Esboniadaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:27, 6 Tachwedd 2017 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r termau a ddefnyddir i gyfeirio at y gwaith o drafod testun yn fanwl yw esboniadaeth. Cyfyngwyd y defnydd i raddau helaeth i'r gwaith o esbonio, neu gyhoeddi esboniad, ar rannau o'r Beibl. Er mai prin yw cyhoeddiadau o'r fath yn y Gymraeg yn yr 21g mae i esboniadaeth le pwysig yn hanes deallusol a diwylliannol Cymru. Ai gormod fyddai honni bod y sgiliau yr oedd eu hangen ar ysgolheigion testunol a beirniaid llenyddol y Gymraeg yn yr 20g. wedi'u harfer ers tro gan yr esbonwyr Beiblaidd?

Mae esboniad yn aml yn cynnwys y [[testun]] Beiblaidd gwreiddiol, weithiau mewn cyfieithiad newydd o waith yr esboniwr, ynghyd â sylwadau yn egluro cefndir y testun a'i arwyddocâd ysbrydol a diwinyddol. Crybwyllwn rai o uchafbwyntiau'r ffurf yng Nghymru. Gosodwyd seiliau yn y maes gan Peter Williams, a gyhoeddodd y Beibl gyda sylwadau ar ei gynnwys mewn rhannau rhwng 1768 a 1770. Mewn argraffiadau diweddarach daeth 'Beibl Peter Williams', fel y'i gelwid, yn rhan o ddodrefn miloedd o gartrefi Cymraeg. Dibynnu ar esboniadau Saesneg a wnaeth Peter Williams am ei ddefnydd ac roedd hynny'n wir am sawl un a'i dilynodd.

Rhaid cyfrif George Lewis (1763-1822) yn un o brif esbonwyr Cymru. Lluniasai eisoes y Drych Ysgrythyrol, y gyfrol gyntaf o ddiwinyddiaeth gyfundrefnol yn y Gymraeg, cyn troi at y gwaith o lunio cyfres o esboniadau ar lyfrau'r Testament Newydd ar ddechrau'r 19g. Esboniwr ceidwadol, dysgedig oedd Lewis; medrai drafod y testun Groeg gwreiddiol ac mae ei ragymadroddion yn tystio i ehangder ei ffynonellau.

Ond gellid dadlau mai James Hughes ('Iago Trichrug' 1779-1844) oedd esboniwr mwyaf poblogaidd a dylanwadol y 19g. Er na feddai ar adnoddau ysgolheigaidd George Lewis, ac er na honnai fod ei ddeunydd yn wreiddiol - yn wir, fel 'detholydd' y mae'n cyfeirio ato'i hun yn sgil ei ddyled i rai o'r prif esboniadau Saesneg - daeth 'Esboniad Jâms Hughes' fel y cyfeirid ato ar lafar yn rhan bwysig o fywyd crefyddol a diwylliannol Cymru. Roedd o ddefnydd arbennig i athrawon ysgolion Sul wrth iddynt baratoi eu gwersi wythnosol. Ceir ynddo esbonio cyfeiriad a chyd-destun ac ystyried perthynas ryngdestunol gwahanol rannau o'r Beibl.

Cam arwyddocaol yn natblygiad esboniadaeth Gymraeg oedd cyhoeddi Testament yr Ysgol Sabbathol gan rai o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn ystod ail hanner y 19g. Yn ddiweddarach cyhoeddodd y Methodistiaid Calfinaidd esboniad yn flynyddol i gyd-fynd â maes llafur yr ysgolion Sul; ymhlith y cyfranwyr roedd rhai o brif weinidogion ac ysgolheigion Cymru, a chynhaliwyd y gyfres ar hyd yr 20g. Er bod maes esboniadaeth wedi teneuo'n sylweddol iawn erbyn yr 21g yn sgil dirywiad yn niferoedd yr eglwysi ac yng nghyflwr y colegau diwinyddol, ni ddylid diystyru arwyddocâd y corff sylweddol o esboniadaeth Feiblaidd a gynhyrchwyd yn y Gymraeg, na'r gynulleidfa helaeth Gymraeg ei hiaith a addysgwyd ac a gyfarwyddwyd ganddo.


Robert Rhys

Llyfryddiaeth

Amryw (1871), Testament yr Ysgol Sabbothol, Cyfrol 2 (Dinbych: Thomas Gee)

Jones, R. T. (1978), 'Esbonio'r Testament Newydd yng Nghymru, 1860-1890' yn Owen E. Evans, gol., Efrydiau Beiblaidd Bangor 3 (Abertawe: Tŷ John Penry)

Lewis, G. (1802-1829), Esponiad ar y Testament Newydd (Gwrecsam: Ioan Painter)

Roberts, G. M. (1943), Bywyd a Gwaith Peter Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Rhys, R. (2007), James Hughes, 'Iago Trichrug' (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn)



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.