Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jenkins, Karl (g.1944)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
 
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ei genhedlaeth, ganed Karl William Pamp Jenkins ym Mhen-clawdd ar benrhyn Gŵyr. Roedd ei dad, David Jenkins, yn organydd ac yn [[arweinydd]] côr capel Tabernacl, Pen-clawdd. Aeth i Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1967. Dilynodd gwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol yn Llundain gan raddio gyda LRAM yn 1968. (Daeth yn Gymrawd o’r Academi yn 2003.) Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr daeth yn flaenllaw fel perfformiwr obo, a dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth [[jazz]].
+
Un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ei genhedlaeth, ganed Karl William Pamp Jenkins ym Mhen-clawdd ar benrhyn Gŵyr. Roedd ei dad, David Jenkins, yn organydd ac yn [[arweinydd]] côr capel Tabernacl, Pen-clawdd. Aeth i Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol [[Caerdydd]] gan raddio yn 1967. Dilynodd gwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol yn Llundain gan raddio gyda LRAM yn 1968. (Daeth yn Gymrawd o’r Academi yn 2003.) Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr daeth yn flaenllaw fel perfformiwr obo, a dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth [[jazz]].
  
 
Yn 1967 ymunodd â chwechawd jazz y chwaraewr bas dwbl Graham Collier ac yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, cyd-sefydlodd y grŵp jazz-roc Nucleus gyda’r trympedwr Ian Carr. Rhwng 1970 ac 1971 rhyddhaodd Nucleus dair record hir – ''Elastic Rock'' (Vertigo, 1970), ''We’ll Talk About It Later'' (Vertigo, 1971) a ''Solar Plexus'' (Vertigo, 1971) – gyda chyfraniad Jenkins yn amlwg ar yr obo, sacsoffonau ac allweddellau. Ystyrid eu cyfuniad o elfennau [[roc]] a jazz yn arloesol ar y pryd ac enillodd y band wobr gyntaf yng Ngŵyl Jazz Montreux yn 1970 wrth berfformio traciau o’u halbwm cyntaf.
 
Yn 1967 ymunodd â chwechawd jazz y chwaraewr bas dwbl Graham Collier ac yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, cyd-sefydlodd y grŵp jazz-roc Nucleus gyda’r trympedwr Ian Carr. Rhwng 1970 ac 1971 rhyddhaodd Nucleus dair record hir – ''Elastic Rock'' (Vertigo, 1970), ''We’ll Talk About It Later'' (Vertigo, 1971) a ''Solar Plexus'' (Vertigo, 1971) – gyda chyfraniad Jenkins yn amlwg ar yr obo, sacsoffonau ac allweddellau. Ystyrid eu cyfuniad o elfennau [[roc]] a jazz yn arloesol ar y pryd ac enillodd y band wobr gyntaf yng Ngŵyl Jazz Montreux yn 1970 wrth berfformio traciau o’u halbwm cyntaf.
Llinell 12: Llinell 12:
 
Enillodd y cwmni sawl gwobr am eu cerddoriaeth i hysbysebion Boots, Levis a De Beers (ysgrifennwyd y darn i linynnau, ''Palladio'' (1992–5), ar gyfer yr olaf o’r rhain), ond eu comisiwn mwyaf llwyddiannus oedd ar gyfer hysbyseb teledu gan Delta Airlines yn 1994. Datblygodd y comisiwn ar gyfer Delta Airlines yn brosiect newydd sylweddol, sef ''Adiemus: Songs of Sanctuary'', a ddaeth â Jenkins i sylw ehangach. Yn ôl Pwyll ap Siôn, gyda’i gyfuniad o elfennau Celtaidd, sain drawiadol o leisiau benywaidd yn cynhyrchu sain heb fibrato, ‘sefydlir yn ddiymdroi yn ''Adiemus'' dermau eclectig ei ôlfoderniaeth banethnig’ (ap Siôn 2007, 283).
 
