Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Manic Street Preachers"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Un o [[fandiau roc]] Cymreig pwysicaf a mwyaf llwyddiannus y chwarter canrif diwethaf. Ffurfiwyd y Manic Street Preachers (neu’r ''Manics'' i nifer) yn 1986 yng Nghoed-duon, Caerffili, gyda James Dean Bradfield (llais, gitâr), Nicky Wire (Nicholas Allen Jones; bas) a Sean Moore (drymiau) fel y prif aelodau; cyn bo hir ymunodd Richey Edwards (gitâr rhythm) i gwblhau’r grŵp. Roedd y pedwar aelod yn ffrindiau ysgol, a bu’r arddegau yn gyfnod o ddarllen eang yn eu hanes; roedd Sefyllfäwriaeth ''(Situationism)'' a llenyddiaeth yr 20g. yn ddylanwadau pwysig arnynt. O safbwynt cerddorol, daeth y pedwar dan ddylanwad pync-roc yn ogystal â bandiau cyfoes megis Guns ‘n’ Roses.
 
Rhyddhaodd y band eu sengl gyntaf, ‘Suicide Alley’, yn 1988 ar label ''ad hoc'', gan ennill clod yn y ''New Musical Express'', ac erbyn 1991 roeddynt wedi arwyddo cytundeb gyda’r label annibynnol Heavenly Records, ar ôl ymgyrch gyhoeddusrwydd galed yn y wasg gerddorol Brydeinig wrth iddynt wneud datganiadau dadleuol am wleidyddiaeth a natur ddiflas y sîn gerddorol fel yr oeddynt yn ei gweld ar y pryd. Yn 1991 arwyddodd y band gytundeb gyda Sony/Columbia, ac yn 1992 cafodd eu halbwm cyntaf, ''Generation Terrorists'', ei ryddhau; fe’i dilynwyd gan ''Gold Against The Soul'' (Sony, 1993). Er gwaethaf eu llwyddiant masnachol - cyrhaeddodd [[tair]] sengl oddi ar Generation Terrorists yr 20 Uchaf Prydeinig - adolygiadau cymysg a gafodd y ddau albwm.
+
Rhyddhaodd y band eu sengl gyntaf, ‘Suicide Alley’, yn 1988 ar label ''ad hoc'', gan ennill clod yn y ''New Musical Express'', ac erbyn 1991 roeddynt wedi arwyddo cytundeb gyda’r label annibynnol Heavenly Records, ar ôl ymgyrch gyhoeddusrwydd galed yn y wasg gerddorol Brydeinig wrth iddynt wneud datganiadau dadleuol am wleidyddiaeth a natur ddiflas y sîn gerddorol fel yr oeddynt yn ei gweld ar y pryd. Yn 1991 arwyddodd y band gytundeb gyda Sony/Columbia, ac yn 1992 cafodd eu halbwm cyntaf, ''Generation Terrorists'', ei ryddhau; fe’i dilynwyd gan ''Gold Against The Soul'' (Sony, 1993). Er gwaethaf eu llwyddiant masnachol - cyrhaeddodd tair sengl oddi ar Generation Terrorists yr 20 Uchaf Prydeinig - adolygiadau cymysg a gafodd y ddau albwm.
  
Ystyrir trydydd albwm y band, ''The Holy Bible'' (Sony, 1994), yn drobwynt yn eu hanes, wrth iddynt gefnu ar eu nodweddion cerddorol gwreiddiol a chofleidio sŵn llawer mwy amrwd, gyda chaneuon yn archwilio pynciau megis anorecsia, natur crefydd, cyfalafiaeth, byw a marw, a’r Holocost; er na fu’r albwm yn llwyddiant masnachol derbyniodd glod yn y wasg. Roedd ymddygiad prif awdur geiriau’r band, Richey Edwards, wedi achosi pryder yn y gorffennol, yn enwedig yn 1991 pan aeth ati i hunan-anafu o flaen y [[newyddiadurwr]] Steve Lamacq, gan dorri’r slogan ‘4 REAL’ i mewn i’w fraich gyda llafn, ac ar daith yn Thailand yn ystod 1994 fe hunan-anafodd eto gyda chyllell. Roedd natur dywyll ei feddyliau yn amlwg yng ngeiriau caneuon megis ‘The Intense Humming Of Evil’, ‘Die In The Summertime’ ac ‘Archives Of Pain’, cân herfeiddiol am greulondeb sylfaenol dynoliaeth ac amhosibilrwydd athronyddol achubiaeth ar ôl tröedigaeth foesol.
 
