Lloyd (neu Floyde neu Flude), John (c.1475-1523)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cerddor a chyfansoddwr a ddeuai, mae’n debyg, o Gaerllion: gadawodd roddion yn ei ewyllys (dyddiedig 18 Ionawr 1518/19, profwyd 9 Mai 1523) i Eglwys y Drindod ac Eglwys Sant Cadog yno, a hefyd i eglwys blwyf Sant Nicholas ym Mryste ac i Abaty Sant Awstin (Eglwys Gadeiriol Bryste bellach).
Ymddengys mai yn Lloegr y treuliodd ei yrfa i gyd. Erbyn 1499 roedd ganddo ddawnbwyd (lwfans am oes o fwyd a dillad) ym mynachdy Clywinaidd Thetford, East Anglia, ac yn 1512 cafodd ddawnbwyd arall yn Abaty Sant Awstin, Bryste (cysylltiad a barhaodd, fe dybir, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd tan ei farw). Fe’i cyflogwyd gan Edward, Dug Buckingham, fel cyfarwyddwr ensemble o ddynion a bechgyn a ganai i’w ddiddanu’n breifat o 1504 hyd 1508, ac yn 1509 fe’i derbyniwyd yn Wrda’r Capel Brenhinol o dan Harri VIII, yr aeth gydag ef i Faes y Brethyn Aur yn 1520. Roedd yn dal yn gyflogedig yno pan fu farw ar 3 Ebrill 1523, ac fe’i claddwyd yng nghapel Ysbyty Savoy, Llundain.
Mae tri chyfansoddiad gan Lloyd ac iddynt gryn ddyfeisgarwch technegol yn goroesi yn un o lyfrau caneuon Harri VIII, dyddiedig c.1520: canon lleisiol tair-rhan yw un, ac mae’r ddau arall yn ffantasias tair-rhan heb destun, gyda chyfarwyddyd mewn cod yn caniatáu ychwanegu pedwerydd llais. Ar un adeg credid mai Lloyd oedd cyfansoddwr y gosodiad cain o’r Offeren O quam suavis est a’r atepgan gysylltiedig Ave regina celorum hefyd, ond amheuir hynny bellach.
Sally Harper
Llyfryddiaeth
- John Caldwell a Roger Bray, ‘John Lloyd [Floyd/Flude]’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
- Roger Bowers, ‘John Lloyd [Flude]’, Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein https://www.oxforddnb.com/
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.