Enillodd y cwmni sawl gwobr am eu cerddoriaeth i hysbysebion Boots, Levis a De Beers (ysgrifennwyd y darn i linynnau, ''Palladio'' (1992–5), ar gyfer yr olaf o’r rhain), ond eu comisiwn mwyaf llwyddiannus oedd ar gyfer hysbyseb teledu gan Delta Airlines yn 1994. Datblygodd y comisiwn ar gyfer Delta Airlines yn brosiect newydd sylweddol, sef ''Adiemus: Songs of Sanctuary'', a ddaeth â Jenkins i sylw ehangach. Yn ôl Pwyll ap Siôn, gyda’i gyfuniad o elfennau Celtaidd, sain drawiadol o leisiau benywaidd yn cynhyrchu sain heb fibrato, ‘sefydlir yn ddiymdroi yn ''Adiemus'' dermau eclectig ei ôlfoderniaeth banethnig’ (ap Siôn 2007, 283).
  
Yn gerddoriaeth sydd ar y ffin rhwng [[canu pop]] a [[cherddoriaeth gelfyddydol]], ''Adiemus'' a’i hamlygodd fel cyfansoddwr ‘clasurol’ adnabyddus a phoblogaidd. Cafodd y gwaith ei ryddhau ar label Virgin yn 1995, ac arweiniodd at ryddhau pum gwaith arall o dan yr un teitl: ''Cantata Mundi'' (Virgin, 1996), ''Dances of Time'' (Virgin, 1998), ''The Eternal Knot'' (Virgin, 2000), ''Vocalise'' (EMI, 2003) ac, yn fwyaf diweddar, ''Colores'' (Deutsche Grammophon, 2013). Mae’r gweithiau hyn yn benthyg nifer o elfennau o ddiwylliannau byd- eang a chânt eu perfformio gan gyfuniad o offerynnau Gorllewinol ac ethnig; defnyddir hefyd iaith ffonetig sy’n cael ei chanu gan grŵp o gantorion. Mae’r pedwerydd gwaith, ''The Eternal Knot'', er enghraifft, yn cymhwyso elfennau o gerddoriaeth Geltaidd, a defnyddiwyd y gerddoriaeth fel trac sain i gyfres ''Y Celtiaid'' (S4C, 2000).
+
Yn gerddoriaeth sydd ar y ffin rhwng [[canu pop]] a [[cherddoriaeth gelfyddydol]], ''Adiemus'' a’i hamlygodd fel cyfansoddwr ‘clasurol’ adnabyddus a phoblogaidd. Cafodd y gwaith ei ryddhau ar label Virgin yn 1995, ac arweiniodd at ryddhau pum gwaith arall o dan yr un teitl: ''[[Cantata]] Mundi'' (Virgin, 1996), ''Dances of Time'' (Virgin, 1998), ''The Eternal Knot'' (Virgin, 2000), ''Vocalise'' (EMI, 2003) ac, yn fwyaf diweddar, ''Colores'' (Deutsche Grammophon, 2013). Mae’r gweithiau hyn yn benthyg nifer o elfennau o ddiwylliannau byd- eang a chânt eu [[perfformio]] gan gyfuniad o offerynnau Gorllewinol ac ethnig; defnyddir hefyd iaith ffonetig sy’n cael ei chanu gan grŵp o gantorion. Mae’r pedwerydd gwaith, ''The Eternal Knot'', er enghraifft, yn cymhwyso elfennau o gerddoriaeth Geltaidd, a defnyddiwyd y gerddoriaeth fel trac sain i gyfres ''Y Celtiaid'' (S4C, 2000).
  
 
Ar droad y mileniwm newydd bu Jenkins yn cydweithio gydag amryw o gerddorion a sefydliadau cerddorol Cymreig. Comisiynwyd deuawd i delyn, ''Over The Stone'' (2002), a berfformiwyd am y tro cyntaf gan [[Catrin Finch]] ac [[Elinor Bennett]] i gyfeiliant BBC NOW. Flwyddyn yn ddiweddarach perfformiodd Finch ‘Harpers Bizarre’ ar ei halbwm ''Crossing the Stone'' (Sony, 2003), ac yn 2004 cafwyd perfformiad gyda [[Bryn Terfel]] o’r gwaith corawl a cherddorfaol ''In These Stones Horizons Sing'', a gomisiynwyd i ddathlu agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru gan ddefnyddio geiriau’r bardd Gwyneth Lewis.
 
