Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llên gwerin"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Wrth ymwneud â’n gilydd yn feunyddiol, mynegwn yr hyn a wyddwn, a feddyliwn ac a deimlwn. Mae ein dull mynegiant a’r symbolau a ddefnyddiwn yn hawdd...')
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Wrth ymwneud â’n gilydd yn feunyddiol, mynegwn yr hyn a wyddwn, a feddyliwn ac a deimlwn. Mae ein dull mynegiant a’r symbolau a ddefnyddiwn yn hawdd i’w dirnad: canu a chreu miwsig, ffurfiau llafar adnabyddus megis dihareb, dawnsio, a llunio gwrthrychau. Mae llawer o’r hyn a fynegwn a’r ffordd o’i fynegi yn deillio o ymddygiad ein cyndeidiau a’n cyfoedion. Dysgwn y mwyafrif o’r storïau a adroddwn a’r gemau a chwaraewn nid mewn dosbarth ysgol na thrwy ddarllen ond, yn anffurfiol ac uniongyrchol, oddi wrth ein gilydd. Gyda ailadrodd, daw yn rhywbeth cyffredin os nad greddfol. Pan ddigwydd hyn, syniwn amdanynt fel traddodiadau neu ffurfiau traddodiadol; medrwn wedyn eu hadnabod yn unigol neu ar y cyd fel llên gwerin.
+
Wrth ymwneud â’n gilydd yn feunyddiol, mynegwn yr hyn a wyddwn, a feddyliwn ac a deimlwn. Mae ein dull mynegiant a’r symbolau a ddefnyddiwn yn hawdd i’w dirnad: canu a chreu miwsig, ffurfiau llafar adnabyddus megis dihareb, dawnsio, a llunio gwrthrychau. Mae llawer o’r hyn a fynegwn a’r ffordd o’i fynegi yn deillio o ymddygiad ein cyndeidiau a’n cyfoedion. Dysgwn y mwyafrif o’r storïau a adroddwn a’r gemau a chwaraewn nid mewn dosbarth ysgol na thrwy ddarllen ond, yn anffurfiol ac uniongyrchol, oddi wrth ein gilydd. Gyda ailadrodd, daw yn rhywbeth cyffredin os nad greddfol. Pan ddigwydd hyn, syniwn amdanynt fel traddodiadau neu ffurfiau traddodiadol; medrwn wedyn eu hadnabod yn unigol neu ar y cyd fel [[Llên Gwerin|llên gwerin]].
  
Mae’r term llên gwerin yn dynodi ffurfiau ac ymddygiad mynegiannol: rydym yn eu dysgu, eu defnyddio a’u harddangos wrth ymwneud â’n gilydd wyneb yn wyneb. Rydym yn eu hystyried yn draddodiadol oherwydd bod iddynt gynseiliau neu fodelau sydd eisoes yn hysbys, ac oherwydd eu bod yn dyst o barhad di-dor a chyson trwy amser a gofod mewn gwybodaeth, syniadaeth, credo a theimladau’r bod dynol. Mae llên gwerin yn rhan hanfodol ac annatod o’n bywyd beunyddiol. Pan ddywedwn am rywun ei fod yn ‘cysgu fel mochyn’, yn ‘darllen fel person’ neu ei fod yn ‘parablu fel pwll y môr’, dyma lên gwerin ar waith, yn defnyddio cymariaethau cyfarwydd a ddefnyddir yn gyffredinol ac yn gyson.
 
Llinell 13: Llinell 13:
 
Roedd bri yng Nghymru ers diwedd y 18fed ganrif ar gasglu a dosbarthu hynafiaethau a daeth penllanw ar y casglu hwn ddiwedd y 19g. Cysylltir enwau Ceiriog, Syr John Rhŷs, Cadrawd, Glasynys, D. E. Jenkins, D. Silvan Evans a Myrddin Fardd gyda’r casglu hwn. Credai W. J. Thoms y byddai ail enwi’r hyn a ystyrid fel ''popular antiquities'' yn dyrchafu’r pwnc i statws gwyddoniaeth newydd (dyma oes yr arbenigo gwyddonol) ac yn ei garthu o syniadaeth boblogaidd ac amaturaidd. Mewn [[llythyr]] at yr ''Athenaeum'' diffiniodd ei wyddoniaeth arfaethedig trwy restru genres fyddai’n debygol o gael eu cysylltu â’r term: ‘the manners, customs, observances, superstitions, ballads, proverbs, etc of olden time.’ Yn rhagymadrodd cyfrol gyntaf y misolyn ''Y Brython'' (1858) cyhoeddodd y [[golygydd]] D. Silvan Evans ei fod yn neilltuo lle yn ei golofnau i’r hyn a elwir yn llên y werin (yn amlwg wedi ei ysbrydoli gan Thoms): ‘Y mae’r Brython yn hoffi hynafiaethau a hynodion o bob math. Y mae hefyd yn cofnodi llen y werin, chwedlau gwlad, traddodiadau'r hen bobl, ac ofergoelion yr oesoedd gynt.’
 
