Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Melys"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
[[Band roc]] o Fetws-y-coed a ffurfiwyd gan Andrea Parker (llais) a Paul Adams (allweddellau, gitâr) yn 1996. Cyfrannodd y band i’r EP amlgyfrannog ''S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol. 2'' a ryddhawyd gan Ankst yr un flwyddyn. Rhyddhaodd Ankst ddwy EP arall gan y band, sef ''Fragile'' (1996) a ''Cuckoo'' (1997), a oedd yn tystio i’w sŵn electronig, arallfydol ond chwareus.
+
[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Band roc]] o Fetws-y-coed a ffurfiwyd gan Andrea Parker (llais) a Paul Adams (allweddellau, gitâr) yn 1996. Cyfrannodd y band i’r EP amlgyfrannog ''S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol. 2'' a ryddhawyd gan Ankst yr un flwyddyn. Rhyddhaodd Ankst ddwy EP arall gan y band, sef ''Fragile'' (1996) a ''Cuckoo'' (1997), a oedd yn tystio i’w sŵn electronig, arallfydol ond chwareus.
  
Arwyddodd Melys gytundeb gydag Arctic Records yn ystod haf 1997, a rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ''Rumours and Curses'', yn 1998. Derbyniodd adolygiadau da ac fe’i dilynwyd gan nifer o EPau a senglau, gan gynnwys ''Ambulance Chaser'' (Arctic, 1998) a ''Diwifr'' (Arctic, 1998) a oedd yn cynnwys cyfraniad gan gitarydd Ectogram Alan Holmes. Pan ddaeth Arctic i ben sefydlodd y band label annibynnol o’r enw Sylem yn 1998 gan ryddhau ail albwm, sef ''Kamikaze'', yn 2000.
 
Roedd cefnogaeth John Peel ar BBC Radio 1 yn allweddol i lwyddiant Melys. Ar ôl iddo glywed gwaith cynnar y band, cawsant wahoddiad gan Peel i wneud sesiwn ar gyfer ei sioe yn 1997. Dyma’r gyntaf o wyth sesiwn ynghyd â nifer o ymddangosiadau pellach ar ei sioe. Yn wir, gosododd John Peel eu trac ‘Chinese Whispers’ ar frig ei siart bersonol ‘Festive Fifty’ ar gyfer y flwyddyn 2001. Roedd y cyfnod hwn yn un eithriadol o ffrwythlon i Melys. Yn Hydref 2000 buont yn chwarae gyda [[Gorky’s Zygotic Mynci]] yng Nghlwb Ifor Bach, [[Caerdydd]], fel rhan o’r gyfres ‘One Live In …’ gan Radio 1; yn Ionawr 2001 perfformiodd y band yng [[Ngŵyl]] Noorderslag yn yr Iseldiroedd.
+
Roedd cefnogaeth John Peel ar BBC Radio 1 yn allweddol i lwyddiant Melys. Ar ôl iddo glywed gwaith cynnar y band, cawsant wahoddiad gan Peel i wneud sesiwn ar gyfer ei sioe yn 1997. Dyma’r gyntaf o wyth sesiwn ynghyd â nifer o ymddangosiadau pellach ar ei sioe. Yn wir, gosododd John Peel eu trac ‘Chinese Whispers’ ar frig ei siart bersonol ‘Festive Fifty’ ar gyfer y flwyddyn 2001. Roedd y cyfnod hwn yn un eithriadol o ffrwythlon i Melys. Yn Hydref 2000 buont yn chwarae gyda [[Gorky's Zygotic Mynci]] yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, fel rhan o’r gyfres ‘One Live In ...’ gan Radio 1; yn Ionawr 2001 perfformiodd y band yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Noorderslag yn yr Iseldiroedd.
  
