Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffenomenoleg"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Ffenomenoleg yw’r astudiaeth o’r modd y gall amgyffred â ffenomenau, neu’n profiadau o’r byd, esbonio’n adnabyddiaeth ohono. Ni...')
 
Llinell 6: Llinell 6:
 
Defnyddia Husserl y term ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ er mwyn disgrifio’r modd cylchol y profa person y byd.  Hynny yw, mae dyn yn profi gwrthrych newydd trwy’r wybodaeth neu brofiadau y mae eisioes yn meddu arnynt, ond wedyn mae ei brofiad o’r gwrthrych hynny yn cyfoethogi ei ddealltwriaeth o’i hun a’r byd.  Mae Husserl o’r farn fod adnabod y byd ac adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol, ac yn cadarnhau ei gilydd; gan hynny, mae’n gylchol.  Mae’r modd y digwydda hyn yn lleihad, yn broses a hidla’r  wahanol ffenomenâu at ei gilydd i greu profiad. Yn ei waith yntau, cyfrannai’r athronydd Maurice Merleau-Ponty at syniadaeth ffenomenolegol trwy ddadlau mai profiadau’r corff sydd yn estyn allan er mwyn dehongli’r byd. Awgryma mai ymgorffori profiad o’r byd a wnawn, gan ddefnyddio’n hamgyffred fel mesurydd. Os felly, daw’n ymatebion blaenaf o’r corff, o endid cyflawn (nid o feddwl fel endid ar wahân i’r corff fel y cred Descartes).  
 
Yng nghyd-destun theori estheteg, gallwn wrth drafod ffenomenoleg drafod ein hunain mewn perthynas â’n hamgylchedd, a’r modd y gall ymwneud â gwrthrych/goddrych newid ein perthynas gyda’r gwrthrych/goddrych a’n dealltwriaeth o’n hunain yn yr un ennyd (y ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ yr oedd Husserl yn ei drafod). Defnyddir ffenomenoleg  bellach mewn sawl maes sydd yn ystyried ymgorfforiad a phrofiad fel gwybodaeth. Er enghraifft, ym maes astudiaethau perfformiad, sydd yn aml yn edrych ar brofiad person mewn gofod ar adeg penodol, mae ffenomenoleg yn fethodoleg ddefnyddiol er mwyn ystyried yr hyn a ddigwydd ar foment y perfformiad.  
+

Mae modd dirnad ffenomenoleg fel methodoleg drwy edrych ar y gwahaniaethau rhwng astudio drama’n llenyddol a thrwy berfformiad o’r ddrama.  Wrth astudio drama mae modd ei ddarllen ar lefel destunol, gan adael i’r ymateb gael ei greu yn y meddwl.  Ond wrth astudio drwy berfformio gellir gadael i’r corff  ac ymateb synhwyrus fod yn rhan o’r ddirnadaeth a’r driniaeth, gan ddeall y ddrama ar sawl lefel yn hytrach na thrwy’r meddwl yn unig.
 
Diwygiad 23:34, 28 Hydref 2016

Ffenomenoleg yw’r astudiaeth o’r modd y gall amgyffred â ffenomenau, neu’n profiadau o’r byd, esbonio’n adnabyddiaeth ohono. Nid yw ffenomenoleg yn un athroniaeth gaeth, ond yn hytrach caiff ei diffinio gan wahanol feddylwyr sydd yn deall y term mewn ffyrdd gwahanol. Yn wir, ni ellir hawlio un diffiniad clir o ffenomenoleg gan ei bod yn ymgais i archwilio profiad goddrychol.

