Jones, T. Gwynn

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:08, 16 Tachwedd 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd, llenor, ysgolhaig, dramodydd, cyfieithydd a newyddiadurwr oedd T. Gwynn Jones (1871–1949). Enillodd y gadair genedlaethol yn 1902 ar ddechrau cyfnod llewyrchus i farddoniaeth Gymraeg a gaiff ei ystyried yn fath ar ddadeni llenyddol. Â’i wreiddiau yn y Sir Ddinbych amaethyddol, yn Aberystwyth y treuliodd ran helaethaf ei fywyd ac yntau’n ddarlithydd, ac yna’n Athro, yng Ngholeg y Brifysgol yno. Roedd ganddo ddiddordeb byw a hynod ddysgedig yn y gwledydd Celtaidd a’u hieithoedd, yn ogystal â diwylliannau Ewropeaidd eraill. Effeithiwyd arno’n ddirfawr gan ddinistr y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn gynyddol gwelir ei waith yn datblygu o ramantiaeth obeithiol, wladgarol tuag at anobaith cynyddol ynghylch tynged ei wlad, ei iaith, a chwrs y byd. Bwrir golwg yn benodol yma ar ei syniadau am estheteg (â'i pherthynas a Cheltigyrwydd).

Consyrn hanfodol ar ddiwedd y 19g., yn enwedig ymysg trigolion gwledydd traddodiadol amaethyddol fel Cymru ac Iwerddon, oedd y tir ei hun, ei drawsffurfiad yn sgil y chwyldro diwydiannol, a gormes o du’r sawl a oedd yn berchen arno. Mewn cyd-destun Cymreig, yr oedd yr obsesiwn hwn â’r tir, yn aml drwy gyfrwng disgrifiadau o natur, nid yn unig yn nodwedd hiraethus, ramantaidd, wrth-ddiwydiannol a gwrth-fodern, ond hefyd yn ymwneud â theimladau gwrthdrefedigaethol a gwrth-Brydeinig, wrth i’r awdur geisio ailhawlio’r tir yn ei waith drwy ei ailddiffinio, ei ddisgrifio yn ôl ei ddelfryd ei hun, a’i glodfori.

Natur grwydrol ac aflonydd a fu i fywyd T. Gwynn Jones am flynyddoedd, gan symud rhwng cefn gwlad a gwahanol drefi a oedd yn ganolog i’r bywyd diwylliannol Cymreig ar y pryd fel Lerpwl a Chaernarfon. Cynrychiolai cefn gwlad y bywyd cyn-ddiwydiannol, mwy hynafol a thraddodiadol, ond yr oedd cosmopolitaniaeth a modernrwydd lleoedd fel Lerpwl, Caernarfon, Dulyn a hyd yn oed yr Aifft yn cynnig posibiliadau newydd yn ddiwylliannol ac mewn termau artistig. Yn sicr, mae i waith cynnar T. Gwynn Jones ymdeimlad cryf o ddieithriad a dadleoliad, ond efallai mai o’r dadleoliad cynnar hwn y daw’r diddordeb mewn Celtigrwydd yn ei waith, gan ei fod ar unwaith yn cynnig ffordd o bontio’r gagendor rhwng y byd hynafol a’r byd modern, o gysylltu â’r tir ac â chof y tir, yn gyfle i groesi ffiniau ac i edrych y tu hwnt i Gymru’n unig. Yn ei Geltigrwydd, safai T. Gwynn Jones hefyd ar y ffin rhwng rhamantiaeth y 18g. a’r 19g., ar y naill law, a moderniaeth yr 20g. ar y llall.

Amwys yw safbwynt esthetaidd T. Gwynn Jones mewn perthynas ag iaith. Yn sicr, rhaid cydnabod natur ganolog ac allweddol y Gymraeg yn ei waith. Ond ceir tyndra yn ei farddoniaeth a’i feddwl rhwng y llenyddol a’r llafar, a rhwng swyddogaeth iaith ar y naill law fel mur amddiffynnol (pace Emrys ap Iwan, a ddylanwadodd yn fawr arno’n ifanc) neu arwydd o arwahanrwydd, ac ar y llaw arall fel modd o gyfathrebu ar draws ffiniau cenedlaethol a diwylliannol. I T. Gwynn Jones, nid ieithoedd caeëdig yw’r ieithoedd Celtaidd, ond moddion o ddenu eraill o genhedloedd bychain Ewrop i gydweithio ac i gydymdeimlo â hwy. ‘Yr oedd y Cymry’ ar un adeg, medd Jones, ‘yn gyfrannog yn niwylliant Gorllewin Ewrop, a’r Gymraeg cystal a rhyw iaith arall yno. Nid oedd “cachadurieit y wlad,” chwedl Dr. Sion Dafydd Rhys, eto wedi dysgu dirmygu eu iaith eu hunain, a siarad iaith eu meistriaid fel caethion’. Roedd yr iaith yn gyswllt hanfodol â’r gorffennol:

Yr oedd ein diwylliant y pryd hynny yn rhan o ddiwylliant cyffredinol Ewrop; ac wedi’i gyfoethogi o lawer cyfeiriad. Er colli o honom lawer arfer ddymunol, wrth gadw ein hiaith cadwasom doreth mawr ein diwylliant hynafol; a gellir ei olrhain yn gadwyn, o ddolen i ddolen, o’r chweched ganrif hyd yr ugeinfed.