Llinell 11: Llinell 12:
 
Ers 2000 mae’r band wedi parhau i recordio a theithio yn gyson. Roedd ''Know Your Enemy'' (Sony, 2001) yn llwyddiant masnachol, ond ar ôl methiant masnachol a beirniadol ''Lifeblood'' (Sony, 2004) - albwm ac iddo sŵn canol y ffordd - ni ryddhawyd unrhyw ddeunydd newydd hyd nes i ''Send Away The Tigers'' (Sony, 2007) ymddangos. Croesawyd yr albwm hwnnw fel adlewyrchiad o ddychweliad llwyddiannus (os nad mentrus) y band at eu gwreiddiau pync, a chyrhaeddodd un sengl oddi arno, ‘Your Love Alone Is Not Enough’, rif 2 yn y siart 10 Uchaf. Bu ''Journal For Plague Lovers'' (Sony, 2009) a ''Postcards From A Young Man'' (Sony, 2010) ymhlith y tri albwm uchaf yn y siartiau ac aeth eu halbwm ''Rewind The Film'' (Sony, 2013), i rif 4 ar ôl derbyn adolygiadau ffafriol. Dilynwyd yr album gyda ''Futurology'' flwyddyn yn ddiweddarach.
 
Cydnabyddir y Manic Street Preachers fel un o’r bandiau roc Prydeinig cyfoes mwyaf creadigol, ac mae’r pyncs a oedd unwaith wrth eu bodd os oedd eu hymddygiad herfeiddiol yn creu penawdau yn y papurau newydd bellach wedi aeddfedu’n gerddorion meddylgar a chanddynt ddawn i greu alawon anthemig. Mae eu hagwedd at eu Cymreictod, hefyd, wedi newid ers diwedd yr 1990au, gyda pharodrwydd i gofleidio a dathlu’r diwylliant Cymraeg wedi disodli agwedd lawer fwy negyddol gyda Richey Edwards yn datgan unwaith mewn [[cyfweliad]] yn y cylchgrawn ''Sothach'' yn 1992 fod yr iaith Gymraeg ‘ond yn bwysig i ddeinosoriaid a phobl sy’n licio bwyta glo’ (1992, 12). Fel un o nifer fach o fandiau roc Prydeinig yr 1980au sy’n parhau i greu gwaith creadigol gwerth chweil, mae eu camp i’w chydnabod.
+
Cydnabyddir y Manic Street Preachers fel un o’r bandiau roc Prydeinig cyfoes mwyaf creadigol, ac mae’r pyncs a oedd unwaith wrth eu bodd os oedd eu hymddygiad herfeiddiol yn creu penawdau yn y papurau newydd bellach wedi aeddfedu’n gerddorion meddylgar a chanddynt ddawn i greu alawon anthemig. Mae eu hagwedd at eu Cymreictod, hefyd, wedi newid ers diwedd yr 1990au, gyda pharodrwydd i gofleidio a dathlu’r diwylliant Cymraeg wedi disodli agwedd lawer fwy negyddol gyda Richey Edwards yn datgan unwaith mewn cyfweliad yn y cylchgrawn ''Sothach'' yn 1992 fod yr iaith Gymraeg ‘ond yn bwysig i ddeinosoriaid a phobl sy’n licio bwyta glo’ (1992, 12). Fel un o nifer fach o fandiau roc Prydeinig yr 1980au sy’n parhau i greu gwaith creadigol gwerth chweil, mae eu camp i’w chydnabod.
  
