Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Naddlin"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(nodyn ar y drwydded CC)
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''trimline'')
 
(Saesneg: ''trimline'')
  
[[Delwedd:Naddlin_1.jpg|200px|bawd|de|Naddlin rhewlif Fiescher (Swistir). Naddlinau sy’n dynodu cyrraedd y rhewlif yn ystod y cyfnod Neoglacial a’r cyfnod rhewlifol macsimwm diwethaf  (Last Glacial Maximum).]]
+
Llinell ar lechwedd dyffryn neu gafn rhewlifol yw naddlin, sy’n dynodi terfyn uchaf wyneb rhewlif dyffryn a’r gwaith erydol a gyflawnwyd ganddo. Mewn ardaloedd sydd wedi profi dadrewlifiant (''deglaciation'') yn gymharol ddiweddar mae naddlinau llystyfiant ''(vegetation trimlines'') yn amlwg iawn, fel rheol, gan fod natur y llystyfiant y naill ochr a’r llall i hen derfyn y [[rhewlif]] yn gwbl wahanol i’w gilydd. Creigiau moel, gwaddodion rhewlifol a rhai planhigion arloesol gwasgaredig yn unig sy’n nodweddu’r llechweddau islaw’r naddlin. Uwchlaw’r naddlin, mae’r tir, fel arfer, dan orchudd o blanhigion amrywiol neu hyd yn oed fforestydd. Gyda threiglad y blynyddoedd, fodd bynnag, mae naddlinau llystyfiant yn gynyddol anoddach i’w hadnabod ac nid ydynt i’w gweld mewn ardaloedd yr enciliodd yr iâ ohonynt yn gynnar yn yr Holosen. Fodd bynnag, mewn tirweddau rhewlifol hŷn mae’n bosibl, weithiau, adnabod naddlinau ffinrewlifol (''periglacial trimlines'') sy’n dynodi’r terfyn rhwng tirwedd rewfriw (''frost-shattered'') y llechweddau uchaf, ar y naill law, a chreigiau rhewdreuliedig ''(ice-moulded'') a gwaddodion rhewlifol y llechweddau isaf, ar y llaw arall. Mae amlygrwydd y llain gul (10–30 m) sy’n gwahanu’r creigiau rhewdreuliedig oddi wrth y creigiau rhewfriw yn dibynnu ar effeithiolrwydd y sgrafelliad rhewlifol (''glacial abrasion''), litholeg ac adeiledd y creigiau cysefin, ac i ba raddau y mae dyddodion ffinrewlifol hindreuliedig wedi symud ar i waered, dan ddylanwad disgyrchiant, wrth i’r rhewlif a feddiannai’r dyffryn raddol deneuo ac encilio.  
  
