Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwawdodyn"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Un o fesurau Cerdd Dafod yw’r gwawdodyn, a cheir dau fath ohono, y gwawdodyn byr a’r gwawdodyn hir. Cyfuniad o ddwy linell o gyhydedd ...')
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 23:10, 26 Hydref 2016

Un o fesurau Cerdd Dafod yw’r gwawdodyn, a cheir dau fath ohono, y gwawdodyn byr a’r gwawdodyn hir. Cyfuniad o ddwy linell o gyhydedd nawban a thoddaid yw gwawdodyn byr, a’r pennill yn unodl drwyddo, er enghraifft:

Henwi’r arglwyddi ar ei gwleddau, Hanoedd o’r llysoedd a’r iarllesau, Hi roesai win i hir eisiau – a wn, Hir yw ei nasiwn, hirion oesau.

Gwawdodyn byr gyda dwy linell ychwanegol o gyhydedd nawban yw gwawdodyn hir.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.