'''Craig Owen Jones'''
 
'''Craig Owen Jones'''

Diwygiad 15:47, 29 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o fandiau roc Cymreig pwysicaf a mwyaf llwyddiannus y chwarter canrif diwethaf. Ffurfiwyd y Manic Street Preachers (neu’r Manics i nifer) yn 1986 yng Nghoed-duon, Caerffili, gyda James Dean Bradfield (llais, gitâr), Nicky Wire (Nicholas Allen Jones; bas) a Sean Moore (drymiau) fel y prif aelodau; cyn bo hir ymunodd Richey Edwards (gitâr rhythm) i gwblhau’r grŵp. Roedd y pedwar aelod yn ffrindiau ysgol, a bu’r arddegau yn gyfnod o ddarllen eang yn eu hanes; roedd Sefyllfäwriaeth (Situationism) a llenyddiaeth yr 20g. yn ddylanwadau pwysig arnynt. O safbwynt cerddorol, daeth y pedwar dan ddylanwad pync-roc yn ogystal â bandiau cyfoes megis Guns ‘n’ Roses.

Rhyddhaodd y band eu sengl gyntaf, ‘Suicide Alley’, yn 1988 ar label ad hoc, gan ennill clod yn y New Musical Express, ac erbyn 1991 roeddynt wedi arwyddo cytundeb gyda’r label annibynnol Heavenly Records, ar ôl ymgyrch gyhoeddusrwydd galed yn y wasg gerddorol Brydeinig wrth iddynt wneud datganiadau dadleuol am wleidyddiaeth a natur ddiflas y sîn gerddorol fel yr oeddynt yn ei gweld ar y pryd. Yn 1991 arwyddodd y band gytundeb gyda Sony/Columbia, ac yn 1992 cafodd eu halbwm cyntaf, Generation Terrorists, ei ryddhau; fe’i dilynwyd gan Gold Against The Soul (Sony, 1993). Er gwaethaf eu llwyddiant masnachol - cyrhaeddodd tair sengl oddi ar Generation Terrorists yr 20 Uchaf Prydeinig - adolygiadau cymysg a gafodd y ddau albwm.

Ystyrir trydydd albwm y band, The Holy Bible (Sony, 1994), yn drobwynt yn eu hanes, wrth iddynt gefnu ar eu nodweddion cerddorol gwreiddiol a chofleidio sŵn llawer mwy amrwd, gyda chaneuon yn archwilio pynciau megis anorecsia, natur crefydd, cyfalafiaeth, byw a marw, a’r Holocost; er na fu’r albwm yn llwyddiant masnachol derbyniodd glod yn y wasg. Roedd ymddygiad prif awdur geiriau’r band, Richey Edwards, wedi achosi pryder yn y gorffennol, yn enwedig yn 1991 pan aeth ati i hunan-anafu o flaen y newyddiadurwr Steve Lamacq, gan dorri’r slogan ‘4 REAL’ i mewn i’w fraich gyda llafn, ac ar daith yn Thailand yn ystod 1994 fe hunan-anafodd eto gyda chyllell. Roedd natur dywyll ei feddyliau yn amlwg yng ngeiriau caneuon megis ‘The Intense Humming Of Evil’, ‘Die In The Summertime’ ac ‘Archives Of Pain’, cân herfeiddiol am greulondeb sylfaenol dynoliaeth ac amhosibilrwydd athronyddol achubiaeth ar ôl tröedigaeth foesol.

