Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iwtopia"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
‘Nunlle’ yw ystyr yr enw Groeg 'Iwtopia' neu ‘Wtopia’. Tebyg mai Syr Thomas More yn ei lyfr ''Utopia'' (1516) a ddefnyddiodd y gair gyntaf i olygu gwladwriaeth berffaith nad ydym wedi ei chyrraedd eto. Ond yr oedd y drychfeddwl yn hen, cyn hyned yn sicr â ''Gwladwriaeth'' Plato yn y 4g CC. Cawn felly’r cyferbyniad rhwng Arcadia – y baradwys a fu, ac Wtopia – y baradwys sydd i ddod. Ond ym mhob darlun o Wtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Wtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn ‘Dystopia’. Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. ‘Dystopaidd’ yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g., e.e. ''Darkness at Noon'' (Arthur Koestler), ''Brave New World'' (Aldous Huxley) ac ''Animal Farm'' a ''Nineteen Eighty-four'' (George Orwell); yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth. Yn ''Wythnos yng Nghymru Fydd'' (Islwyn Ffowc Elis) mae inni ddewis clir rhwng Wtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn ''Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys'' mae Emrys ap Iwan yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Wtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau Caradoc Evans, yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.  
+
‘Nunlle’ yw ystyr yr enw Groeg 'Iwtopia' neu ‘Wtopia’. Tebyg mai Syr Thomas More yn ei lyfr ''Utopia'' (1516) a ddefnyddiodd y gair gyntaf i olygu gwladwriaeth berffaith nad ydym wedi ei chyrraedd eto. Ond yr oedd y drychfeddwl yn hen, cyn hyned yn sicr â ''Gwladwriaeth'' Plato yn y 4g CC. Cawn felly’r cyferbyniad rhwng Arcadia – y baradwys a fu, ac Wtopia – y baradwys sydd i ddod. Ond ym mhob darlun o Wtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Iwtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn ‘Dystopia’. Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. ‘Dystopaidd’ yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g., e.e. ''Darkness at Noon'' (Arthur Koestler), ''Brave New World'' (Aldous Huxley) ac ''Animal Farm'' a ''Nineteen Eighty-four'' (George Orwell); yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth. Yn ''Wythnos yng Nghymru Fydd'' (Islwyn Ffowc Elis) mae inni ddewis clir rhwng Wtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn ''Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys'' mae Emrys ap Iwan yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Wtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau Caradoc Evans, yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.  
  
 
'''Dafydd Glyn Jones'''
 
'''Dafydd Glyn Jones'''

Diwygiad 20:26, 31 Gorffennaf 2016

‘Nunlle’ yw ystyr yr enw Groeg 'Iwtopia' neu ‘Wtopia’. Tebyg mai Syr Thomas More yn ei lyfr Utopia (1516) a ddefnyddiodd y gair gyntaf i olygu gwladwriaeth berffaith nad ydym wedi ei chyrraedd eto. Ond yr oedd y drychfeddwl yn hen, cyn hyned yn sicr â Gwladwriaeth Plato yn y 4g CC. Cawn felly’r cyferbyniad rhwng Arcadia – y baradwys a fu, ac Wtopia – y baradwys sydd i ddod. Ond ym mhob darlun o Wtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Iwtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn ‘Dystopia’. Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. ‘Dystopaidd’ yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g., e.e. Darkness at Noon (Arthur Koestler), Brave New World (Aldous Huxley) ac Animal Farm a Nineteen Eighty-four (George Orwell); yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth. Yn Wythnos yng Nghymru Fydd (Islwyn Ffowc Elis) mae inni ddewis clir rhwng Wtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys mae Emrys ap Iwan yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Wtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau Caradoc Evans, yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Morton, A. L. (1952), The English Utopia (Llundain: Lawrence & Wishart).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.