Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gentle Good, The"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Enw ‘llwyfan’ mae’r canwr a’r gitarydd o Gaerdydd, Gareth Bonello, yn ei ddefnyddio. Yn ganwr gwerin- modern amryddawn, bu Bonello’n [[perfformio]] yng Nghaerdydd a thu hwnt ers dros ddegawd.
+
Enw ‘llwyfan’ mae’r canwr a’r gitarydd o Gaerdydd, Gareth Bonello, yn ei ddefnyddio. Yn ganwr gwerin- modern amryddawn, bu Bonello’n perfformio yng Nghaerdydd a thu hwnt ers dros ddegawd.
  
 
Yn gerddor aml-dalentog a hynod alluog fel gitarydd, rhyddhaodd ei EP cyntaf, ''Find Your Way Back Home'', yn 2005, ac yna ''Dawel Disgyn'' yn 2007, lle chwaraeodd y ''cello'', gitâr a metaloffon, gyda chyfraniadau gan Seb Goldfinch ar y [[ffidil]]. Dilynwyd hyn yn 2008 gyda’i record hir gyntaf, ''While You Slept I Went Out''. Daeth i sylw pellach y sîn werin yng Nghymru a thu hwnt yn 2009 wedi perfformiadau trawiadol yng ngwyliau South by Southwest yn yr Unol Daleithiau, [[Gŵyl]] Y Dyn Gwyrdd yn Aberhonddu, a Glastonbury, gan ennill gwobr cylchgrawn ''Y Selar'' am yr artist unigol gorau yn 2010.
 
Yn gerddor aml-dalentog a hynod alluog fel gitarydd, rhyddhaodd ei EP cyntaf, ''Find Your Way Back Home'', yn 2005, ac yna ''Dawel Disgyn'' yn 2007, lle chwaraeodd y ''cello'', gitâr a metaloffon, gyda chyfraniadau gan Seb Goldfinch ar y [[ffidil]]. Dilynwyd hyn yn 2008 gyda’i record hir gyntaf, ''While You Slept I Went Out''. Daeth i sylw pellach y sîn werin yng Nghymru a thu hwnt yn 2009 wedi perfformiadau trawiadol yng ngwyliau South by Southwest yn yr Unol Daleithiau, [[Gŵyl]] Y Dyn Gwyrdd yn Aberhonddu, a Glastonbury, gan ennill gwobr cylchgrawn ''Y Selar'' am yr artist unigol gorau yn 2010.
Llinell 7: Llinell 8:
 
Daeth ail albwm allan yn 2011 o’r enw ''Tethered for the Storm'' (Gwymon). Gan adlewyrchu ystod eang o ddylanwadau, o feirdd megis Philip Larkin a John Donne i’r Hen Benillion Cymraeg, ynghyd â dawn Bonello fel gitarydd, ehangwyd yr offeryniaeth ar y record i gynnwys pedwarawd llinynnol, banjo a phiano ar rai traciau.
 
Daeth ail albwm allan yn 2011 o’r enw ''Tethered for the Storm'' (Gwymon). Gan adlewyrchu ystod eang o ddylanwadau, o feirdd megis Philip Larkin a John Donne i’r Hen Benillion Cymraeg, ynghyd â dawn Bonello fel gitarydd, ehangwyd yr offeryniaeth ar y record i gynnwys pedwarawd llinynnol, banjo a phiano ar rai traciau.
  
Yn ystod yr un flwyddyn treuliodd Bonello gyfnod preswyl yn ninas Chengdu, Tsieina, gan ryddhau cynnyrch ei brofiadau ar ei drydydd albwm, ''Y Bardd Anfarwol'', yn 2013 – albwm cysyniad am y bardd o’r 8g., Li Bai (701–762). Recordiodd Bonello rannau o’r albwm yn Tsieina, Llundain a Llanuwchllyn. Derbyniodd ''Y Bardd Anfarwol'' wobr am albwm gwerin Cymraeg gorau’r flwyddyn yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Llanelli, 2014, ac fe seiliwyd ''Rhith Gân'', [[drama]] gan Wyn Mason a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, ar y record.
+
Yn ystod yr un flwyddyn treuliodd Bonello gyfnod preswyl yn ninas Chengdu, Tsieina, gan ryddhau cynnyrch ei brofiadau ar ei drydydd albwm, ''Y Bardd Anfarwol'', yn 2013 – albwm cysyniad am y bardd o’r 8g., Li Bai (701–762). Recordiodd Bonello rannau o’r albwm yn Tsieina, Llundain a Llanuwchllyn. Derbyniodd ''Y Bardd Anfarwol'' wobr am albwm gwerin Cymraeg gorau’r flwyddyn yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Llanelli, 2014, ac fe seiliwyd ''Rhith Gân'', drama gan Wyn Mason a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, ar y record.
  