O gofio agwedd nifer o Biwritaniaid Anghydffurfiol yr oes, denodd hyn gryn sen a chofir y drafferth a gafodd Ceiriog yn ei ymdrech i gofnodi hwiangerddi Cymru a’r modd iddo gilio yn y diwedd oherwydd sen y Piwritaniaid hyn. Ond ychwanegodd y golygydd, er mwyn ceisio lleddfu unrhyw wrthwynebiad: ‘Nid yw gwneuthur hynny er mwyn cymell yr oes hon i’w credu a’u cofleidio, fel y mae ambell un lled fyr ei gyrhaedd wedi dychmygu; ond er mwyn cadw dyledus gof am y pethau a fuant, a’r pethau a ffurfiasant unwaith ran o gredo llawer un o’n hynafiaid.’ Mabwysiadodd ‘Cared Doeth yr Encilion’ fel teitl i’r golofn newydd.
+
O gofio agwedd nifer o Biwritaniaid Anghydffurfiol yr oes, denodd hyn gryn sen a chofir y drafferth a gafodd Ceiriog yn ei ymdrech i gofnodi hwiangerddi Cymru a’r modd iddo gilio yn y diwedd oherwydd sen y Piwritaniaid hyn. Ond ychwanegodd y [[golygydd]], er mwyn ceisio lleddfu unrhyw wrthwynebiad: ‘Nid yw gwneuthur hynny er mwyn cymell yr oes hon i’w credu a’u cofleidio, fel y mae ambell un lled fyr ei gyrhaedd wedi dychmygu; ond er mwyn cadw dyledus gof am y pethau a fuant, a’r pethau a ffurfiasant unwaith ran o gredo llawer un o’n hynafiaid.’ Mabwysiadodd ‘Cared Doeth yr Encilion’ fel teitl i’r golofn newydd.
  
Cynhelir ystyr poblogaid llên gwerin mewn cylchgronau megis ''Llafar Gwlad'' a ''Fferm a Thyddyn'' a bellach cyfeirir at ‘wyddoniaeth newydd’ Thoms fel Ethnoleg neu Ethnograffi.
 
Cynhelir ystyr poblogaid llên gwerin mewn cylchgronau megis ''Llafar Gwlad'' a ''Fferm a Thyddyn'' a bellach cyfeirir at ‘wyddoniaeth newydd’ Thoms fel Ethnoleg neu Ethnograffi.
  
