Emynwyr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:16, 6 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyn y Diwygiad Protestannaidd roedd yr emyn yng Nghymru yn rhan o ddiwylliant Catholig cyfandir Ewrop, a Lladin yn bennaf oedd iaith emynau. Mae’n debyg mai’r ymgais gyntaf o bwys i lunio emynau Cymraeg at ddefnydd cynulleidfa oedd mydryddiad Edmwnd Prys (1544–1623), Archddiacon Meirionnydd, o’r holl salmau, casgliad a gyhoeddwyd gyntaf, ynghyd â deuddeg alaw, yn gymar i’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1621.

Cafwyd sawl argraffiad pellach o’r salmau cân hyn ac fe’u defnyddiwyd yn helaeth yn yr eglwysi. Ceir rhai emynau o waith Piwritaniaid ac eraill yn yr 17g., megis cyfieithiad Rowland Fychan, Caer-gai o’r emyn Lladin, Veni sancte spiritus, a gweithiau gan Morgan Llwyd. Ond yn sgil y Diwygiad Efengylaidd yn y 18g. y blodeuodd yr emyn Cymraeg, a’r ganrif honno a gynhyrchodd sêr disgleiriaf emynyddiaeth yng Nghymru, sef Dafydd Jones (1711–77), Caeo; Morgan Rhys (1716–79), Llanfynydd; William Williams (1717–91), Pantycelyn; Dafydd Wiliam (1720/1–94), Llandeilo Fach; John Thomas, Rhaeadr Gwy (1730–1804?); ac Ann Griffiths (1776–1805), Dolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa. Nodweddir emynau’r awduron hyn a’u tebyg gan angerdd efengylaidd ac yn achos Ann Griffiths yn arbennig gan fesur helaeth o gyfriniaeth. Cyfrifir Williams Pantycelyn nid yn unig yn emynydd o’r radd flaenaf ond hefyd yn fardd o bwys yn y traddodiad rhamantaidd.

Yn ystod y 19g., gellir dweud i’r emyn dyfu’n fwy ffurfiol ei natur a’i fynegiant, a dechreuodd gwaith emynwyr ymddangos mewn casgliadau cyfansawdd at ddefnydd cynulleidfaoedd yn hytrach nag mewn casgliadau o waith un emynydd yn unig. I’r ganrif hon y perthyn Ieuan Glan Geirionydd (Evan Evans; 1795– 1855), Eben Fardd (Ebenezer Thomas; 1802–63) a Gwilym Hiraethog (William Rees, 1802–83), awdur un o emynau gorau’r Gymraeg, ‘Dyma gariad fel y moroedd’. Roedd y rhain hefyd yn llenorion galluog. O ail hanner y 19g. ymlaen canfyddir newid pwyslais, a daw’r emyn i adlewyrchu llai o’r profiad angerddol personol o Dduw a mwy o brofiad cynulleidfaol, mewn oes pan oedd y capeli’n tyfu’n fwy niferus ac yn fwy ffurfiol eu naws a’u haddoliad.

Canfyddir elfennau o bwyslais cymdeithasol yn ogystal â phrofiad personol yng ngwaith Elfed (Howell Elvet Lewis; 1860–1953) a J. T. Job (1867–1938), tra mae gwaith Nantlais (W. Nantlais Williams; 1874–1959) yn parhau yn y traddodiad efengylaidd. Gellir dweud i lawer o emynwyr diweddarach ddilyn y patrymau hyn, a cheir nifer o emynau o’r 20g. sy’n adleisio themâu ac ieithwedd cyfnodau cynharach. Ond yn yr 20g. hefyd, rhoddwyd pwyslais cynyddol ar grefft a gloywder mynegiant – dyma a welir yng ngwaith W. Rhys Nicholas (1914–96), y mwyaf toreithiog o emynwyr y cyfnod diweddar.

Nid yw gwaith emynwyr Cymru yn gyfyngedig i lyfrau, cylchgronau, casgliadau o emynau a rhaglenni cymanfaoedd canu. Cyplyswyd geiriau emynwyr â darnau o gerddoriaeth glasurol, a cheir unawdau a darnau corawl gan gyfansoddwyr Cymreig sydd yn gosod geiriau emynwyr, er enghraifft yr unawd O Fab y Dyn gan Meirion Williams i eiriau George Rees (1873–1950), a’r trefniannau i gorau meibion, Laudamus (‘Bryn Calfaria’) gan Daniel Protheroe a Deus Salutis (‘Llef’) a Christus Redemptor (‘Hyfrydol’) gan Mansel Thomas.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.