Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lloyd (neu Floyde neu Flude), John (c.1475-1523)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
{{DISPLAYTITLE:Lloyd (neu Floyde neu Flude), John (''c''.1475-1523)}} __NOAUTOLINKS__  
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Llinell 7: Llinell 7:
  
 
Mae tri chyfansoddiad gan Lloyd ac iddynt gryn ddyfeisgarwch technegol yn goroesi yn un o lyfrau caneuon Harri VIII, dyddiedig ''c''.1520: canon lleisiol tair-rhan yw un, ac mae’r ddau arall yn ffantasias tair-rhan heb destun, gyda chyfarwyddyd mewn cod yn caniatáu ychwanegu pedwerydd llais. Ar un adeg credid mai Lloyd oedd cyfansoddwr y gosodiad cain o’r Offeren ''O quam suavis est'' a’r atepgan gysylltiedig ''Ave regina celorum'' hefyd, ond amheuir hynny bellach.
 
Mae tri chyfansoddiad gan Lloyd ac iddynt gryn ddyfeisgarwch technegol yn goroesi yn un o lyfrau caneuon Harri VIII, dyddiedig ''c''.1520: canon lleisiol tair-rhan yw un, ac mae’r ddau arall yn ffantasias tair-rhan heb destun, gyda chyfarwyddyd mewn cod yn caniatáu ychwanegu pedwerydd llais. Ar un adeg credid mai Lloyd oedd cyfansoddwr y gosodiad cain o’r Offeren ''O quam suavis est'' a’r atepgan gysylltiedig ''Ave regina celorum'' hefyd, ond amheuir hynny bellach.
 +
 +
'''Sally Harper'''
 +
 +
==Llyfryddiaeth==
 +
 +
*John Caldwell a Roger Bray, ‘John Lloyd [Floyd/Flude]’, ''New Grove Dictionary of Music and Musicians'', gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
 +
 +
*Roger Bowers, ‘John Lloyd [Flude]’, ''Oxford Dictionary of National Biography'', gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein https://www.oxforddnb.com/
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 17:01, 30 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a chyfansoddwr a ddeuai, mae’n debyg, o Gaerllion: gadawodd roddion yn ei ewyllys (dyddiedig 18 Ionawr 1518/19, profwyd 9 Mai 1523) i Eglwys y Drindod ac Eglwys Sant Cadog yno, a hefyd i eglwys blwyf Sant Nicholas ym Mryste ac i Abaty Sant Awstin (Eglwys Gadeiriol Bryste bellach).

Ymddengys mai yn Lloegr y treuliodd ei yrfa i gyd. Erbyn 1499 roedd ganddo ddawnbwyd (lwfans am oes o fwyd a dillad) ym mynachdy Clywinaidd Thetford, East Anglia, ac yn 1512 cafodd ddawnbwyd arall yn Abaty Sant Awstin, Bryste (cysylltiad a barhaodd, fe dybir, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd tan ei farw). Fe’i cyflogwyd gan Edward, Dug Buckingham, fel cyfarwyddwr ensemble o ddynion a bechgyn a ganai i’w ddiddanu’n breifat o 1504 hyd 1508, ac yn 1509 fe’i derbyniwyd yn Wrda’r Capel Brenhinol o dan Harri VIII, yr aeth gydag ef i Faes y Brethyn Aur yn 1520. Roedd yn dal yn gyflogedig yno pan fu farw ar 3 Ebrill 1523, ac fe’i claddwyd yng nghapel Ysbyty Savoy, Llundain.

Mae tri chyfansoddiad gan Lloyd ac iddynt gryn ddyfeisgarwch technegol yn goroesi yn un o lyfrau caneuon Harri VIII, dyddiedig c.1520: canon lleisiol tair-rhan yw un, ac mae’r ddau arall yn ffantasias tair-rhan heb destun, gyda chyfarwyddyd mewn cod yn caniatáu ychwanegu pedwerydd llais. Ar un adeg credid mai Lloyd oedd cyfansoddwr y gosodiad cain o’r Offeren O quam suavis est a’r atepgan gysylltiedig Ave regina celorum hefyd, ond amheuir hynny bellach.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • John Caldwell a Roger Bray, ‘John Lloyd [Floyd/Flude]’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
  • Roger Bowers, ‘John Lloyd [Flude]’, Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein https://www.oxforddnb.com/



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.