Llinell ar lechwedd dyffryn neu gafn rhewlifol yw naddlin, sy’n dynodi terfyn uchaf wyneb rhewlif dyffryn a’r gwaith erydol a gyflawnwyd ganddo. Mewn ardaloedd sydd wedi profi dadrewlifiant (''deglaciation'') yn gymharol ddiweddar mae naddlinau llystyfiant ''(vegetation trimlines'') yn amlwg iawn, fel rheol, gan fod natur y llystyfiant y naill ochr a’r llall i hen derfyn y [[rhewlif]] yn gwbl wahanol i’w gilydd. Creigiau moel, gwaddodion rhewlifol a rhai planhigion arloesol gwasgaredig yn unig sy’n nodweddu’r llechweddau islaw’r naddlin. Uwchlaw’r naddlin, mae’r tir, fel arfer, dan orchudd o blanhigion amrywiol neu hyd yn oed fforestydd. Gyda threiglad y blynyddoedd, fodd bynnag, mae naddlinau llystyfiant yn gynyddol anoddach i’w hadnabod ac nid ydynt i’w gweld mewn ardaloedd yr enciliodd yr iâ ohonynt yn gynnar yn yr Holosen. Fodd bynnag, mewn tirweddau rhewlifol hŷn mae’n bosibl, weithiau, adnabod naddlinau ffinrewlifol (''periglacial trimlines'') sy’n dynodi’r terfyn rhwng tirwedd rewfriw (''frost-shattered'') y llechweddau uchaf, ar y naill law, a chreigiau rhewdreuliedig ''(ice-moulded'') a gwaddodion rhewlifol y llechweddau isaf, ar y llaw arall. Mae amlygrwydd y llain gul (10-30 m) sy’n gwahanu’r creigiau rhewdreuliedig oddi wrth y creigiau rhewfriw yn dibynnu ar effeithiolrwydd y sgrafelliad rhewlifol (''glacial abrasion''), litholeg ac adeiledd y creigiau cysefin, ac i ba raddau y mae dyddodion ffinrewlifol hindreuliedig wedi symud ar i waered, dan ddylanwad disgyrchiant, wrth i’r [[rhewlif]] a feddiannai’r dyffryn raddol deneuo ac encilio.   
+
Caiff gwahanol nodweddion erydol a dyddodol eu defnyddio i adnabod naddlinau ffinrewlifol, gan gynnwys: (1) dosbarthiad tirffurfiau rhewlifol, megis creigiau myllt (''roche moutonnées'') ac arwynebau creigiau rhychiedig (''striated bedrock surfaces''), a thirffurfiau ffinrewlifol, megis cludeiriau (''blockfields'') a thyrau (''tors''); (2) dyfnder bregion (''joints''), sy’n dueddol o fod yn ddyfnach uwchlaw’r naddlin; (3) y gwahanol gasgliadau o fwynau clai (''clay minerals'') sydd i’w cael uwchlaw ac islaw’r naddlin; fel rheol, dim ond gibbsit a geir uwchlaw naddlinau ffinrewlifol, ynghyd â chyfran fwy sylweddol o gaolinit a halloysit; (4) gostyngiad o ran uchder y naddlin wrth ei dilyn i lawr y dyffryn; hynny yw, mae gan wir naddlin ffinrewlifol raddiant sy’n cyd-fynd â hydbroffil y rhewlif a’i creodd. Ar sail y fath dystiolaeth, mynn Ballantyne, C.K. et al. (1998; gw. McCarrol, D. [2005]) ‘fod naddlinau Eryri gyda’r amlycaf ym Mhrydain’ ac ar sail eu dosbarthiad mapiwyd terfynau nynatacau’r Wyddfa, y Glyderau a’r Carneddau. Ar ben hynny, mae Ballantyne, C.K. (2001; gw. McCarrol, D. [2005]) yn hawlio bod naddlin amlwg ar uchder o 740–750 m ar Gadair Idris, ac uwchlaw’r llinell mae ‘tyrau a chludeiriau, ynghyd â phriddoedd goroesol (''remnant soils'') sy’n cynnwys gibbsit’ yn nodweddu tirwedd nynatac Cadair Idris. Dengys ymchwil mewn rhannau o ogledd-orllewin yr Alban fod modd adnabod dwy naddlin ffinrewlifol; yr uchaf yn dynodi terfyn uchaf oll yr iâ pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, a’r isaf a grëwyd gan rewlifau Is-gyfnod Rhewlifol Loch Lomond (''Loch Lomond Stadial'') rhwng oddeutu 13,000 ac 11,500 o flynyddoedd yn ôl.   
 
 
Caiff gwahanol nodweddion erydol a dyddodol eu defnyddio i adnabod naddlinau ffinrewlifol, gan gynnwys: (1) dosbarthiad tirffurfiau rhewlifol, megis creigiau myllt (''roche moutonnées'') ac arwynebau creigiau rhychiedig (''striated bedrock surfaces''), a thirffurfiau ffinrewlifol, megis cludeiriau (''blockfields'') a thyrau (''tors''); (2) dyfnder bregion (''joints''), sy’n dueddol o fod yn ddyfnach uwchlaw’r naddlin; (3) y gwahanol gasgliadau o fwynau clai (''clay minerals'') sydd i’w cael uwchlaw ac islaw’r naddlin; fel rheol, dim ond gibbsit a geir uwchlaw naddlinau ffinrewlifol, ynghyd â chyfran fwy sylweddol o gaolinit a halloysit; (4) gostyngiad o ran uchder y naddlin wrth ei dilyn i lawr y dyffryn; hynny yw, mae gan wir naddlin ffinrewlifol raddiant sy’n cyd-fynd â hydbroffil y [[rhewlif]] a’i creodd. Ar sail y fath dystiolaeth, mynn Ballantyne, C.K. et al. (1998; gw. McCarrol, D. [2005]) ‘fod naddlinau Eryri gyda’r amlycaf ym Mhrydain’ ac ar sail eu dosbarthiad mapiwyd terfynau nynatacau’r Wyddfa, y Glyderau a’r Carneddau. Ar ben hynny, mae Ballantyne, C.K. (2001; gw. McCarrol, D. [2005]) yn hawlio bod naddlin amlwg ar uchder o 740-750 m ar Gadair Idris, ac uwchlaw’r llinell mae ‘tyrau a chludeiriau, ynghyd â phriddoedd goroesol (''remnant soils'') sy’n cynnwys gibbsit’ yn nodweddu tirwedd nynatac Cadair Idris. Dengys ymchwil mewn rhannau o ogledd-orllewin yr Alban fod modd adnabod dwy naddlin ffinrewlifol; yr uchaf yn dynodi terfyn uchaf oll yr iâ pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, a’r isaf a grëwyd gan rewlifau Is-gyfnod Rhewlifol Loch Lomond (''Loch Lomond Stadial'') rhwng oddeutu 13,000 ac 11,500 o flynyddoedd yn ôl.   
 
