Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, David (1943-2013)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Darlithydd a [[cherddoregydd]] a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd [[Prifysgol]] Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor.
+
Darlithydd a [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | cherddoregydd]] a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor.
  
Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis [[John Cale]] a [[Karl Jenkins]] hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd [[Alun Hoddinott]] yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd.
+
Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis [[Cale, John (g.1942) | John Cale]] a [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]] hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd.
  
Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel [[Thomas Tomkins]] (1572–1656) ac Adrian Batten (c.1591–c.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn [[arweinydd corawl]] medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice.
+
Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel [[Tomkins, Thomas (1572-1656) | Thomas Tomkins]] (1572–1656) ac Adrian Batten (''c''.1591–''c''.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd corawl]] medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice.
  
 
'''Chris Collins a Graeme Cotterill'''
 
'''Chris Collins a Graeme Cotterill'''

Y diwygiad cyfredol, am 22:35, 1 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Darlithydd a cherddoregydd a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd Prifysgol Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor.

Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis John Cale a Karl Jenkins hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd Alun Hoddinott yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd.

Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel Thomas Tomkins (1572–1656) ac Adrian Batten (c.1591–c.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn arweinydd corawl medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice.

Chris Collins a Graeme Cotterill

Disgyddiaeth

  • Music from the Chirk Castle Part-Books (Hyperion CDA67695, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.