Gan gyfuno trefniannau o ganeuon traddodiadol gyda’i gyfansoddiadau ei hun yn Gymraeg a Saesneg, mae cerddoriaeth Bonello yn nodedig am y plethiad celfydd a glywir yn aml rhwng y brif alaw yn llais Bonello a chyfeiliant ei gitâr, ynghyd â medrusrwydd y cyfeiliant ei hun. Er bod trefniannau Bonello yn aros yn driw i ysbryd gwreiddiol yr alawon, mae’n barod i arbrofi gydag elfennau megis amsernodau, fel yn ei drefniant cynnar o’r alaw werin ‘Y Folantein’ (gw. [[Ffolant, Canu]]), sydd yn amrywio mewn amsernod rhwng 3/4 a 4/4. Gan gyfansoddi ar y cyfan mewn [[arddull]] ddwys a myfyrgar, disgrifiwyd caneuon Bonello fel ‘cyfuniad o’r gwerin traddodiadol, technegau gitâr o’r 1960au … gyda thinc o psychedelia.’ Daeth yr albwm ''Ruins''/Adfeilion allan ar label Bubblewrap yn Hydref 2016.
+
Gan gyfuno trefniannau o ganeuon traddodiadol gyda’i gyfansoddiadau ei hun yn Gymraeg a Saesneg, mae cerddoriaeth Bonello yn nodedig am y plethiad celfydd a glywir yn aml rhwng y brif alaw yn llais Bonello a chyfeiliant ei gitâr, ynghyd â medrusrwydd y cyfeiliant ei hun. Er bod trefniannau Bonello yn aros yn driw i ysbryd gwreiddiol yr alawon, mae’n barod i arbrofi gydag elfennau megis amsernodau, fel yn ei drefniant cynnar o’r alaw werin ‘Y Folantein’ (gw. [[Ffolant, Canu]]), sydd yn amrywio mewn amsernod rhwng 3/4 a 4/4. Gan gyfansoddi ar y cyfan mewn arddull ddwys a myfyrgar, disgrifiwyd caneuon Bonello fel ‘cyfuniad o’r gwerin traddodiadol, technegau gitâr o’r 1960au … gyda thinc o psychedelia.’ Daeth yr albwm ''Ruins''/Adfeilion allan ar label Bubblewrap yn Hydref 2016.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Diwygiad 17:28, 7 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Enw ‘llwyfan’ mae’r canwr a’r gitarydd o Gaerdydd, Gareth Bonello, yn ei ddefnyddio. Yn ganwr gwerin- modern amryddawn, bu Bonello’n perfformio yng Nghaerdydd a thu hwnt ers dros ddegawd.

Yn gerddor aml-dalentog a hynod alluog fel gitarydd, rhyddhaodd ei EP cyntaf, Find Your Way Back Home, yn 2005, ac yna Dawel Disgyn yn 2007, lle chwaraeodd y cello, gitâr a metaloffon, gyda chyfraniadau gan Seb Goldfinch ar y ffidil. Dilynwyd hyn yn 2008 gyda’i record hir gyntaf, While You Slept I Went Out. Daeth i sylw pellach y sîn werin yng Nghymru a thu hwnt yn 2009 wedi perfformiadau trawiadol yng ngwyliau South by Southwest yn yr Unol Daleithiau, Gŵyl Y Dyn Gwyrdd yn Aberhonddu, a Glastonbury, gan ennill gwobr cylchgrawn Y Selar am yr artist unigol gorau yn 2010.

Daeth ail albwm allan yn 2011 o’r enw Tethered for the Storm (Gwymon). Gan adlewyrchu ystod eang o ddylanwadau, o feirdd megis Philip Larkin a John Donne i’r Hen Benillion Cymraeg, ynghyd â dawn Bonello fel gitarydd, ehangwyd yr offeryniaeth ar y record i gynnwys pedwarawd llinynnol, banjo a phiano ar rai traciau.

Yn ystod yr un flwyddyn treuliodd Bonello gyfnod preswyl yn ninas Chengdu, Tsieina, gan ryddhau cynnyrch ei brofiadau ar ei drydydd albwm, Y Bardd Anfarwol, yn 2013 – albwm cysyniad am y bardd o’r 8g., Li Bai (701–762). Recordiodd Bonello rannau o’r albwm yn Tsieina, Llundain a Llanuwchllyn. Derbyniodd Y Bardd Anfarwol wobr am albwm gwerin Cymraeg gorau’r flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2014, ac fe seiliwyd Rhith Gân, drama gan Wyn Mason a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, ar y record.

Gan gyfuno trefniannau o ganeuon traddodiadol gyda’i gyfansoddiadau ei hun yn Gymraeg a Saesneg, mae cerddoriaeth Bonello yn nodedig am y plethiad celfydd a glywir yn aml rhwng y brif alaw yn llais Bonello a chyfeiliant ei gitâr, ynghyd â medrusrwydd y cyfeiliant ei hun. Er bod trefniannau Bonello yn aros yn driw i ysbryd gwreiddiol yr alawon, mae’n barod i arbrofi gydag elfennau megis amsernodau, fel yn ei drefniant cynnar o’r alaw werin ‘Y Folantein’ (gw. Ffolant, Canu), sydd yn amrywio mewn amsernod rhwng 3/4 a 4/4. Gan gyfansoddi ar y cyfan mewn arddull ddwys a myfyrgar, disgrifiwyd caneuon Bonello fel ‘cyfuniad o’r gwerin traddodiadol, technegau gitâr o’r 1960au … gyda thinc o psychedelia.’ Daeth yr albwm Ruins/Adfeilion allan ar label Bubblewrap yn Hydref 2016.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Find Your Way Back Home [EP] (dim label, 2005)
Dawel Disgyn [EP] (Gwymon CD002, 2007)
While You Slept I Went Out Walking (Gwymon CD004, 2008)
Tethered for the Storm (Gwymon CD013, 2011)
Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records BWR013CD 2013)
Plygeiniwch! [EP] (dim label, 2014)
Ruins/Adfeilion (Bubblewrap Records BWR027CD, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.