Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hughes, R. S. (1855-1893)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 15: Llinell 15:
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 15:14, 4 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfansoddwr a’r pianydd Richard Samuel Hughes yn Aberystwyth, yn fab i Benjamin ac Ann Samuel Hughes a oedd yn cadw siop nwyddau haearn wrth ymyl cloc y dref. Amlygwyd ei ddawn gerddorol yn ifanc ac erbyn iddo gyrraedd ei ben-blwydd yn 5 oed llwyddodd i greu cryn argraff fel pianydd.

Enillodd ar ganu’r piano yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865 ac ymhlith y rhai a’i clywodd yr oedd Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77), Owain Alaw (John Owen) (1821–83) a Brinley Richards (1817–85) – swm o gini a gwerslyfr Richards ei hun ar ganu’r piano oedd y wobr. Yn 1870 symudodd i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ond dychwelodd i Aberystwyth ar ôl blwyddyn a hanner. Am gyfnod bu’n cynorthwyo’r Dr Roland Rogers (1847– 1927), organydd yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor. Dychwelodd eto i Aberystwyth, lle dechreuodd gyhoeddi caneuon, sef ei brif waith fel cyfansoddwr. Daeth yr unawdau Wyt ti’n Cofio’r Lloer yn Codi a Y Golomen Wen yn hynod boblogaidd. Symudodd i fyw wedyn i Fethesda lle y’i penodwyd yn organydd yng nghapel Annibynwyr Bethesda yn 1887 a lle bu’n weithgar fel athro cerdd.

Mae ei ganeuon niferus ymhlith goreuon y cyfnod yn Gymraeg ac yn parhau’n boblogaidd hyd heddiw. Maent hefyd yn adlewyrchu chwaeth y dydd, gyda’r themâu yn ymwneud â byd natur, y môr, marwolaeth gynnar, canu serch, gwladgarwch ac ati. Ymhlith ei ganeuon mwyaf nodedig y mae The Inchcape Bell, Y Tair Mordaith, Llam y Cariadau, Y Dymestl, Arafa Don, y deuawdau Gwýs i’r Gad a Lle treigla’r Caveri, a Chwech o Ganeuon Gwladgarol.

Ym mhob achos mae’r cyfeiliant yn nodedig idiomatig ac yn arddangos ei ddawn amlwg – meddylier er enghraifft am agoriad dramatig hir Y Dymestl (sy’n aml i’w chlywed ar Radio Cymru hyd heddiw, gyda’r baswr Richard Rees a’r pianydd Charles Clements yn ei pherfformio). Roedd R. S. Hughes hefyd yn deall sut yr oedd apelio at y gwrandawyr mewn cyngherddau ac yn dueddol o ‘chwarae i’r galeri’ ar ddiwedd ei ganeuon. Mae ei gynnyrch yn dangos dealltwriaeth lwyr o’r llais dynol, a gallai lunio alawon ffres, newydd er bod ei harmonïau’n aml yn dibynnu’n ormodol ar ailadrodd.

Mae ambell un o’i emyn-donau yn parhau’n boblogaidd a bu bri am gryn amser ar ei anthem Wel, f’enaid, dos ymlaen. Enillodd wobr am gyfansoddi pedwarawd llinynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1876, esiampl brin o gerddoriaeth offerynnol o Gymru, ond un sy’n anffodus ar goll. Claddwyd R. S. Hughes ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Lyn Davies



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.