Mydr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:10, 27 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Symudiad neu guriad rheolaidd mewn barddoniaeth yw mydr, ac mewn canu rhydd – sonedau, telynegion, emynau, hen benillion – y ceir mydr. Pwyslais rheolaidd a chyson ar sillafau sy’n creu mydr. Tra bo’r brif acen a’r is-acen yn digwydd mewn dau le yn unig mewn llinell o gynghanedd, sef yr orffwysfa a’r brifodl, fe geir acen ar bob sillaf yn y canu rhydd. Un o’r mydrau mwyaf poblogaidd mewn canu rhydd yw’r mydr iambig, lle rhoir pwyslais ysgafn (–) ar sillafau 1, 3, 5, 7, 9, a phwyslais trwm (´) ar sillafau 2, 4, 6, 8 a 10, er enghraifft:

Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith
– ´ – ´– ´– ´– ´

Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft:

Ar ôl y tywydd garw, Yr eira llaith a’r lluwch, ’Rôl cyffro rhaffu’r tarw A throi rhyferthwy’r fuwch ...

– ´ – ´– ´– – ´ – ´– ´ – ´ – ´– ´– – ´ – ´– ´ Alan Llwyd