Yn ei gerdd hir ‘Argoed’ (1927-30), er enghraifft, rhoes le i’r ystyriaethau ieithyddol y bu’n ymboeni amdanynt cyhyd, gan ddefnyddio lleoliad Celtaidd-Ewropeaidd yn Llydaw i bortreadu hyn. Daw’r ‘estron’ – y Rhufeiniaid yn yr achos hwn – i ‘ddofi’ y llwyth drwy ymosod ar eu hiaith, gan orseddu yn ei lle ‘[d]di-raen lediaith o druan Ladin’. Awgrymir bod trigolion Argoed, o golli eu hiaith, hefyd yn colli eu diwylliant a’u hunan-barch.

Edrych oddi allan ar ddiwylliant a wna adroddwr ‘Argoed’, ac mae hwn yn safbwynt y try Jones ato’n aml. Gwerth nodi, wrth gwrs, mai fel ysgolhaig y bu’n ennill ei fara o 1913 ymlaen, fel darlithydd ac yna Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Y mae’r safbwynt ysgolheigaidd hwn yn gwbl gydnaws â meddylfryd yr oes a dra-orseddai ymchwil ysgolheigaidd, empeiraidd, yn ffilolegol ac ieithyddol. Yn wir, fel ysgolhaig o fardd y gwelid T. Gwynn Jones gan ei gyfoedion, ac mae lle i gredu mai felly y gwelai yntau ei hun hefyd.

Ar yr un pryd, fodd bynnag, gwthiai yn erbyn dehongliad deallusion fel Matthew Arnold o’r Celtiaid fel diwylliannau di-rym, statig, marw ac anhanesïol, a cheisiai ddadlau dros ddilysrwydd diwylliant byw Cymru a chanddo’r gallu i fod yn sylfaen i genedl-wladwriaeth yn hytrach nag fel rhywbeth i’w astudio’n unig. Yng ngwaith creadigol ac academaidd Jones, gwelwn dyndra rhwng yr awch i fynnu bod y Gymraeg a’i llenyddiaeth yn haeddu cael eu hastudio fel pynciau academaidd, a’r awydd ar yr un pryd i ddangos eu bod yn fwy na phynciau academaidd yn unig. Yn hyn o beth, deuwn at amcan creiddiol gyrfa lenyddol Jones, o bosibl, sef ceisio cyfleu dilysrwydd diwylliannol a gwleidyddol llenyddiaeth y gorffennol, gan ddefnyddio hynny i ‘weld’ neu i ddychmygu dyfodol i’r Cymry. Wrth wneud hyn, roedd yn ymrafael â’r tyndra rhwng traddodiad fel continwwm parhaus ar y naill law a’r cyflwr modern a modernaidd drylliedig ar y llall.

Y mae’r cymhlethdodau hyn, a’r tyndra rhwng traddodiad a moderniaeth, yn gosod T. Gwynn Jones ar drothwy rhwng rhamantiaeth a moderniaeth. Er bod beirniaid wedi tueddu i synio amdano fel rhamantydd, mae eraill fel Jerry Hunter wedi dadlau dros ei alw’n fodernydd; ac o ystyried rhai o’r safbwyntiau esthetaidd a beirniadol cyferbyniol yn ei waith, hawdd deall pam. Ar y naill law ceir ymwybyddiaeth ddofn o draddodiad yng ngwaith Jones, ond ar y llaw arall fe ŵyr yn rhy dda hefyd mai traddodiad drylliedig, wedi’i fradychu, ydyw bellach. O’r traddodiad drylliedig hwnnw, fodd bynnag, y gellir creu traddodiad newydd o barhad. Gellir darllen ‘Gwlad y Bryniau’, er enghraifft, fel awdl ddrylliedig, ddarniog, yn ei hadeiladwaith, ei lleoliadau, ei gweledigaeth a’i mesur. Yn ‘Tir na nOg’, mae Osian yn mynd ati, yn dra symbolaidd, i geisio ailadeiladu’r hen neuaddau o’r cerrig ymysg yr adfeilion – ond yn trengi yn yr ymdrech. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, aeth Jones ati i arbrofi â’r gynghanedd a’i ffurfiau – o ‘Madog’ i ‘Gwlad Hud’ i ‘Cynddilig’ – er mwyn dangos drachefn nad traddodiad a chyfundrefn statig, ddigyfnewid mo cerdd dafod, ond rhywbeth byw a oedd yn datblygu’n gyson. Nid traddodiad caeëdig, gorffenedig, llonydd a marw yw ei draddodiad, ond un sydd yn parhau i’w ail-greu, ail-ddiffinio ac ail-ddyfeisio ei hun yn gyson. Trwy hyn llwydda T. Gwynn Jones i droi Celtigrwydd yn arf perfformiadol a chreadigol i greu o’r newydd.