Ar droad y mileniwm newydd bu Jenkins yn cydweithio gydag amryw o gerddorion a sefydliadau cerddorol Cymreig. Comisiynwyd deuawd i delyn, ''Over The Stone'' (2002), a berfformiwyd am y tro cyntaf gan [[Catrin Finch]] ac [[Elinor Bennett]] i gyfeiliant BBC NOW. Flwyddyn yn ddiweddarach perfformiodd Finch ‘Harpers Bizarre’ ar ei halbwm ''Crossing the Stone'' (Sony, 2003), ac yn 2004 cafwyd perfformiad gyda [[Bryn Terfel]] o’r gwaith corawl a cherddorfaol ''In These Stones Horizons Sing'', a gomisiynwyd i ddathlu agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru gan ddefnyddio geiriau’r bardd Gwyneth Lewis.
Llinell 18: Llinell 18:
 
Yn 2009 rhyddhawyd albwm Nadoligaidd, ''Stella Natalis'' (EMI, 2009), sy’n cynnwys y trac ‘Cantus Triquetrus’ a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gôr Seiriol. Yn 2006 rhyddhawyd yr albwm ''Kiri Sings Karl'' (EMI, 2006) gan y soprano o Seland Newydd, Kiri te Kanawa, gydag un gân yn Gymraeg (‘Y Cyfrinwyr’). Yn 2008 ysgrifennodd Jenkins ''Caerdydd 125'' i ddathlu 125 mlynedd ers sefydlu [[Prifysgol]] Caerdydd, ac yn 2012 cyflwynwyd gwaith corawl ganddo i ddathlu’r Gemau Olympaidd, ''Songs of the Earth'', a berfformiwyd gan Gorws a Cherddorfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â chorau ieuenctid eraill o Gymru.
 
Yn 2009 rhyddhawyd albwm Nadoligaidd, ''Stella Natalis'' (EMI, 2009), sy’n cynnwys y trac ‘Cantus Triquetrus’ a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gôr Seiriol. Yn 2006 rhyddhawyd yr albwm ''Kiri Sings Karl'' (EMI, 2006) gan y soprano o Seland Newydd, Kiri te Kanawa, gydag un gân yn Gymraeg (‘Y Cyfrinwyr’). Yn 2008 ysgrifennodd Jenkins ''Caerdydd 125'' i ddathlu 125 mlynedd ers sefydlu [[Prifysgol]] Caerdydd, ac yn 2012 cyflwynwyd gwaith corawl ganddo i ddathlu’r Gemau Olympaidd, ''Songs of the Earth'', a berfformiwyd gan Gorws a Cherddorfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â chorau ieuenctid eraill o Gymru.
  
Gellir tybio bod diddordeb Jenkins mewn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer [[corau]] (sydd o fewn cyrraedd grwpiau amatur a phroffesiynol) wedi datblygu o ganlyniad i gryfder y traddodiad corawl yng Nghymru. Ymhlith ei brif weithiau corawl y mae ''The Armed Man: Mass for Peace'' (2000), ''Requiem'' (2005), ''Stabat Mater'' (2008), ac yn fwyaf diweddar ''Cantata Memoria'' (2016), er cof am drychineb Aberfan yn 1966. Maent oll yn weithiau sy’n cyfuno elfennau o litwrgi grefyddol gydag elfennau o gerddoriaeth a diwylliant byd-eang.
+
Gellir tybio bod diddordeb Jenkins mewn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer [[corau]] (sydd o fewn cyrraedd grwpiau amatur a phroffesiynol) wedi [[datblygu]] o ganlyniad i gryfder y traddodiad corawl yng Nghymru. Ymhlith ei brif weithiau corawl y mae ''The Armed Man: Mass for Peace'' (2000), ''Requiem'' (2005), ''Stabat Mater'' (2008), ac yn fwyaf diweddar ''Cantata Memoria'' (2016), er cof am drychineb Aberfan yn 1966. Maent oll yn weithiau sy’n cyfuno elfennau o litwrgi grefyddol gydag elfennau o gerddoriaeth a diwylliant byd-eang.
  
