Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Macaronig"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 10: Llinell 10:
 
Ceir sawl enghraifft o ysgrifennu macaronig yn y Gymraeg. Defnyddiodd Saunders Lewis ychydig o eiriau Lladin yn ei gerddi megis 'I'r Lleidr Da', 'Mabon' a 'Gair at y Cymry'. Y mae plethiad dwy iaith yn amlycach, serch hynny, yn nifer o gerddi Twm Morys sydd yn gwneud defnydd helaeth o'r Saesneg, e.e. gweler 'Gwyrth Bryn Siencyn' a 'Beuno'. Er hyn, nid traddodiad modern yn unig yw hyn yng Nghymru gan fod cerddi macaronig yn deillio o gyfnod y 15g. megis ‘Cywydd o Hawl ac Ateb Rhwng Cymro a Saesnes’ gan Tudur Penllyn. Yn y 18g. hefyd gwelwyd canu macaronig gan Lewis Morris, ac yn yr enghraifft isod y mae eilededd yr ieithoedd yn ychwanegu at hiwmor y darn fel yn achos cerddi Eidaleg yr 16g.:
 
:Come Hugo what’s ye matter,
+
::Come Hugo what’s ye matter,
:you seem to be out of order,
+
::you seem to be out of order,
:we’ll drink 3 rounds before we sup
+
::we’ll drink 3 rounds before we sup
:come fill up a Bumper.
+
::come fill up a Bumper.
  
:nid yfaf ddim yrwan
+
::nid yfaf ddim yrwan
:trwm galon wyf a thrwstan
+
::trwm galon wyf a thrwstan
:y mam ynghyfraith aeth o’r Byd
+
::y mam ynghyfraith aeth o’r Byd
:y wraig o Ryd yr Arian.
+
::y wraig o Ryd yr Arian.
  
'''Rhianedd Jewell'''
 
'''Rhianedd Jewell'''

Diwygiad 21:33, 19 Medi 2016

Macaronig

Term sy'n disgrifio barddoniaeth a ysgrifennir mewn dwy iaith yw macaronig. Yn ôl diffiniad traddodiadol a chyfyng y gair, barddoniaeth lle cyflwynir elfennau o Ladin safonol i iaith lafar megis Eidaleg ydyw. Fel arfer ychwanegir terfyniadau berfau un iaith (megis Lladin) at fôn berfau iaith arall (megis Eidaleg) gan greu effaith Lladin clapiog. Ymddangosodd yr enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth facaronig yn yr Eidal tua diwedd y 15g. a'i nod oedd creu effaith gomig.

Ceir ansicrwydd ynghylch union wraidd y gair gan fod rhai megis y geiriadurwr termau llenyddol J. A. Cuddon yn honni iddo ddyfod o'r Eidaleg maccaroni, ffurf gynnar o maccheroni, sef math o basta tiwbaidd, tra bod eraill megis yr ysgolhaig Siegfried Wenzel yn creu cysylltiad â macerones sef toes sy'n cynnwys cymysgedd o flawd, caws a menyn. Yn y ddau achos, cymysgir pethau fel y gwneir gyda'r ieithoedd yn y farddoniaeth.

Cyfeiria'r term yn fwy eang erbyn hyn at farddoniaeth sydd yn cymysgu dwy iaith, fel arfer iaith y bardd ac iaith arall a addasir i ffitio rhythm a chystrawen yr iaith honno. Nid oes rhaid i'r farddoniaeth hon fod yn ddoniol. Gellir cymysgu ieithoedd at ddibenion eraill megis diddanu, arddangos sgil barddonol, a phwysleisio thema, syniad neu farn wleidyddol.

Ceir sawl enghraifft o ysgrifennu macaronig yn y Gymraeg. Defnyddiodd Saunders Lewis ychydig o eiriau Lladin yn ei gerddi megis 'I'r Lleidr Da', 'Mabon' a 'Gair at y Cymry'. Y mae plethiad dwy iaith yn amlycach, serch hynny, yn nifer o gerddi Twm Morys sydd yn gwneud defnydd helaeth o'r Saesneg, e.e. gweler 'Gwyrth Bryn Siencyn' a 'Beuno'. Er hyn, nid traddodiad modern yn unig yw hyn yng Nghymru gan fod cerddi macaronig yn deillio o gyfnod y 15g. megis ‘Cywydd o Hawl ac Ateb Rhwng Cymro a Saesnes’ gan Tudur Penllyn. Yn y 18g. hefyd gwelwyd canu macaronig gan Lewis Morris, ac yn yr enghraifft isod y mae eilededd yr ieithoedd yn ychwanegu at hiwmor y darn fel yn achos cerddi Eidaleg yr 16g.:

Come Hugo what’s ye matter,
you seem to be out of order,
we’ll drink 3 rounds before we sup
come fill up a Bumper.
nid yfaf ddim yrwan
trwm galon wyf a thrwstan
y mam ynghyfraith aeth o’r Byd
y wraig o Ryd yr Arian.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Archibald, E. (2010) 'Macaronic Poetry', yn Corinne Saunders (gol.) A Companion to Medieval Poetry (Oxford: Wiley-Blackwell).

Cuddon, A. (1977) A Dictionary of Literary Terms (London: Deutsch).

Owen, H. (1951) The Life and Works of Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn) 1701-1765 (S.I.: Anglesey Antiquarian Society and Field Club).

Roberts, T. (gol.) (1958) Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Wenzel, S. (1994) Macaronic Sermons: Bilingualism and Preaching in Late Medieval England (Ann Arbor: University of Michigan Press).