J. Kitchener Davies

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed James Davies ar 16 Mehefin 1902 ac fe’i magwyd yn Llwynpiod. Mynychodd ysgol yr eglwys yn Nhregaron hyd nes y bu ei fam farw ac yntau ond yn saith oed. Wedi hynny, fe’i anfonwyd i Banbury a dychwelodd, yn ôl y sôn, yn uniaith Saesneg. Fe’i magwyd wedyn gan ei fodryb, ac aeth i ysgol sir Tregaron, lle cafodd yr enw Kitchener ei roi iddo. Daeth yr enw am fod ei dad, â’i fwstas, yn debyg i’r Maeslywydd Prydeinig.

Astudiodd Cymraeg a Lladin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1922 hyd 1925, lle daeth yn gyfaill i David J. Jones (Gwenallt). Ar ôl derbyn ei dystysgrif Athro yn 1926, symudodd i Gwm Rhondda, i weithio mewn ysgolion. Bu fyw yn Nhonypandy am gyfnod yn ystod ei ieuenctid. Fe’i cofir fel un o arweinyddion Plaid Cymru yn y Rhondda ac fe weithiodd yn ddiarbed dros fywyd ac achosion Cymraeg y Cwm, yn enwedig dros sefydlu ysgol Gymraeg yno. Roedd yn enwog am ei bryddest, Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu, a’i ddrama enwocaf oedd y gwaith dadleuol, Cwm Glo. Ataliwyd y wobr am y ddrama hon gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1934 ond erbyn heddiw, fe’i hystyrir yn gampwaith.

Llyfryddiaeth

  • J. Kitchener Davies, ‘Drama Fawr Gymraeg’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 8 (Mehefin 1934), tt. 176 a 192.
  • J. Kitchener Davies, Cwm Glo (Lerpwl, 1935).
  • J. Kitchener Davies, ‘Lle Cymru yng Nghynllwynion Lloegr’, Heddiw, cyfrol 1, rhif 3 (Hydref 1936), tt. 90–92.
  • J. Kitchener Davies, ‘Cenedlaetholdeb Cymru a Chomiwnyddiaeth’, Heddiw, cyfrol 2, rhif 3 (Ebrill 1937), tt. 84–90.
  • J. Kitchener Davies, Susanna (Dinbych, 1938).
  • J. Kitchener Davies, ‘Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, cyfrol 5, rhif 4 (Awst 1939), tt. 170–179.
  • J. Kitchener Davies, Meini Gwagedd (Caerdydd, 1944).
  • J. Kitchener Davies, Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu (Dinbych, 1953).
  • J. Kitchener Davies, ‘Adfyw’, Y Cardi, rhif 3 (Awst 1968), tt. 14–18.
  • J. Kitchener Davies (gol.), Mair I. Davies, Gwaith Kitchener Davies (Llandysul, 1980).
  • Jack Jones (trosiad i’r Gymraeg), J. Kitchener Davies, Hen Wlad Fy Nhadau (Caerdydd, 2002).

Amdano

  • Saunders Lewis, ‘Pryddest Kitchener Davies’, Baner ac Amerau Cymru (21 Hydref, 1953), t. 7.
  • Gwenallt, ‘Cwm Rhondda’, yn Y Coed (Landysul, 1969), t. 24.
  • Wynne Samuel, ‘Kitchener Davies ar y bocs sebon’, Y Ddraig Goch (Hydref/Tachwedd 1980), t. 7.
  • Ioan Williams, Kitchener Davies (Caernarfon, 1984).
  • A. O. Chater, ‘Perthi’r Llain’, Naturiaethwr, 14 (Gorffennaf 1985), tt. 2–15.
  • Rhydwen Williams, ‘Y Ffynhonnau’, yn Rhondda Poems (Llanydybïe, 1987), tt. 34–45.
  • Kathryn Jenkins, ‘“O Lwynypïod i Lwynypia”: hunangofiant James Kitchener Davies’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIX (Dinbych, 1993), tt. 310–22.
  • Manon Rhys, ‘Atgyfodi Cwm Glo, Kitchener Davies’, Cwm Rhondda (Cyfres y Cymoedd), (Llandysul, 1995), tt. 276–300.
  • M. Wynn Thomas, ‘Keeping Rhondda for Wales: the case of J. Kitchener Davies’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1999), Cyfrol 6 (Llundain, 1999), tt. 119–134.* Rhian Reynolds, ‘Poetry for the Air’, Welsh Writing in English, 7 (2001–2002), tt. 78–105.
  • Manon Rhys, ‘Coffáu Kitch’, Taliesin, cyfrol 116 (Eisteddfod 2002), tt. 38–47.
  • M. Wynn Thomas, James Kitchener Davies (Caerdydd, 2002).
  • Gwen Angharad Jones, ‘Rhydypandy a Thonypandy’, Barn, rhif 477, (Hydref 2002), tt. 39–41.
  • Alan Llwyd, ‘Cofio “Cwm Glo”, Cofio Kitch’, Barddas, rhif 270 (Rhagfyr/Ionawr, 2002/2003), tt. 6–11.
  • M. Wynn Thomas, ‘Yr Awdur yn Destun’, Traethodydd, cyfrol 160 (2005), tt. 77–94.
  • Siôn Aled, ‘James Kitchener Davies’, yn (gol.) Robert Rhys, Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1), tt. 165–172.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.