Yn flynyddol cynhelir Gŵyl Werin gan y Smithsonian ar y Mall yn Washington (''Smithsonian Folklife Festival'') a dewisir [[tair]] gwlad bob blwyddyn i arddangos cyfoeth eu diwylliant gwerin mewn stondinau a pherfformiadau ar y stryd. Yn 2009 gwahoddwyd Cymru fel un o’r tair gwlad. Daeth y Smithsonian i gysylltiad â Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth ariannol. Pendronodd y Cynulliad ynghylch y gwahoddiad hwn gan ystyried arwyddocâd y termau ‘llên gwerin’ a ‘bywyd gwerin’ a oedd yn ganolog i’r digwyddiad. Yn ôl un sylwebydd o’r Cynulliad nid oedd y termau hyn yn gweddu â chenhadaeth ryngwladol y Cynulliad ar ddechrau’r 21g. o ystyried fod Cymru’n wlad fodern, flaengar ac esgynnol. Felly aed i drafod ‘twf economaidd cynaliadwy’ a ‘datblygiad cynaliadwy’ fel termau fyddai’n gweddu’n well i Gymru ar lwyfan  
+
Yn flynyddol cynhelir Gŵyl Werin gan y Smithsonian ar y Mall yn Washington (''Smithsonian Folklife Festival'') a dewisir <nowiki>tair</nowiki> gwlad bob blwyddyn i arddangos cyfoeth eu diwylliant gwerin mewn stondinau a pherfformiadau ar y stryd. Yn 2009 gwahoddwyd Cymru fel un o’r <nowiki>tair</nowiki> gwlad. Daeth y Smithsonian i gysylltiad â Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth ariannol. Pendronodd y Cynulliad ynghylch y gwahoddiad hwn gan ystyried arwyddocâd y termau ‘llên gwerin’ a ‘bywyd gwerin’ a oedd yn ganolog i’r digwyddiad. Yn ôl un sylwebydd o’r Cynulliad nid oedd y termau hyn yn gweddu â chenhadaeth ryngwladol y Cynulliad ar ddechrau’r 21g. o ystyried fod Cymru’n wlad fodern, flaengar ac esgynnol. Felly aed i drafod ‘twf economaidd cynaliadwy’ a ‘datblygiad cynaliadwy’ fel termau fyddai’n gweddu’n well i Gymru ar lwyfan  
 
rhyngwladol. Ac felly y bu, cyfaddawdodd y Smithsonian a chyhyd â bod Cymru yn rhoi gwefus-wasanaeth i rai arferion gwerin a chrefftau traddodiadol cawsai lwyfan i fusnesau bychan lle medrai Prif Weinidog Cymru gael tynnu ei lun yn brolio'r Gymru gyfoes a rhagweld Cymru’r dyfodol a gwlad lle’r oedd ystrydebau o’r gorffennol wedi eu gwthio i’r ymylon. Llên gwerin oedd un o’r ystrydebau hynny.
 
Amcan y Brodyr Grimm trwy gasglu chwedlau gwerin Almaeneg oedd dangos fod gan yr Almaen draddodiadau hynafol disglair yn yr iaith Almaeneg a thrwy hynny ysgogi’r mudiadau cenedlaetholgar oedd am uno’r wlad. Dyma un o amcanion Douglas Hyde, Arlywydd cyntaf Iwerddon Rydd, wrth gasglu llên gwerin y wlad honno a’i chynnig fel [[symbol]] o dreftadaeth annibynnol y genedl. Dyma oedd amcan y ''Gaelic Athletic Association'' o’i sefydlu yn 1880 wrth gasglu a hyrwyddo hen chwaraeon gwerin yr ynys a mynd ymlaen i’w safoni a’u hyrwyddo. Un o weithredoedd cyntaf llywodraeth Iwerddon oedd sefydlu Comisiwn [[Llên Gwerin]] i gofnodi traddodiadau cynhenid y Gwyddyl. Bu symudiadau tebyg mewn gwledydd eraill i gryfhau a chrisialu cenedligrwydd. Pwy all ddadlau nad dyma un o brif gymhellion Iorwerth Peate wrth sefydlu Amgueddfa Werin Cymru, fel gyda’r holl fudiadau Ewropeaidd a sefydlai Amgueddfeydd Gwerin, sef creu sefydliad cenedlaethol yn cynnwys ethos ac ysbryd y genedl er mwyn dysgu, difyrru ac ysbrydoli?
+
Amcan y Brodyr Grimm trwy gasglu chwedlau gwerin Almaeneg oedd dangos fod gan yr Almaen draddodiadau hynafol disglair yn yr iaith Almaeneg a thrwy hynny ysgogi’r mudiadau cenedlaetholgar oedd am uno’r wlad. Dyma un o amcanion Douglas Hyde, Arlywydd cyntaf Iwerddon Rydd, wrth gasglu llên gwerin y wlad honno a’i chynnig fel [[symbol]] o dreftadaeth annibynnol y genedl. Dyma oedd amcan y ''Gaelic Athletic Association'' o’i sefydlu yn 1880 wrth gasglu a hyrwyddo hen chwaraeon gwerin yr ynys a mynd ymlaen i’w safoni a’u hyrwyddo. Un o weithredoedd cyntaf llywodraeth Iwerddon oedd sefydlu Comisiwn <nowiki>Llên Gwerin</nowiki> i gofnodi traddodiadau cynhenid y Gwyddyl. Bu symudiadau tebyg mewn gwledydd eraill i gryfhau a chrisialu cenedligrwydd. Pwy all ddadlau nad dyma un o brif gymhellion Iorwerth Peate wrth sefydlu Amgueddfa Werin Cymru, fel gyda’r holl fudiadau Ewropeaidd a sefydlai Amgueddfeydd Gwerin, sef creu sefydliad cenedlaethol yn cynnwys ethos ac ysbryd y genedl er mwyn dysgu, difyrru ac ysbrydoli?
  