  
 
Gyda’i gilydd, ymddengys fod y gwahanol griteria a ddefnyddir i adnabod naddlinau yn fodd i ail-greu mewn tri-dimensiwn ac mewn cryn fanylder hyd a lled terfynau llenni iâ, capiau iâ a rhewlifau diflanedig. Eto i gyd, mae sawl awdur wedi crybwyll y posibilrwydd y gallai cludeiriau ar gopaon mynyddoedd oroesi dan gapiau iâ gwadn-oer, tenau, tra bod y dyffrynnoedd wedi’u meddiannu gan rewlifau gwadn-cynnes erydol. At hynny, gwyddys fod tyrau a chludeiriau ar Ynys Baffin, Canada, wedi goroesi er iddynt gael eu claddu dan lif y [[llen iâ]] ddiwethaf. Yn yr achos yma, felly, ymddengys fod tyrau a chludeiriau ond yn dynodi ardaloedd na ddioddefodd erydiad rhewlifol dwys. Mae cryn ddadlau hefyd ynglŷn ag arwyddocâd presenoldeb mwynau clai, megis gibbsit, caolinit a halloysit, mewn priddoedd mynydd. Er bod rhai awduron o’r farn eu bod yn dynodi copaon (nynatacau) na chafodd eu claddu dan len neu gap iâ, mae eraill wedi dadlau y gallai’r fath fwynau clai fod yn gynnyrch cynnar prosesau [[hindreulio]] ac nad ydynt, felly, yn ddiagnostig o hindreuliad cyn-Ddefensaidd (''pre-Devensian'') nac ychwaith hindreuliad ffinrewlifol.   
 
Gyda’i gilydd, ymddengys fod y gwahanol griteria a ddefnyddir i adnabod naddlinau yn fodd i ail-greu mewn tri-dimensiwn ac mewn cryn fanylder hyd a lled terfynau llenni iâ, capiau iâ a rhewlifau diflanedig. Eto i gyd, mae sawl awdur wedi crybwyll y posibilrwydd y gallai cludeiriau ar gopaon mynyddoedd oroesi dan gapiau iâ gwadn-oer, tenau, tra bod y dyffrynnoedd wedi’u meddiannu gan rewlifau gwadn-cynnes erydol. At hynny, gwyddys fod tyrau a chludeiriau ar Ynys Baffin, Canada, wedi goroesi er iddynt gael eu claddu dan lif y [[llen iâ]] ddiwethaf. Yn yr achos yma, felly, ymddengys fod tyrau a chludeiriau ond yn dynodi ardaloedd na ddioddefodd erydiad rhewlifol dwys. Mae cryn ddadlau hefyd ynglŷn ag arwyddocâd presenoldeb mwynau clai, megis gibbsit, caolinit a halloysit, mewn priddoedd mynydd. Er bod rhai awduron o’r farn eu bod yn dynodi copaon (nynatacau) na chafodd eu claddu dan len neu gap iâ, mae eraill wedi dadlau y gallai’r fath fwynau clai fod yn gynnyrch cynnar prosesau [[hindreulio]] ac nad ydynt, felly, yn ddiagnostig o hindreuliad cyn-Ddefensaidd (''pre-Devensian'') nac ychwaith hindreuliad ffinrewlifol.   
Llinell 11: Llinell 9:
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
  
Ballantyne, C.K. a Harris, C. (1994) ''The Periglaciation of Great Britain'', Cambridge University Press, Caergrawnt, tt. 182-7, 190-2.  
+
* Ballantyne, C.K. a Harris, C. (1994) ''The Periglaciation of Great Britain'', Cambridge University Press, Caergrawnt, tt. 182–7, 190–2.
 +
 
 +
* Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) ''Glaciers and Glaciation'', Arnold, Llundain, tt. 607–10.
 +
 
 +
* McCarroll, D., ‘North-west Wales’, tt. 30–2, yn Lewis, C.A. a Richards, A.E. (2005) ''The Glaciations of Wales and Adjoining Areas'', Logaston Press, Logaston.
  
Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) ''Glaciers and Glaciation'', Arnold, Llundain, tt. 607-10.
 
