Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hir-a-thoddaid"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 17: Llinell 17:
 
Dywedir yn y gramadeg fod yr hir-a-thoddaid, ynghyd â’r cyrch a chwta a’r tawddgyrch cadwynog, yn un o dri mesur newydd a ddyfeisiwyd gan awdur y gramadeg. Ni ellir honni ei fod yn waith athrylithgar, fodd bynnag, gan mai amrywiad syml ydoedd ar fesur arall, sef y gwawdodyn hir. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau fesur yw mai llinellau nawsill a geir yn y gwawdodyn hir (ac eithrio yn llinell gyntaf y toddaid, lle ceir deg yn ôl yr arfer). Roedd y gwawdodyn hir, yn ei dro, yn amrywiad ar y gwawdodyn, un o brif fesurau Beirdd y Tywysogion. Mewn gwirionedd, gellid dadlau bod y gwawdodyn hir a’r hir-a-thoddaid ill dau yn amrywiadau ar hen fesur y gwawdodyn a luniwyd – ynghyd ag ambell fesur arall, yn ôl pob tebyg – gan Einion Offeiriad er mwyn dosbarthu’r holl fesurau yn uned ddelfrydol o bedwar ar hugain. Dosbarthiad artiffisial ydoedd, fodd bynnag, a luniwyd yn unol â nifer y llythrennau a geid, yn ôl Einion, yn yr wyddor Gymraeg, cred gyfeiliornus a seiliwyd ar ei adnabyddiaeth o’r wyddor Ladin.
 
Fel y gellid disgwyl yn achos mesur a ddyfeisiwyd ar gyfer diben o’r fath, aeth blynyddoedd lawer heibio cyn i’r hir-a-thoddaid ddechrau ennill ei blwyf, a hynny fel un o fesurau’r awdl o’r bymthegfed ganrif ymlaen. Fe’i ceir yn awdlau rhai o feirdd gorau’r cyfnod, fel Dafydd ab Edmwnd, Tudur Aled a Wiliam Llŷn. Fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol y goroesodd y mesur i’r cyfnod modern, yn fwyaf nodedig, efallai, yn ‘Eryri’, cerdd fuddugol T. H. Parry-Williams (1887–1975) yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, sy’n gyfres hirfaith o 94 o hir-a-thoddeidiau. Ac eithrio fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol, ychydig iawn o ganu sydd ar yr hir-a-thoddaid heddiw mewn cymhariaeth â’r cywydd a’r englyn, ond fe osodir yn achlysurol y dasg o lunio hir-a-thoddaid unigol yng nghystadleuaeth Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.
+
Fel y gellid disgwyl yn achos mesur a ddyfeisiwyd ar gyfer diben o’r fath, aeth blynyddoedd lawer heibio cyn i’r hir-a-thoddaid ddechrau ennill ei blwyf, a hynny fel un o fesurau’r awdl o’r 15g. ymlaen. Fe’i ceir yn awdlau rhai o feirdd gorau’r cyfnod, fel Dafydd ab Edmwnd, Tudur Aled a Wiliam Llŷn. Fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol y goroesodd y mesur i’r cyfnod modern, yn fwyaf nodedig, efallai, yn ‘Eryri’, cerdd fuddugol T. H. Parry-Williams (1887–1975) yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, sy’n gyfres hirfaith o 94 o hir-a-thoddeidiau. Ac eithrio fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol, ychydig iawn o ganu sydd ar yr hir-a-thoddaid heddiw mewn cymhariaeth â’r cywydd a’r englyn, ond fe osodir yn achlysurol y dasg o lunio hir-a-thoddaid unigol yng nghystadleuaeth Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.
  
Ac ystyried bod gan Einion Offeiriad gysylltiadau agos â Cheredigion, mae’n briodol fod Dic Jones (1934–2009), y meistr pennaf ar yr hir-a-thoddaid yn y cyfnod modern, yn frodor o’r sir. Dyma’r cyntaf o gyfres ragorol o hir-a-thoddeidiau – mesur y dywedodd Dic ei fod yn ei atgoffa o guriadau cyson a phwyllog peiriant godro – a geir yn yr awdl enwog a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966, ‘Y Cynhaeaf’:
 
Diwygiad 17:24, 24 Awst 2016

Un o fesurau cerdd dafod yw’r hir-a-thoddaid, sef pedair llinell unodl ‘hir’ o ddeg sillaf yr un wedi eu dilyn gan ‘doddaid’ ac ynddo ddwy linell ddecsill sy’n cynnal y brifodl. Ceir cynghanedd ym mhob llinell.