Yn y Gymru gyfoes gwelir cydnabod, adfywio a dyrchafu rhai o’r hen arferion a ystyrid yn Gymreig ar lawr gwlad fel symbolau o’n hunaniaeth ac yn eiconau diwylliant lleiafrifol. Sylwn ar y nifer cynyddol o ardaloedd (ymhell tu hwnt i ffiniau Morgannwg) sy’n magu traddodiad y Fari Lwyd er enghraifft fel symbol o ddathliadau cymunedol y Nadolig.  Sylwer ar y cynnydd sydd wedi bod ar draddodiad y plygain a’i dymor hirfaith sy’n ymestyn bellach o ddiwedd Tachwedd hyd ddechrau Chwefror er mwyn rhoi cyfle i’r holl ardaloedd hynny sydd am ei ddathlu. Mudiadau llawr gwlad ydy’r rhain sydd yn cydnabod fod Cymreigrwydd yn beth hawdd i’w fynegi trwy [[addasu]] arferion traddodiadol a rhoi iddynt swyddogaeth gyfredol. Mabwysiadodd Amgueddfa Werin Cymru y Fari Lwyd fel ei delwedd gorfforaethol gan gydnabod fod yr arfer hwn yn perthyn i Gymru gyfan bellach ac nid i un ardal benodol. Ar y llaw arall ceir Llywodraeth Cymru nad yw am fabwysiadu delweddau gwerinol Cymreig gan eu bod yn dueddol o gael eu gweld ar lwyfannau rhyngwladol fel ffenomenâu hen ffasiwn. Ond nid yw hyn mor amlwg mewn nifer o gymunedau Cymreig a Chymraeg sy'n ymateb yn bositif o weld y ffenomenâu hyn yn eu cymunedau.
+
Yn y Gymru gyfoes gwelir cydnabod, adfywio a dyrchafu rhai o’r hen arferion a ystyrid yn Gymreig ar lawr gwlad fel symbolau o’n hunaniaeth ac yn eiconau diwylliant lleiafrifol. Sylwn ar y nifer cynyddol o ardaloedd (ymhell tu hwnt i ffiniau Morgannwg) sy’n magu traddodiad y Fari Lwyd er enghraifft fel [[symbol]] o ddathliadau cymunedol y Nadolig.  Sylwer ar y cynnydd sydd wedi bod ar draddodiad y plygain a’i dymor hirfaith sy’n ymestyn bellach o ddiwedd Tachwedd hyd ddechrau Chwefror er mwyn rhoi cyfle i’r holl ardaloedd hynny sydd am ei ddathlu. Mudiadau llawr gwlad ydy’r rhain sydd yn cydnabod fod Cymreigrwydd yn beth hawdd i’w fynegi trwy [[addasu]] arferion traddodiadol a rhoi iddynt swyddogaeth gyfredol. Mabwysiadodd Amgueddfa Werin Cymru y Fari Lwyd fel ei delwedd gorfforaethol gan gydnabod fod yr arfer hwn yn perthyn i Gymru gyfan bellach ac nid i un ardal benodol. Ar y llaw arall ceir Llywodraeth Cymru nad yw am fabwysiadu delweddau gwerinol Cymreig gan eu bod yn dueddol o gael eu gweld ar lwyfannau rhyngwladol fel ffenomenâu hen ffasiwn. Ond nid yw hyn mor amlwg mewn nifer o gymunedau Cymreig a Chymraeg sy'n ymateb yn bositif o weld y ffenomenâu hyn yn eu cymunedau.
  
