Metaffiseg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddiwyd y term metaffiseg yn wreiddiol yng nghyswllt gwaith athronyddol Aristoteles, i gyfeirio at yr hyn oedd yn llythrennol i’w ystyried ‘wedi’r ffiseg’; hynny yw, wedi astudiaeth o’r byd naturiol. Dyma'r cwestiynau a ystyrid yn fwyaf elfennol i fywyd dynol, ac yn ymwneud yn benodol â cheisio deall pobl fel pobl (yn hytrach na fel endid o’r byd naturiol), damcaniaethu am yr achosion cyntaf, a’r hyn nad yw'n newid, sef y gwirioneddau tragwyddol.

Parhaodd y dealltwriaeth o fetaffiseg fel astudiaeth o egwyddorion cyntaf, ond yn raddol fe ddaeth i gynnwys meysydd eraill, mwy penodol, yn bosibl wrth i faes ‘ffiseg’ ddatblygu’n fwy arbenigol. Erbyn y 18g. felly roedd themâu ynglŷn â’r berthynas rhwng y meddwl a’r corff, rhyddid ewyllys, gofod ac amser wedi datblygu’n ganolog i’r astudiaeth o fetaffiseg.

Yn yr 20g. daeth metaffiseg yn derm mwy dadleuol, yn enwedig oherwydd y modd y defnyddiwyd y cysyniad gan ambell athronydd dylanwadol. Er bod perthynas Wittgenstein gyda metaffiseg yn gymhleth, roedd nifer o’i ddehonglwyr yng nghylch Fienna yn ystyried ei athroniaeth yn ymosodiad ar fetaffiseg fel maes y tu hwnt i reswm, heb synnwyr ystyrlon, oherwydd nid oes modd dilysu’r syniadau trwy brawf digamsyniol.

Yn hwyrach, awgrymodd yr Americanwr John Rawls yn ei drafodaeth o egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol nad oes modd eu hangori mewn safbwynt ‘metaffisegol’ hollgynhwysol. I’r gwrthwyneb, mewn cymdeithasau modern a nodweddir gan gredoau amrywiol, rhaid rhoi ystyriaethau felly o’r neilltu, a cheisio adnabod sut bod modd i egwyddorion gwleidyddol addas coleddu safbwyntiau metaffisegol amrywiol. Yn y cyswllt hwn, down yn agosach at ddefnydd ‘lleyg’ y term, sef categori o syniadau neu ystyriaethau – megis crefydd – sydd yn cyfannu dealltwriaeth a safbwyntiau moesol, o fewn un dehongliad hollgwmpasog o’r byd a’r bywyd dynol.

Huw Williams

Llyfryddiaeth

Gealy, W. (2009), ‘Wittgenstein’ yn Daniel, J. a Gealy, W. (goln), Hanes Athroniaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 667-690.

Rawls, J. (1985), ‘Justice as fairness: political not metaphysical’, Philosophy and Public Affairs, 14, 223-251.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.