen Mason (1883-1977) yn yr Academi Gerdd Frenhinol; ef a olynodd Mason yn Athro’r delyn yn yr Academi (1959-89).

Darlledodd gyntaf yn 1947, a dechrau ar yrfa recordio nodedig yn 1949 gyda’r Welsh Recorded Music Society. Aeth rhagddo i recordio ar gyfer llu o labeli eraill megis Decca, Delysé, Lyrita, Meridian, Philips, Sain ac Unicorn-Kanchana gan gwmpasu repertoire eang, o ganeuon traddodiadol Cymru i gerddoriaeth gelfyddydol y cyfnod Clasurol a Rhamantaidd i ddeunydd o’r 20g.; o ran cerddoriaeth gyfoes, roedd y recordiadau’n cynnwys comisiynau, cyflwyniadau a pherfformiadau cyntaf.

Enillodd ei ddisg o concerti Handel yn 1960 (i L’Oiseau-Lyre) gyda Philomusica Llundain, dan arweiniad Granville Jones, yr enwog Grand Prix du Disque, a chafodd ei recordiad yn 1962 o Gerddoriaeth Siambr Ffrengig (ac yn arbennig Introduction & Allegro Ravel) gydag ensemble Melos (yr ymunodd â hwy yn 1954) gymeradwyaeth eang gan y beirniaid. Yn 1964, derbyniodd y Wobr Ryngwladol i Unawdwyr a ddyfernir gan banel rhyngwladol i’r ‘offerynnwr unigol mwyaf eithriadol o unrhyw wlad’.

Yn ystod yr 1950au, yr 1960au a’r 1970au teithiodd y byd fel unawdydd a chyda sawl ensemble gan gynnwys y Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Llundain (y bu’n Brif Delynor iddi o 1961 hyd 1994). Gweithiodd hefyd gyda Hugh Griffith, Richard Burton, Dame Edith Evans a Dame Peggy Ashcroft.

Bu cydweithio ffrwythlon rhyngddo ef a Benjamin Britten (1913-76), cydweithio a ddechreuodd yn 1960 gydag A Midsummer Night’s Dream op. 64 ac a barhaodd gyda gweithiau fel y War Requiem op. 66 (1962), Curlew River op. 71 (1964), The Burning Fiery Furnace op. 77 (1966) a The Prodigal Son op. 81 (1968). Ellis a gomisiynodd Suite Britten i delyn unigol op. 83 (1969) gan roi’r perfformiad cyntaf o’r gwaith yng Ngŵyl Aldeburgh y flwyddyn honno. Arweiniodd ei berfformiad ar gyfer y Fam Frenhines yn 1976 (gyda Peter Pears) o waith Britten, A Birthday Hansel, at sawl ymweliad â’r Royal Lodge, Windsor.

Ymhlith y cyfansoddwyr eraill a ysgrifennodd ar ei gyfer y mae David Wynne (1900-83); Alun Hoddinott (1929–2008); Jørgen Jersild (1913-2004) - a gyflwynwyd i Ellis gan Britten; William Mathias (1934–92); Malcolm Arnold (1921-2006); Gian Carlo Menotti (1911-2007); William Schuman (1910–92); Robin Holloway (g.1943) a Rhian Samuel (g.1944). Ymhlith gweithiau gwreiddiol Osian Ellis y mae’r St Asaph Canticles (1988) a Diversions ar gyfer dwy delyn (1990).

Arweiniodd cyfnod o ymchwil yng Ngregynog at ei lyfr, The Story of the Harp in Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), ac mae wedi cyhoeddi erthyglau ar lawysgrif Robert ap Huw ac ar John Parry (Rhiwabon). Yn 1947 fe’i penodwyd yn aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a bu’n un o’r is-lywyddion er c.1969; mae hefyd yn aelod o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru. Ymhlith yr anrhydeddau niferus a ddaeth i’w ran y mae CBE (1971), DMus er anrhydedd (Prifysgol Cymru, 1970), FRAM (1960) a Chymrodoriaeth Prifysgol Bangor. Mae ei waith digymar gyda rhai o gerddorion mwyaf yr 20g. wedi cyfoethogi repertoire y delyn yn sylweddol. Ymhlith ei ddisgyblion y mae Elinor Bennett.

Un o gerddorion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, bu farw Osian Ellis ar 5 Ionawr 2021 yn 92 mlwydd oed.

David R. Jones

Disgyddiaeth

  • George Frideric Handel, Lute and Harp Concerto in B flat major [etc.] (L’Oiseau-Lyre QL50181, 1960)
  • Benjamin Britten, A Birthday Hansel (Decca SXL6788, 1976)
  • Maurice Ravel, Introduction and Allegro [etc.] (Decca 414 063-1, 1985)
  • William Mathias, Harp Concerto [etc.] (Lyrita SRCD325, 1995)

Llyfryddiaeth

  • Osian Ellis, ‘Welsh Music: History and Fancy’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, Session 1972-73 (Llundain, 1973), 73–94
  • ———, ‘Ap Huw: Untying the Knot’, Soundings, 6 (1977), 67–87
  • ———, ‘Ap Huw, Robert’, The New Grove Dictionary of Music and Musicians gol. Stanley Sadie (Llundain, 1980), 1, 501–2
  • ———, The Story of the Harp in Wales (Caerdydd, 1991 [1980])

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.