'''Tecwyn Vaughan Jones'''
 
'''Tecwyn Vaughan Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 09:43, 4 Ebrill 2018

Wrth ymwneud â’n gilydd yn feunyddiol, mynegwn yr hyn a wyddwn, a feddyliwn ac a deimlwn. Mae ein dull mynegiant a’r symbolau a ddefnyddiwn yn hawdd i’w dirnad: canu a chreu miwsig, ffurfiau llafar adnabyddus megis dihareb, dawnsio, a llunio gwrthrychau. Mae llawer o’r hyn a fynegwn a’r ffordd o’i fynegi yn deillio o ymddygiad ein cyndeidiau a’n cyfoedion. Dysgwn y mwyafrif o’r storïau a adroddwn a’r gemau a chwaraewn nid mewn dosbarth ysgol na thrwy ddarllen ond, yn anffurfiol ac uniongyrchol, oddi wrth ein gilydd. Gyda ailadrodd, daw yn rhywbeth cyffredin os nad greddfol. Pan ddigwydd hyn, syniwn amdanynt fel traddodiadau neu ffurfiau traddodiadol; medrwn wedyn eu hadnabod yn unigol neu ar y cyd fel llên gwerin.

Mae’r term llên gwerin yn dynodi ffurfiau ac ymddygiad mynegiannol: rydym yn eu dysgu, eu defnyddio a’u harddangos wrth ymwneud â’n gilydd wyneb yn wyneb. Rydym yn eu hystyried yn draddodiadol oherwydd bod iddynt gynseiliau neu fodelau sydd eisoes yn hysbys, ac oherwydd eu bod yn dyst o barhad di-dor a chyson trwy amser a gofod mewn gwybodaeth, syniadaeth, credo a theimladau’r bod dynol. Mae llên gwerin yn rhan hanfodol ac annatod o’n bywyd beunyddiol. Pan ddywedwn am rywun ei fod yn ‘cysgu fel mochyn’, yn ‘darllen fel person’ neu ei fod yn ‘parablu fel pwll y môr’, dyma lên gwerin ar waith, yn defnyddio cymariaethau cyfarwydd a ddefnyddir yn gyffredinol ac yn gyson.

Mae hyn oll yn ymdebygu i’r hyn a elwir yn folklore yn Saesneg ond ceir gwahaniaeth rhwng y term academaidd a’r defnydd poblogaidd ohono. Mae consensws poblogaidd ynglŷn ag ystyr llên gwerin ond mae diffinio’r term yn fater cymhleth. Term cyfansawdd yw llên gwerin sy’n cyfeirio at grŵp o bobol sef gwerin, a’u cynnyrch sef llên. Mae’n rhaid felly ystyried termau sy’n ganolog i’r maes ond sydd â’u hystyron poblogaidd wedi hen sefydlu, megis ‘gwerin’, ‘llên’ a ‘diwylliant’. Bu dadlau ynglŷn ag ystyr y gair folklore ers iddo gael ei fathu gan William Thoms yn 1846. Mae’n ymddangos fod pob ysgolhaig gwerth ei halen sy’n ymwneud â’r pwnc wedi cynnig ei ddiffinio a hynny yn adlewyrchu cefndir ysgolheigaidd yr unigolion hyn gan fod llên gwerin o fewn prifysgol, fel arfer, yn cael ei dysgu fel pwnc atodol mewn adrannau Saesneg, Anthropoleg a Chymdeithaseg.

Cynigiodd Alan Dundes, un o ysgolheigion amlycaf maes llên gwerin: ‘folk can refer to any group of people whatsoever who share at least one common factor.’ Mae hyn yn anwybyddu'r ystyron diwylliannol sy’n perthyn i’r gair folk ac yn sicr i’r gair ‘gwerin’ ac felly’r term volk yn Ewrop. Beth ydy gwerin? Y bobl yn gyffredinol ynteu haen arbennig (sy’n cyferbynnu â bonedd?) o’r gymdeithas. Daeth yr ail ystyr i fri dan ddylanwad y mudiad rhamantaidd, y datblygiadau crefyddol a gwleidyddol ar ddiwedd y 19g. pan ddelfrydwyd y werin a’i gosod fel gwarchodwr a phrif gynhaliwr y diwylliant Cymraeg. Dyma ystyr gwerin i O. M. Edwards, Crwys, John Morris Jones ac W. J.Gruffydd, ond i Iorwerth Peate, ‘diwylliant cyfan y bobl oll (yw diwylliant gwerin), y gymdeithas neu’r genedl gyfan yn hytrach nag agwedd arbennig rhai Cymru neu Saeson. Ffordd yr holl Gymru o fyw.’

