Empeiriaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:50, 24 Rhagfyr 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgol o athroniaeth ym maes epistemoleg (yr astudiaeth o natur wybodaeth) yw empeiriaeth, a ddatblygodd yn arbennig yn y 18g. Yn ôl hanes traddodiadol athroniaeth y gorllewin fe’i deallir fel ymateb i resymoliaeth Rene Descartes, a’i gwreiddiau yn safbwynt Aristoteles a oedd yn mawrygu pwysigrwydd y synhwyrau yn groes i’w athro, Platon. Y mae’r Ffrancwr Descartes, tad athroniaeth fodern, yn adnabyddus am ei gred mai’r meddwl yw sail pob gwybodaeth ac nad oes modd dibynnu ar y synhwyrau fel ffynhonnell ddibynadwy. Yn ymhlyg yn y ddamcaniaeth hon y mae’r gred bod y meddwl wedi’i ddodrefnu gyda rhagwybodaeth o wirioneddau sylfaenol, a’r gallu i ymresymu.

Perthyn Leibniz a Spinoza i’r traddodiad ‘cyfandirol’ yma, a wrthwynebwyd yn fwyaf enwog gan yr Empeirwyr ‘Prydeinig’ – John Locke, George Berkeley a David Hume. Iddynt hwythau, ‘llechen lân’ yw’r meddwl heb unrhyw wybodaeth neu strwythurau sylfaenol sydd yn cyflyru ein canfyddiad o’r byd. O’r herwydd, y mae ein gwybodaeth yn seiliedig ar y wybodaeth rydym yn canfod trwy’r synhwyrau yn unig. Awgryma hyn hanfod empiriaeth, sef mai profiad yw sail pob gwybodaeth, fel yr awgrymir gan etymoleg y term, a ddaw o’r gair Groegaidd am brofiad.

Datblygodd mathau gwahanol o empeiriaeth yn y 19g. a’r 20g. gyda ffigyrau megis Williams James. Roedd empeiriaeth yn gyfraniad bwysig at seiliau’r arddull gwyddonol, a’i bwyslais ar ganfod gwybodaeth sicr am y byd trwy ddulliau o brofi ac arbrofi. Yn ddiweddarach, yn enwedig gyda datblygiad safbwyntiau beirniadol megis ôl-foderniaeth ac ôl-drefedigaethedd, mae nifer wedi cwestiynu’r statws dyrchafedig y mae’r safbwynt empeiraidd wedi priodoli i wybodaeth wyddonol, gan awgrymu y’i defnyddir ar adegau fel arf i danseilio ffurfiau eraill o wybodaeth. Ceir ffurf ar y math yma o feirniadaeth yn ogystal yn Athroniaeth Crefydd y Cymro, Dewi Z Phillips. Honna bod dadlau yn erbyn bodolaeth Duw ar sail empeiriaeth yn ffurf o ddryswch athronyddol, lle mae’r ‘byd-darlun’ gwyddonol yn cael ei ddefnyddio er mwyn tanseilio byd-darlun crefyddol na ellir ei gymhwyso’n rhesymegol i ofynion empeiraidd.

Huw Williams

Llyfryddiaeth

Davies, C. (2009), ‘Breuddwyd Descartes: Method a Metaffiseg’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 187-204.

Evans, M. (2009), ‘David Hume’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.309-335.

Phillips, D. Z. (1974), Athronyddu am Grefydd: Cyfeiriadau Newydd (Llandysul: Gwasg Gomer).