Yn hynny o beth, y mae gwaith T. Gwynn Jones yn enghraifft o ysgrifennu gwrth-drefedigaethol, ac ar yr un pryd yn cynnig her i rai o dybiaethau a chyfyngiadau astudiaethau ôl-drefedigaethol.

Tueddodd astudiaethau o’r fath, er enghraifft, i ganolbwyntio ar lenyddiaeth drefedigaethedig wedi’i mynegi yn iaith y trefedigaethwr, a’r defnydd o’r iaith honno fel arf mimetig. Ond cynigia amlieithrwydd Jones her i’r unplygrwydd hwn yn ogystal ag i dybiaeth rhai fel Deleuze a Guattari fod rhaid i lenyddiaeth ‘lai’ gael ei chreu trwy gyfrwng iaith ‘fwy’. Gan ddilyn gwaith Declan Kiberd hefyd ar lenorion Iwerddon, gellir synied am y modd y mae T. Gwynn Jones yn agor bylchau rhwng mynegiant a ffurf yn ei farddoniaeth er mwyn creu gofod adnewyddol lle gall y traddodiad drylliedig hwnnw ymgnawdoli yn newydd-deb. Dyma greu felly ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ofod gwrth-, ac efallai ôl-drefedigaethol, yn Gymraeg.

Y mae’r Celtigrwydd a goleddid gan T. Gwynn Jones hefyd yn milwrio’n erbyn obsesiwn damcaniaethau ôl-drefedigaethol a’r berthynas gyfyng a chyfyngol rhwng trefedigaethwr a threfedigaethedig yn unig, gan anwybyddu pob perthynas arall. Nid ffenomen gyfyngedig o’r fath yw Celtigrwydd yn nwylo T. Gwynn Jones, wrth iddi gael ei hymryddhau o’r cyferbyniadau deuoliaethol hyn, ac o’r sefyllfa lle na all fodoli fel cysyniad ond mewn cyd-destun trefedigaethol ac wedi’i ddiffinio yn erbyn rhywbeth arall. Yn sicr, mae llawer rhagor o waith i’w gyflawni wrth ystyried y berthynas rhwng gwledydd mewn (gwahanol) gyflyrau o drefedigaethedd â’i gilydd megis Cymru ac Iwerddon.

Yn fwy na dim, nodweddir gwaith T. Gwynn Jones gan yr awydd i greu ‘newydd gân’ o ddrylliau a darnau ‘hanesion dewredd hen oesau’. Yn ei gerddi Celtaidd ‘mawrion’, chwedl Bobi Jones, ceisir pontio’r gagendor rhwng yr hen wareiddiad a Chymru’r ugeinfed ganrif. Peth byw, modern oedd Celtigrwydd iddo, a hunaniaeth y gellid ei defnyddio i greu ymdeimlad o barhad o ddrylliedigaeth.

Llŷr Lewis

Llyfryddiaeth

Davies, A. T. (gol.) (1948), Gwŷr Llên: Ysgrifau beirniadol ar weithiau deuddeg gŵr llên cyfoes ynghyd â’u darluniau (Llundain: W. Griffiths a’i frodyr).

Gwynn ap Gwilym (gol.) (1982), Cyfres y Meistri: Thomas Gwynn Jones (Llandybïe: Gwasg Christopher Davies).

Jenkins, D. (1973), Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych: Gwasg Gee).

Jones, T. G. (1921), ‘Chwedlau’r Hen Fyd yn Gymraeg’, Y Geninen, XXXIX (1921), 181-5.

Jones, T. G. (1926), ‘Iaith a Diwylliant’, Baner ac Amserau Cymru, 11 Chwefror, 5.

Jones, T. G. (1932), Manion (Wrecsam: Hughes a'i Fab).

Jones, T. G. (1934), Caniadau (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Jones, T. G. (1935), Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Jones, T. G. (1936), Astudiaethau (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Jones, T. G. (1937), Dyddgwaith (Wrecsam: Hughes a'i Fab).