Mae i’r gair ‘gwerin’ ystyr sy’n unigryw i’r bydwedd Cymraeg a Chymreig ac ni ellir ei gyfieithu’n hawdd i iaith arall yn enwedig y Saesneg. Yn sicr nid folk yw’r werin Gymreig ac nid chwaith y volk Ewropeaidd. I’r Brodyr Grimm ac ysgolheigion yr Oleuedigaeth ystyrid y bobl gyffredin anllythrennog fel cynheiliad traddodiad a hwnnw wedi ei drosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth (heb ymyrraeth y gair ysgrifenedig) ac o astudio cynnyrch llafar y bobl hyn ceir rhyw syniad o ryw oes aur ddiwylliannol yn y gorffennol pell (a ddefnyddid yn aml i gyfiawnhau ymdeimlad o berthyn i genedl). Penderfynodd Amgueddfa Werin Cymru newid enw Saesneg y sefydliad o ‘Welsh Folk Museum’ i ‘Museum of Welsh Life’ yn y 1990au ond gan gadw'r term gwerin yn yr enw Cymraeg. Term cadarnhaol ac iddo urddas ac anrhydedd yn perthyn iddo yw gwerin. Mae’n wahanol i folk yn Saesneg sy’n bert a thlws ond hefyd yn cydnabod rhyw wendid, culni a diffyg uchelgais yn y sawl y cyfeirir atynt. Ond yng Nghymru dyrchafwyd gwerin ddiwydiannol ‘y garreg las’ gan O. M. Edwards ac W. J. Gruffydd a gwerin y diwydiant glo gan Gwenallt. Nid gair a gysylltir â chefn gwlad yn unig yw gwerin yng Nghymru megis folk yn Lloegr.

Mae mwyafrif y diffiniadau o folklore yn canolbwyntio ar yr elfen lenyddol ac yng ngeiriadur Funk & Wagnalls ceir 24 diffiniad o’r term. Pwysleisir y testun bellach yn hytrach na’r bobl. Cyfeiria’r diffiniadau at y modd mae llên gwerin yn cael ei throsglwyddo; dyma gynnyrch llafar, llenyddiaeth lafar neu fynegiadol, mynegiant llafar, crefft lafar neu ddiwylliant llafar. Yn aml rhestrir genres di-rif mewn rhestrau sydd bron yn ddiddiwedd ac mae Dundes eto yn rhoi cynnig ar greu rhestr gan gynnwys myth, pob math o chwedlau, cân werin, jôcs, posau, swynion, rhigymau, baled, diarhebion, posau, dawns werin, gwisg werin, drama werin, coelion, meddyginiaethau, iaith ac idiomau, clymau tafod, dulliau o enwi a llysenwi, barddoniaeth werin, awdlau arwrol, beddargraffiadau, limrigau, chwarae plant, cyfrif bysedd, hwiangerddi, arferion tymhorol, arferion calendr, ryseitiau, atebion teliffon, chwaraeon etc. Mae rhestru yn rhoi syniad o gynnwys y maes ond ni fydd rhestr gyflawn ac ni fyddai cytundeb.

Roedd bri yng Nghymru ers diwedd y 18fed ganrif ar gasglu a dosbarthu hynafiaethau a daeth penllanw ar y casglu hwn ddiwedd y 19g. Cysylltir enwau Ceiriog, Syr John Rhŷs, Cadrawd, Glasynys, D. E. Jenkins, D. Silvan Evans a Myrddin Fardd gyda’r casglu hwn. Credai W. J. Thoms y byddai ail enwi’r hyn a ystyrid fel popular antiquities yn dyrchafu’r pwnc i statws gwyddoniaeth newydd (dyma oes yr arbenigo gwyddonol) ac yn ei garthu o syniadaeth boblogaidd ac amaturaidd. Mewn llythyr at yr Athenaeum diffiniodd ei wyddoniaeth arfaethedig trwy restru genres fyddai’n debygol o gael eu cysylltu â’r term: ‘the manners, customs, observances, superstitions, ballads, proverbs, etc of olden time.’ Yn rhagymadrodd cyfrol gyntaf y misolyn Y Brython (1858) cyhoeddodd y golygydd D. Silvan Evans ei fod yn neilltuo lle yn ei golofnau i’r hyn a elwir yn llên y werin (yn amlwg wedi ei ysbrydoli gan Thoms): ‘Y mae’r Brython yn hoffi hynafiaethau a hynodion o bob math. Y mae hefyd yn cofnodi llen y werin, chwedlau gwlad, traddodiadau'r hen bobl, ac ofergoelion yr oesoedd gynt.’