Clywir testunau sy’n cyfeirio at erchyllterau rhyfel a’r gobaith am heddwch yn ''The Armed Man'', tra mae’r ''Requiem'' – a gyfansoddwyd gan Jenkins ar ôl marwolaeth ei dad – yn cyfuno patrwm yr offeren i’r meirw gyda phum pennill Haiku o Japan, penillion cryno yn cynrychioli cylch bywyd a symbolau o ailenedigaeth. Gwneir defnydd o’r ffliwt ''shakuhachi'' yn ogystal. Tra clywir dylanwadau Japaneaidd yn ''Requiem'', mae’r ''Stabat Mater'' yn cyfuno arddulliau ehangach. Caiff y testun crefyddol ei gyfuno gyda thestunau crefyddol canoloesol a chynharach, ysgrifau seciwlar o’r Dwyrain Canol ac offeryniaeth gynhenid mewn diwylliannau Arabaidd a Thwrcaidd megis y ''mey'', y ''riq'' a’r ''darabuca''. Ysgrifennwyd testunau cyfoes Saesneg gan wraig Jenkins, Carol Barratt, yn ogystal.
+
Clywir testunau sy’n cyfeirio at erchyllterau rhyfel a’r gobaith am heddwch yn ''The Armed Man'', tra mae’r ''Requiem'' – a gyfansoddwyd gan Jenkins ar ôl marwolaeth ei dad – yn cyfuno patrwm yr offeren i’r meirw gyda phum pennill Haiku o Japan, penillion cryno yn cynrychioli cylch bywyd a symbolau o ailenedigaeth. Gwneir defnydd o’r ffliwt ''shakuhachi'' yn ogystal. Tra clywir dylanwadau Japaneaidd yn ''Requiem'', mae’r ''Stabat Mater'' yn cyfuno arddulliau ehangach. Caiff y [[testun]] crefyddol ei gyfuno gyda thestunau crefyddol canoloesol a chynharach, ysgrifau seciwlar o’r Dwyrain Canol ac offeryniaeth gynhenid mewn diwylliannau Arabaidd a Thwrcaidd megis y ''mey'', y ''riq'' a’r ''darabuca''. Ysgrifennwyd testunau cyfoes Saesneg gan wraig Jenkins, Carol Barratt, yn ogystal.
  
 
Er mor boblogaidd bu gwaith Jenkins yn fasnachol,
 
Er mor boblogaidd bu gwaith Jenkins yn fasnachol,
bu rhai’n ei feirniadu gan fynegi’r farn mai symlrwydd arwynebol yw un o’i brif nodweddion (gw. Clark & Henley 2007). Fodd bynnag, mae arddull eclectig Jenkins wedi sicrhau llwyddiant iddo ymhell tu hwnt i Gymru. Efallai fod yr arddull yma yn deillio o’i brofiadau cynnar o weithio yn y [[cyfryngau]], lle’r oedd angen iddo ymateb yn gyflym i ofynion hysbysebion. Roedd ei brofiad fel aelod o fandiau [[jazz]], jazz roc a roc blaengar hefyd yn golygu ei fod yn barod iawn i wthio ffiniau a chyfuno arddulliau mewn modd arbrofol. Derbyniodd OBE yn 2005 a CBE yn 2010 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, ynghyd â llu o raddau er anrhydedd. Yn 2015 fe’i hurddwyd yn farchog, y cyfansoddwr cyntaf o Gymru i dderbyn yr anrhydedd honno.
+
bu rhai’n ei feirniadu gan fynegi’r farn mai symlrwydd arwynebol yw un o’i brif nodweddion (gw. Clark & Henley 2007). Fodd bynnag, mae [[arddull]] eclectig Jenkins wedi sicrhau llwyddiant iddo ymhell tu hwnt i Gymru. Efallai fod yr arddull yma yn deillio o’i brofiadau cynnar o weithio yn y [[cyfryngau]], lle’r oedd angen iddo ymateb yn gyflym i ofynion hysbysebion. Roedd ei brofiad fel aelod o fandiau [[jazz]], jazz roc a roc blaengar hefyd yn golygu ei fod yn barod iawn i wthio ffiniau a chyfuno arddulliau mewn modd arbrofol. Derbyniodd OBE yn 2005 a CBE yn 2010 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, ynghyd â llu o raddau er anrhydedd. Yn 2015 fe’i hurddwyd yn farchog, y cyfansoddwr cyntaf o Gymru i dderbyn yr anrhydedd honno.
  