Edmund Husserl oedd un o’r athronwyr cyntaf i drafod y term. Creda Husserl nad rhywbeth sy’n bodoli yn ei hunan yw’r byd o’n hamgylch, ond yn hytrach mai ffenomen ydyw, rhywbeth a ganfyddwn trwy’n profiad ni ohono. Ni fodola gwrthrychau’n ddiamod; ein canfyddiad a’n hamgyffred ein hunain ohonynt sydd yn eu ffurfio i ni. Cydnabyddai Husserl syniadaeth yr athronydd René Descartes fel dechreubwynt i ystyried y modd y crëir gwybodaeth. Dywedodd Descartes Cogito ergo sum (Rwyf yn meddwl felly rwyf yn bod). Dadleuodd Descartes a Husserl nad yw’r byd yn bodoli fel endid sydd ar wahân i ni, ond mai ni sydd yn ei ddehongli. Mae Descartes yn grediniol ein bod yn gwneud hyn drwy’r meddwl, ar wahan i brofiadau’r corff (yr hyn a gyfeirir ati fel deuoliaeth corff a meddwl), ond mae Husserl yn mynnu ein bod yn gwneud hyn trwy brofiadau ymgorfforedig.

Defnyddia Husserl y term ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ er mwyn disgrifio’r modd cylchol y profa person y byd. Hynny yw, mae dyn yn profi gwrthrych newydd trwy’r wybodaeth neu brofiadau y mae eisioes yn meddu arnynt, ond wedyn mae ei brofiad o’r gwrthrych hynny yn cyfoethogi ei ddealltwriaeth o’i hun a’r byd. Mae Husserl o’r farn fod adnabod y byd ac adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol, ac yn cadarnhau ei gilydd; gan hynny, mae’n gylchol. Mae’r modd y digwydda hyn yn lleihad, yn broses a hidla’r wahanol ffenomenâu at ei gilydd i greu profiad. Yn ei waith yntau, cyfrannai’r athronydd Maurice Merleau-Ponty at syniadaeth ffenomenolegol trwy ddadlau mai profiadau’r corff sydd yn estyn allan er mwyn dehongli’r byd. Awgryma mai ymgorffori profiad o’r byd a wnawn, gan ddefnyddio’n hamgyffred fel mesurydd. Os felly, daw’n ymatebion blaenaf o’r corff, o endid cyflawn (nid o feddwl fel endid ar wahân i’r corff fel y cred Descartes).

Yng nghyd-destun theori estheteg, gallwn wrth drafod ffenomenoleg drafod ein hunain mewn perthynas â’n hamgylchedd, a’r modd y gall ymwneud â gwrthrych/goddrych newid ein perthynas gyda’r gwrthrych/goddrych a’n dealltwriaeth o’n hunain yn yr un ennyd (y ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ yr oedd Husserl yn ei drafod). Defnyddir ffenomenoleg bellach mewn sawl maes sydd yn ystyried ymgorfforiad a phrofiad fel gwybodaeth. Er enghraifft, ym maes astudiaethau perfformiad, sydd yn aml yn edrych ar brofiad person mewn gofod ar adeg penodol, mae ffenomenoleg yn fethodoleg ddefnyddiol er mwyn ystyried yr hyn a ddigwydd ar foment y perfformiad.

Mae modd dirnad ffenomenoleg fel methodoleg drwy edrych ar y gwahaniaethau rhwng astudio drama’n llenyddol a thrwy berfformiad o’r ddrama. Wrth astudio drama mae modd ei ddarllen ar lefel destunol, gan adael i’r ymateb gael ei greu yn y meddwl. Ond wrth astudio drwy berfformio gellir gadael i’r corff ac ymateb synhwyrus fod yn rhan o’r ddirnadaeth a’r driniaeth, gan ddeall y ddrama ar sawl lefel yn hytrach na thrwy’r meddwl yn unig.

Rhiannon M. Williams

Llyfryddiaeth

Husserl, E. (1973), Cartesian Meditations: An Introduction to Phenomenology (Dordecht: Kluwer).

Merleau-Ponty, M. (2009), Phenomenology of Perception (London and New York: Routledge).

Moustakas, C. (1994), Phenomenological Research Methods (Thousand Oaks, Llundain, New Delhi: Sage Publications).