Rhyddhawyd eu halbwm ''Casting Pearls'' ar label Sylem yn 2003, ac ymddangosodd eu pedwerydd albwm stiwdio, ''Life’s Too Short'' - teyrnged i Peel, a fu farw yn 2004 - yn Chwefror 2005. Wedyn rhoddodd y band y gorau i recordio a chwarae’n fyw wrth i’r aelodau ganolbwyntio ar brosiectau eraill. Yn Hydref 2009, fodd bynnag, chwaraeodd y band ddau gig, un yn Neuadd Hendre ger Bangor, a’r llall yn yr Iseldiroedd fel rhan o ddathliadau Diwrnod John Peel. Ymddangosodd Melys hefyd yng Ngŵyl Sŵn, Caerdydd, yn 2010.
 
Y diwygiad cyfredol, am 19:47, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band roc o Fetws-y-coed a ffurfiwyd gan Andrea Parker (llais) a Paul Adams (allweddellau, gitâr) yn 1996. Cyfrannodd y band i’r EP amlgyfrannog S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol. 2 a ryddhawyd gan Ankst yr un flwyddyn. Rhyddhaodd Ankst ddwy EP arall gan y band, sef Fragile (1996) a Cuckoo (1997), a oedd yn tystio i’w sŵn electronig, arallfydol ond chwareus.

Arwyddodd Melys gytundeb gydag Arctic Records yn ystod haf 1997, a rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Rumours and Curses, yn 1998. Derbyniodd adolygiadau da ac fe’i dilynwyd gan nifer o EPau a senglau, gan gynnwys Ambulance Chaser (Arctic, 1998) a Diwifr (Arctic, 1998) a oedd yn cynnwys cyfraniad gan gitarydd Ectogram Alan Holmes. Pan ddaeth Arctic i ben sefydlodd y band label annibynnol o’r enw Sylem yn 1998 gan ryddhau ail albwm, sef Kamikaze, yn 2000.

Roedd cefnogaeth John Peel ar BBC Radio 1 yn allweddol i lwyddiant Melys. Ar ôl iddo glywed gwaith cynnar y band, cawsant wahoddiad gan Peel i wneud sesiwn ar gyfer ei sioe yn 1997. Dyma’r gyntaf o wyth sesiwn ynghyd â nifer o ymddangosiadau pellach ar ei sioe. Yn wir, gosododd John Peel eu trac ‘Chinese Whispers’ ar frig ei siart bersonol ‘Festive Fifty’ ar gyfer y flwyddyn 2001. Roedd y cyfnod hwn yn un eithriadol o ffrwythlon i Melys. Yn Hydref 2000 buont yn chwarae gyda Gorky's Zygotic Mynci yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, fel rhan o’r gyfres ‘One Live In ...’ gan Radio 1; yn Ionawr 2001 perfformiodd y band yng Ngŵyl Noorderslag yn yr Iseldiroedd.

Rhyddhawyd eu halbwm Casting Pearls ar label Sylem yn 2003, ac ymddangosodd eu pedwerydd albwm stiwdio, Life’s Too Short - teyrnged i Peel, a fu farw yn 2004 - yn Chwefror 2005. Wedyn rhoddodd y band y gorau i recordio a chwarae’n fyw wrth i’r aelodau ganolbwyntio ar brosiectau eraill. Yn Hydref 2009, fodd bynnag, chwaraeodd y band ddau gig, un yn Neuadd Hendre ger Bangor, a’r llall yn yr Iseldiroedd fel rhan o ddathliadau Diwrnod John Peel. Ymddangosodd Melys hefyd yng Ngŵyl Sŵn, Caerdydd, yn 2010.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • ‘Cysur’, ar S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol. 2 [EP] (Ankst 070, 1996)
  • Fragile [EP] (Ankst CD072, 1996)
  • Cuckoo [EP] (Ankst CD075, 1997)
  • Rumours and Curses (Arctic Records KOLD102CD, 1998)
  • Diwifr [EP] (Arctic FROST104CD, 1998)
  • Lemming [sengl] (Arctic Records FROST106CD, 1998)
  • Ambulance Chaser [sengl] (Arctic Records FROST107CD, 1998)
  • Kamikaze (Sylem CD4, 2000)
  • Casting Pearls (Sylem CD12, 2003)
  • Life’s Too Short (Sylem CD14, 2005)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.