O gofio agwedd nifer o Biwritaniaid Anghydffurfiol yr oes, denodd hyn gryn sen a chofir y drafferth a gafodd Ceiriog yn ei ymdrech i gofnodi hwiangerddi Cymru a’r modd iddo gilio yn y diwedd oherwydd sen y Piwritaniaid hyn. Ond ychwanegodd y golygydd, er mwyn ceisio lleddfu unrhyw wrthwynebiad: ‘Nid yw gwneuthur hynny er mwyn cymell yr oes hon i’w credu a’u cofleidio, fel y mae ambell un lled fyr ei gyrhaedd wedi dychmygu; ond er mwyn cadw dyledus gof am y pethau a fuant, a’r pethau a ffurfiasant unwaith ran o gredo llawer un o’n hynafiaid.’ Mabwysiadodd ‘Cared Doeth yr Encilion’ fel teitl i’r golofn newydd.

Cynhelir ystyr poblogaid llên gwerin mewn cylchgronau megis Llafar Gwlad a Fferm a Thyddyn a bellach cyfeirir at ‘wyddoniaeth newydd’ Thoms fel Ethnoleg neu Ethnograffi.

Yn flynyddol cynhelir Gŵyl Werin gan y Smithsonian ar y Mall yn Washington (Smithsonian Folklife Festival) a dewisir tair gwlad bob blwyddyn i arddangos cyfoeth eu diwylliant gwerin mewn stondinau a pherfformiadau ar y stryd. Yn 2009 gwahoddwyd Cymru fel un o’r tair gwlad. Daeth y Smithsonian i gysylltiad â Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth ariannol. Pendronodd y Cynulliad ynghylch y gwahoddiad hwn gan ystyried arwyddocâd y termau ‘llên gwerin’ a ‘bywyd gwerin’ a oedd yn ganolog i’r digwyddiad. Yn ôl un sylwebydd o’r Cynulliad nid oedd y termau hyn yn gweddu â chenhadaeth ryngwladol y Cynulliad ar ddechrau’r 21g. o ystyried fod Cymru’n wlad fodern, flaengar ac esgynnol. Felly aed i drafod ‘twf economaidd cynaliadwy’ a ‘datblygiad cynaliadwy’ fel termau fyddai’n gweddu’n well i Gymru ar lwyfan rhyngwladol. Ac felly y bu, cyfaddawdodd y Smithsonian a chyhyd â bod Cymru yn rhoi gwefus-wasanaeth i rai arferion gwerin a chrefftau traddodiadol cawsai lwyfan i fusnesau bychan lle medrai Prif Weinidog Cymru gael tynnu ei lun yn brolio'r Gymru gyfoes a rhagweld Cymru’r dyfodol a gwlad lle’r oedd ystrydebau o’r gorffennol wedi eu gwthio i’r ymylon. Llên gwerin oedd un o’r ystrydebau hynny.

Amcan y Brodyr Grimm trwy gasglu chwedlau gwerin Almaeneg oedd dangos fod gan yr Almaen draddodiadau hynafol disglair yn yr iaith Almaeneg a thrwy hynny ysgogi’r mudiadau cenedlaetholgar oedd am uno’r wlad. Dyma un o amcanion Douglas Hyde, Arlywydd cyntaf Iwerddon Rydd, wrth gasglu llên gwerin y wlad honno a’i chynnig fel symbol o dreftadaeth annibynnol y genedl. Dyma oedd amcan y Gaelic Athletic Association o’i sefydlu yn 1880 wrth gasglu a hyrwyddo hen chwaraeon gwerin yr ynys a mynd ymlaen i’w safoni a’u hyrwyddo. Un o weithredoedd cyntaf llywodraeth Iwerddon oedd sefydlu Comisiwn Llên Gwerin i gofnodi traddodiadau cynhenid y Gwyddyl. Bu symudiadau tebyg mewn gwledydd eraill i gryfhau a chrisialu cenedligrwydd. Pwy all ddadlau nad dyma un o brif gymhellion Iorwerth Peate wrth sefydlu Amgueddfa Werin Cymru, fel gyda’r holl fudiadau Ewropeaidd a sefydlai Amgueddfeydd Gwerin, sef creu sefydliad cenedlaethol yn cynnwys ethos ac ysbryd y genedl er mwyn dysgu, difyrru ac ysbrydoli?