 
'''Tristian Evans'''
 
'''Tristian Evans'''
Llinell 65: Llinell 65:
 
*Philip Clark a Darren Henley, ‘What makes Karl Jenkins the Marmite man of music?’, ''The Times'' (7 Mawrth 2008) ''http://www.thetimes.co.uk/tto/arts/music/article2414804.ece''
 
*Philip Clark a Darren Henley, ‘What makes Karl Jenkins the Marmite man of music?’, ''The Times'' (7 Mawrth 2008) ''http://www.thetimes.co.uk/tto/arts/music/article2414804.ece''
  
*Cyfweliad personol â’r awdur, 14 Mehefin 2007 ''http://www.karljenkins.com''
+
*[[Cyfweliad]] personol â’r awdur, 14 Mehefin 2007 ''http://www.karljenkins.com''
  
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 18:22, 18 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ei genhedlaeth, ganed Karl William Pamp Jenkins ym Mhen-clawdd ar benrhyn Gŵyr. Roedd ei dad, David Jenkins, yn organydd ac yn arweinydd côr capel Tabernacl, Pen-clawdd. Aeth i Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1967. Dilynodd gwrs ôl-raddedig yn yr Academi Frenhinol yn Llundain gan raddio gyda LRAM yn 1968. (Daeth yn Gymrawd o’r Academi yn 2003.) Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr daeth yn flaenllaw fel perfformiwr obo, a dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth jazz.

Yn 1967 ymunodd â chwechawd jazz y chwaraewr bas dwbl Graham Collier ac yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, cyd-sefydlodd y grŵp jazz-roc Nucleus gyda’r trympedwr Ian Carr. Rhwng 1970 ac 1971 rhyddhaodd Nucleus dair record hir – Elastic Rock (Vertigo, 1970), We’ll Talk About It Later (Vertigo, 1971) a Solar Plexus (Vertigo, 1971) – gyda chyfraniad Jenkins yn amlwg ar yr obo, sacsoffonau ac allweddellau. Ystyrid eu cyfuniad o elfennau roc a jazz yn arloesol ar y pryd ac enillodd y band wobr gyntaf yng Ngŵyl Jazz Montreux yn 1970 wrth berfformio traciau o’u halbwm cyntaf.

Fodd bynnag, erbyn 1972 roedd Jenkins wedi ymuno â’r grŵp roc blaengar Soft Machine – grŵp a oedd wedi ei sefydlu ers 1966 gan yr allweddellydd Mike Ratledge – gan ymddangos ar Six (CBS, 1973) a Seven (CBS, 1973). Tra oedd yn aelod o’r band daeth Jenkins dan ddylanwad minimaliaeth, yn enwedig cerddoriaeth Terry Riley, ac roedd nifer o gyfansoddiadau’r band, megis ‘Floating World’ (1975), yn defnyddio prosesau graddol, amseroedd estynedig a ffigurau ailadroddus (am fwy ynglŷn â hanes Soft Machine, gw. Macan 1997).