Mae cyfres o dri hir-a-thoddaid unodl a geir mewn awdl fawl fawreddog gan Einion Offeiriad (m. c.1353) i Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283–1356), un o uchelwyr grymusaf ei ddydd yn ne Cymru, ymhlith rhai o’r enghreifftiau cynharaf o’r mesur ar glawr. Dyma’r cyntaf ohonynt:

Rhys hyfrys emys amlged brydyddion,
Rhys hysbys ei lys ar les cerddorion,
Rhys waywdwn yw hwn, honnaid gan Saeson,
Rhys wiwdeg ofeg, afar annhirion.
Rhys a wŷs. Pwy Rhys? Rhwysg faon – brwydrsudd!
Hil Ruffudd waywrudd, wiwraidd ei orddion …

Mae lle i gredu bod awdl Einion Offeiriad wedi ei chanu yn ystod yr 1320au ac yn agos gysylltiedig â gramadeg barddol – gwaith yn dehongli ac yn dosbarthu agweddau ar ddysg y beirdd – a luniwyd tua’r un adeg. Mae awduraeth y gramadeg yn bwnc dyrys, ond credir mai Einion oedd yr awdur gwreiddiol, ac i Ddafydd Ddu o Hiraddug (m. c.1371), nid nepell o Ruddlan, lunio golygiad o waith Einion yn fuan wedyn. Ond nid yw’n amhosibl fod y ddau’n cydweithio o’r dechrau.

Dywedir yn y gramadeg fod yr hir-a-thoddaid, ynghyd â’r cyrch a chwta a’r tawddgyrch cadwynog, yn un o dri mesur newydd a ddyfeisiwyd gan awdur y gramadeg. Ni ellir honni ei fod yn waith athrylithgar, fodd bynnag, gan mai amrywiad syml ydoedd ar fesur arall, sef y gwawdodyn hir. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau fesur yw mai llinellau nawsill a geir yn y gwawdodyn hir (ac eithrio yn llinell gyntaf y toddaid, lle ceir deg yn ôl yr arfer). Roedd y gwawdodyn hir, yn ei dro, yn amrywiad ar y gwawdodyn, un o brif fesurau Beirdd y Tywysogion. Mewn gwirionedd, gellid dadlau bod y gwawdodyn hir a’r hir-a-thoddaid ill dau yn amrywiadau ar hen fesur y gwawdodyn a luniwyd – ynghyd ag ambell fesur arall, yn ôl pob tebyg – gan Einion Offeiriad er mwyn dosbarthu’r holl fesurau yn uned ddelfrydol o bedwar ar hugain. Dosbarthiad artiffisial ydoedd, fodd bynnag, a luniwyd yn unol â nifer y llythrennau a geid, yn ôl Einion, yn yr wyddor Gymraeg, cred gyfeiliornus a seiliwyd ar ei adnabyddiaeth o’r wyddor Ladin.

Fel y gellid disgwyl yn achos mesur a ddyfeisiwyd ar gyfer diben o’r fath, aeth blynyddoedd lawer heibio cyn i’r hir-a-thoddaid ddechrau ennill ei blwyf, a hynny fel un o fesurau’r awdl o’r 15g. ymlaen. Fe’i ceir yn awdlau rhai o feirdd gorau’r cyfnod, fel Dafydd ab Edmwnd, Tudur Aled a Wiliam Llŷn. Fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol y goroesodd y mesur i’r cyfnod modern, yn fwyaf nodedig, efallai, yn ‘Eryri’, cerdd fuddugol T. H. Parry-Williams (1887–1975) yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, sy’n gyfres hirfaith o 94 o hir-a-thoddeidiau. Ac eithrio fel un o fesurau’r awdl eisteddfodol, ychydig iawn o ganu sydd ar yr hir-a-thoddaid heddiw mewn cymhariaeth â’r cywydd a’r englyn, ond fe osodir yn achlysurol y dasg o lunio hir-a-thoddaid unigol yng nghystadleuaeth Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.

Ac ystyried bod gan Einion Offeiriad gysylltiadau agos â Cheredigion, mae’n briodol fod Dic Jones (1934–2009), y meistr pennaf ar yr hir-a-thoddaid yn y cyfnod modern, yn frodor o’r sir. Dyma’r cyntaf o gyfres ragorol o hir-a-thoddeidiau – mesur y dywedodd Dic ei fod yn ei atgoffa o guriadau cyson a phwyllog peiriant godro – a geir yn yr awdl enwog a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966, ‘Y Cynhaeaf’:

Pan ddelo’r adar i gynnar ganu
Eu halaw dirion i’m hailhyderu,
A phan ddaw’r amser i’r hin dyneru,
I braidd eni ŵyn, i briddyn wynnu,
Af innau i gyfannu – cylch y rhod,
Yn ôl i osod a’r ddôl yn glasu.

Eurig Salisbury

Llyfryddiaeth

Gruffydd, R. G. ac Ifans, Rh. (goln) (1997), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru).

Jones, D. (1969), Caneuon Cynhaeaf (Abertawe: Gwasg John Penry).

Lynch, P. (1998), ‘Einion Offeiriad a’r gyhydedd fer’, Dwned, 4, 59–74.

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen).

Roberts, B. F. (2004–16), ‘Einion Offeiriad’ http://www.oxforddnb.com/view/article/48544 [Cyrchwyd: 19 Awst 2016].

Rowlands, E. I. (1959), Awdlau Cadeiriol Detholedig y Ganrif Hon 1900–1925 (Lerpwll: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol).

Williams, G. J. a Jones, E. J. (goln) (1934), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.