Yn y Gymru gyfoes gwelir cydnabod, adfywio a dyrchafu rhai o’r hen arferion a ystyrid yn Gymreig ar lawr gwlad fel symbolau o’n hunaniaeth ac yn eiconau diwylliant lleiafrifol. Sylwn ar y nifer cynyddol o ardaloedd (ymhell tu hwnt i ffiniau Morgannwg) sy’n magu traddodiad y Fari Lwyd er enghraifft fel symbol o ddathliadau cymunedol y Nadolig. Sylwer ar y cynnydd sydd wedi bod ar draddodiad y plygain a’i dymor hirfaith sy’n ymestyn bellach o ddiwedd Tachwedd hyd ddechrau Chwefror er mwyn rhoi cyfle i’r holl ardaloedd hynny sydd am ei ddathlu. Mudiadau llawr gwlad ydy’r rhain sydd yn cydnabod fod Cymreigrwydd yn beth hawdd i’w fynegi trwy addasu arferion traddodiadol a rhoi iddynt swyddogaeth gyfredol. Mabwysiadodd Amgueddfa Werin Cymru y Fari Lwyd fel ei delwedd gorfforaethol gan gydnabod fod yr arfer hwn yn perthyn i Gymru gyfan bellach ac nid i un ardal benodol. Ar y llaw arall ceir Llywodraeth Cymru nad yw am fabwysiadu delweddau gwerinol Cymreig gan eu bod yn dueddol o gael eu gweld ar lwyfannau rhyngwladol fel ffenomenâu hen ffasiwn. Ond nid yw hyn mor amlwg mewn nifer o gymunedau Cymreig a Chymraeg sy'n ymateb yn bositif o weld y ffenomenâu hyn yn eu cymunedau.

Tecwyn Vaughan Jones

Llyfryddiaeth

Anttonen, P. J., (1993) ‘Folklore, Modernity and Postmodernism: A Theoretical Overview’, yn Anttonen, P. J., Kvideland, R. (goln), Nordic Frontiers: Recent Issues in the Study of Modern Traditional Culture in the Nordic Countries (Turku: Nordic Institute of Folklore), tt. 48-72.

Bauman, R., Paredes, A. (1972), Towards New Perspectives in Folklore (Austin a Llundain: University of Texas Press/American Folklore Society).

Georges, R. A., Jones, M. O. (1995), Folkloristics: An Introduction (Bloomington: Indiana University Press).

Gürel, P. (2006), ‘Folklore Matters: The Folklore Scholarship of Alan Dundes and the New American Studies’, Columbia Journal of American Studies, 7.1, 137-158.

James, A. (2002), Diwylliant Gwerin Morgannwg (Llandysul: Gwasg Gomer).

Jenkins, D. (2007), Ar Lafar, Ar Goedd (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf).

Jones, T. V. (1996/97), ‘Y Fari Lwyd a’r Adfywiad’, Barn, 407/408, 31-33.

Leach, M. a Fried, J. (goln) (1996), Funk and Wagnall's Standard Dictionary of Folkore, Mythology and Legend (HarperOne: San Francisco).

Morgan, P. (1986), ‘The Gwerin of Wales – Myth and Reality’ yn Hume, I., Pryce, W.T.R. (goln), The Welsh and Their Country: Selected Readings in the Social Sciences (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 134-152.

Morgan, T. J. (1972), Diwylliant Gwerin ac Ysgrifau Eraill (Llandysul: Gwasg Gomer).

Owen, T. M. (1991), The Customs and Traditions of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Peate, I. (1943), Diwylliant Gwerin Cymru (Lerpwl: Gwasg y Brython).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.