Bu newid cyfeiriad ar ddechrau’r 1980au. Gyda’r diddordeb mewn roc blaengar yn cilio wedi dyfodiad roc pync ar ddiwedd yr 1970au a cherddoriaeth y don newydd ar ddechrau’r 1980au, sefydlodd Ratledge a Jenkins gwmni cynhyrchu cerddoriaeth yn Llundain o dan yr enw Mooz (Jenkins Ratledge yn ddiweddarach), gan gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau, trefnu cerddoriaeth a chynhyrchu recordiadau.

Enillodd y cwmni sawl gwobr am eu cerddoriaeth i hysbysebion Boots, Levis a De Beers (ysgrifennwyd y darn i linynnau, Palladio (1992–5), ar gyfer yr olaf o’r rhain), ond eu comisiwn mwyaf llwyddiannus oedd ar gyfer hysbyseb teledu gan Delta Airlines yn 1994. Datblygodd y comisiwn ar gyfer Delta Airlines yn brosiect newydd sylweddol, sef Adiemus: Songs of Sanctuary, a ddaeth â Jenkins i sylw ehangach. Yn ôl Pwyll ap Siôn, gyda’i gyfuniad o elfennau Celtaidd, sain drawiadol o leisiau benywaidd yn cynhyrchu sain heb fibrato, ‘sefydlir yn ddiymdroi yn Adiemus dermau eclectig ei ôlfoderniaeth banethnig’ (ap Siôn 2007, 283).

Yn gerddoriaeth sydd ar y ffin rhwng canu pop a cherddoriaeth gelfyddydol, Adiemus a’i hamlygodd fel cyfansoddwr ‘clasurol’ adnabyddus a phoblogaidd. Cafodd y gwaith ei ryddhau ar label Virgin yn 1995, ac arweiniodd at ryddhau pum gwaith arall o dan yr un teitl: Cantata Mundi (Virgin, 1996), Dances of Time (Virgin, 1998), The Eternal Knot (Virgin, 2000), Vocalise (EMI, 2003) ac, yn fwyaf diweddar, Colores (Deutsche Grammophon, 2013). Mae’r gweithiau hyn yn benthyg nifer o elfennau o ddiwylliannau byd- eang a chânt eu perfformio gan gyfuniad o offerynnau Gorllewinol ac ethnig; defnyddir hefyd iaith ffonetig sy’n cael ei chanu gan grŵp o gantorion. Mae’r pedwerydd gwaith, The Eternal Knot, er enghraifft, yn cymhwyso elfennau o gerddoriaeth Geltaidd, a defnyddiwyd y gerddoriaeth fel trac sain i gyfres Y Celtiaid (S4C, 2000).

Ar droad y mileniwm newydd bu Jenkins yn cydweithio gydag amryw o gerddorion a sefydliadau cerddorol Cymreig. Comisiynwyd deuawd i delyn, Over The Stone (2002), a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Catrin Finch ac Elinor Bennett i gyfeiliant BBC NOW. Flwyddyn yn ddiweddarach perfformiodd Finch ‘Harpers Bizarre’ ar ei halbwm Crossing the Stone (Sony, 2003), ac yn 2004 cafwyd perfformiad gyda Bryn Terfel o’r gwaith corawl a cherddorfaol In These Stones Horizons Sing, a gomisiynwyd i ddathlu agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru gan ddefnyddio geiriau’r bardd Gwyneth Lewis.

Yn 2009 rhyddhawyd albwm Nadoligaidd, Stella Natalis (EMI, 2009), sy’n cynnwys y trac ‘Cantus Triquetrus’ a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gôr Seiriol. Yn 2006 rhyddhawyd yr albwm Kiri Sings Karl (EMI, 2006) gan y soprano o Seland Newydd, Kiri te Kanawa, gydag un gân yn Gymraeg (‘Y Cyfrinwyr’). Yn 2008 ysgrifennodd Jenkins Caerdydd 125 i ddathlu 125 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Caerdydd, ac yn 2012 cyflwynwyd gwaith corawl ganddo i ddathlu’r Gemau Olympaidd, Songs of the Earth, a berfformiwyd gan Gorws a Cherddorfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â chorau ieuenctid eraill o Gymru.