Ar 1 Chwefror 1995 diflannodd Richey Edwards yn Llundain. Ar ôl i’r heddlu ddarganfod ei gar mewn maes parcio ger Pont Hafren, tybiwyd ei fod wedi ei foddi ei hunan er na chafodd ei gorff erioed ei ddarganfod. Cafodd diflaniad Edwards effaith fawr ar dri aelod arall y band, ac ni welwyd record arall ganddynt hyd 1996. Roedd y pum mlynedd nesaf yn uchafbwynt masnachol a chreadigol i’r band, gyda saith sengl o’u heiddo’n cyrraedd y 10 Uchaf Prydeinig (yn cynnwys dwy sengl a fu’n Rhif 1), a gwerthiant albwm platinwm i Everything Must Go (Sony, 1996) a This Is My Truth Tell Me Yours (Sony, 1998). Yn 1999 chwaraeodd y band o flaen 80,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Nos Galan.

Ers 2000 mae’r band wedi parhau i recordio a theithio yn gyson. Roedd Know Your Enemy (Sony, 2001) yn llwyddiant masnachol, ond ar ôl methiant masnachol a beirniadol Lifeblood (Sony, 2004) - albwm ac iddo sŵn canol y ffordd - ni ryddhawyd unrhyw ddeunydd newydd hyd nes i Send Away The Tigers (Sony, 2007) ymddangos. Croesawyd yr albwm hwnnw fel adlewyrchiad o ddychweliad llwyddiannus (os nad mentrus) y band at eu gwreiddiau pync, a chyrhaeddodd un sengl oddi arno, ‘Your Love Alone Is Not Enough’, rif 2 yn y siart 10 Uchaf. Bu Journal For Plague Lovers (Sony, 2009) a Postcards From A Young Man (Sony, 2010) ymhlith y tri albwm uchaf yn y siartiau ac aeth eu halbwm Rewind The Film (Sony, 2013), i rif 4 ar ôl derbyn adolygiadau ffafriol. Dilynwyd yr album gyda Futurology flwyddyn yn ddiweddarach.

Cydnabyddir y Manic Street Preachers fel un o’r bandiau roc Prydeinig cyfoes mwyaf creadigol, ac mae’r pyncs a oedd unwaith wrth eu bodd os oedd eu hymddygiad herfeiddiol yn creu penawdau yn y papurau newydd bellach wedi aeddfedu’n gerddorion meddylgar a chanddynt ddawn i greu alawon anthemig. Mae eu hagwedd at eu Cymreictod, hefyd, wedi newid ers diwedd yr 1990au, gyda pharodrwydd i gofleidio a dathlu’r diwylliant Cymraeg wedi disodli agwedd lawer fwy negyddol gyda Richey Edwards yn datgan unwaith mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Sothach yn 1992 fod yr iaith Gymraeg ‘ond yn bwysig i ddeinosoriaid a phobl sy’n licio bwyta glo’ (1992, 12). Fel un o nifer fach o fandiau roc Prydeinig yr 1980au sy’n parhau i greu gwaith creadigol gwerth chweil, mae eu camp i’w chydnabod.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Generation Terrorists (Columbia 471060 2, 1992)
  • Gold Against The Soul (Columbia 474064 2, 1993)
  • The Holy Bible (Epic 477421 2, 1994)
  • Everything Must Go (Epic 483930 2, 1996)
  • This Is My Truth Tell Me Yours (Epic 491703 9 1998)
  • Know Your Enemy (Epic 501880 4, 2001)
  • Lifeblood (Sony 518885 2, 2004)
  • Send Away The Tigers (Sony 88697075632, 2007)
  • Journal For Plague Lovers (Columbia 88697520582, 2009)
  • Postcards From A Young Man (Sony 88697741882, 2010)
  • Rewind The Film (Sony 88883745292, 2013)
  • Futurology (Columbia 88843049622, 2014)

Llyfryddiaeth

  • ‘Manic Street Preachers – go iawn, go wir, go go goch’, Sothach, 44 (Medi, 1992), 12–13
  • Simon Price a Nicky Wire, Everything: A book about Manic Street Preachers (Llundain, 1999)
  • Martin Power, Nailed to History: The Story of Manic Street Preachers (Llundain, 2010)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.