Gellir tybio bod diddordeb Jenkins mewn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer corau (sydd o fewn cyrraedd grwpiau amatur a phroffesiynol) wedi datblygu o ganlyniad i gryfder y traddodiad corawl yng Nghymru. Ymhlith ei brif weithiau corawl y mae The Armed Man: Mass for Peace (2000), Requiem (2005), Stabat Mater (2008), ac yn fwyaf diweddar Cantata Memoria (2016), er cof am drychineb Aberfan yn 1966. Maent oll yn weithiau sy’n cyfuno elfennau o litwrgi grefyddol gydag elfennau o gerddoriaeth a diwylliant byd-eang.

Clywir testunau sy’n cyfeirio at erchyllterau rhyfel a’r gobaith am heddwch yn The Armed Man, tra mae’r Requiem – a gyfansoddwyd gan Jenkins ar ôl marwolaeth ei dad – yn cyfuno patrwm yr offeren i’r meirw gyda phum pennill Haiku o Japan, penillion cryno yn cynrychioli cylch bywyd a symbolau o ailenedigaeth. Gwneir defnydd o’r ffliwt shakuhachi yn ogystal. Tra clywir dylanwadau Japaneaidd yn Requiem, mae’r Stabat Mater yn cyfuno arddulliau ehangach. Caiff y testun crefyddol ei gyfuno gyda thestunau crefyddol canoloesol a chynharach, ysgrifau seciwlar o’r Dwyrain Canol ac offeryniaeth gynhenid mewn diwylliannau Arabaidd a Thwrcaidd megis y mey, y riq a’r darabuca. Ysgrifennwyd testunau cyfoes Saesneg gan wraig Jenkins, Carol Barratt, yn ogystal.

Er mor boblogaidd bu gwaith Jenkins yn fasnachol, bu rhai’n ei feirniadu gan fynegi’r farn mai symlrwydd arwynebol yw un o’i brif nodweddion (gw. Clark & Henley 2007). Fodd bynnag, mae arddull eclectig Jenkins wedi sicrhau llwyddiant iddo ymhell tu hwnt i Gymru. Efallai fod yr arddull yma yn deillio o’i brofiadau cynnar o weithio yn y cyfryngau, lle’r oedd angen iddo ymateb yn gyflym i ofynion hysbysebion. Roedd ei brofiad fel aelod o fandiau jazz, jazz roc a roc blaengar hefyd yn golygu ei fod yn barod iawn i wthio ffiniau a chyfuno arddulliau mewn modd arbrofol. Derbyniodd OBE yn 2005 a CBE yn 2010 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, ynghyd â llu o raddau er anrhydedd. Yn 2015 fe’i hurddwyd yn farchog, y cyfansoddwr cyntaf o Gymru i dderbyn yr anrhydedd honno.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Adiemus: Songs of Sanctuary (Venture CDVEX925, 1995)
  • Cantata Mundi (Venture CDVEX932, 1996)
  • Dances of Time (Venture CDVE940, 1998)
  • The Eternal Knot (Virgin CDVE952, 2000)
  • Vocalise (EMI 7243-5, 2003)
  • Colores (Deutsche Grammophon 479-1067, 2013)

gyda Nucleus:

  • Elastic Rock (Vertigo 6360 008, 1970)
  • We’ll Talk About It Later (Vertigo 6360027, 1971)
  • Solar Plexus (Vertigo 6360 039, 1971)

gyda Soft Machine:

  • Six (CBS 68214, 1973)
  • Seven (CBS 65799, 1973)
  • Land of Cockayne (EMI EMC3348, 1981)

Llyfryddiaeth

  • Edward Macan, Rocking the Classics: English Progressive Rock and the Counterculture (Rhydychen, 1997)
  • Pwyll ap Siôn, ‘Cenedligrwydd a’r Cyfansoddwr Cymreig’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2007), 265–84



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.