  
McCarroll, D., ‘North-west Wales’, tt. 30-2, yn Lewis, C.A. a Richards, A.E. (2005) ''The Glaciations of Wales and Adjoining Areas'', Logaston Press, Logaston.
+
{{CC BY-SA}}
 +
[[Category:Daearyddiaeth]]
 +
__NOAUTOLINKS__

Y diwygiad cyfredol, am 15:31, 13 Awst 2014

(Saesneg: trimline)

Llinell ar lechwedd dyffryn neu gafn rhewlifol yw naddlin, sy’n dynodi terfyn uchaf wyneb rhewlif dyffryn a’r gwaith erydol a gyflawnwyd ganddo. Mewn ardaloedd sydd wedi profi dadrewlifiant (deglaciation) yn gymharol ddiweddar mae naddlinau llystyfiant (vegetation trimlines) yn amlwg iawn, fel rheol, gan fod natur y llystyfiant y naill ochr a’r llall i hen derfyn y rhewlif yn gwbl wahanol i’w gilydd. Creigiau moel, gwaddodion rhewlifol a rhai planhigion arloesol gwasgaredig yn unig sy’n nodweddu’r llechweddau islaw’r naddlin. Uwchlaw’r naddlin, mae’r tir, fel arfer, dan orchudd o blanhigion amrywiol neu hyd yn oed fforestydd. Gyda threiglad y blynyddoedd, fodd bynnag, mae naddlinau llystyfiant yn gynyddol anoddach i’w hadnabod ac nid ydynt i’w gweld mewn ardaloedd yr enciliodd yr iâ ohonynt yn gynnar yn yr Holosen. Fodd bynnag, mewn tirweddau rhewlifol hŷn mae’n bosibl, weithiau, adnabod naddlinau ffinrewlifol (periglacial trimlines) sy’n dynodi’r terfyn rhwng tirwedd rewfriw (frost-shattered) y llechweddau uchaf, ar y naill law, a chreigiau rhewdreuliedig (ice-moulded) a gwaddodion rhewlifol y llechweddau isaf, ar y llaw arall. Mae amlygrwydd y llain gul (10–30 m) sy’n gwahanu’r creigiau rhewdreuliedig oddi wrth y creigiau rhewfriw yn dibynnu ar effeithiolrwydd y sgrafelliad rhewlifol (glacial abrasion), litholeg ac adeiledd y creigiau cysefin, ac i ba raddau y mae dyddodion ffinrewlifol hindreuliedig wedi symud ar i waered, dan ddylanwad disgyrchiant, wrth i’r rhewlif a feddiannai’r dyffryn raddol deneuo ac encilio.

Caiff gwahanol nodweddion erydol a dyddodol eu defnyddio i adnabod naddlinau ffinrewlifol, gan gynnwys: (1) dosbarthiad tirffurfiau rhewlifol, megis creigiau myllt (roche moutonnées) ac arwynebau creigiau rhychiedig (striated bedrock surfaces), a thirffurfiau ffinrewlifol, megis cludeiriau (blockfields) a thyrau (tors); (2) dyfnder bregion (joints), sy’n dueddol o fod yn ddyfnach uwchlaw’r naddlin; (3) y gwahanol gasgliadau o fwynau clai (clay minerals) sydd i’w cael uwchlaw ac islaw’r naddlin; fel rheol, dim ond gibbsit a geir uwchlaw naddlinau ffinrewlifol, ynghyd â chyfran fwy sylweddol o gaolinit a halloysit; (4) gostyngiad o ran uchder y naddlin wrth ei dilyn i lawr y dyffryn; hynny yw, mae gan wir naddlin ffinrewlifol raddiant sy’n cyd-fynd â hydbroffil y rhewlif a’i creodd. Ar sail y fath dystiolaeth, mynn Ballantyne, C.K. et al. (1998; gw. McCarrol, D. [2005]) ‘fod naddlinau Eryri gyda’r amlycaf ym Mhrydain’ ac ar sail eu dosbarthiad mapiwyd terfynau nynatacau’r Wyddfa, y Glyderau a’r Carneddau. Ar ben hynny, mae Ballantyne, C.K. (2001; gw. McCarrol, D. [2005]) yn hawlio bod naddlin amlwg ar uchder o 740–750 m ar Gadair Idris, ac uwchlaw’r llinell mae ‘tyrau a chludeiriau, ynghyd â phriddoedd goroesol (remnant soils) sy’n cynnwys gibbsit’ yn nodweddu tirwedd nynatac Cadair Idris. Dengys ymchwil mewn rhannau o ogledd-orllewin yr Alban fod modd adnabod dwy naddlin ffinrewlifol; yr uchaf yn dynodi terfyn uchaf oll yr iâ pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, a’r isaf a grëwyd gan rewlifau Is-gyfnod Rhewlifol Loch Lomond (Loch Lomond Stadial) rhwng oddeutu 13,000 ac 11,500 o flynyddoedd yn ôl.

Gyda’i gilydd, ymddengys fod y gwahanol griteria a ddefnyddir i adnabod naddlinau yn fodd i ail-greu mewn tri-dimensiwn ac mewn cryn fanylder hyd a lled terfynau llenni iâ, capiau iâ a rhewlifau diflanedig. Eto i gyd, mae sawl awdur wedi crybwyll y posibilrwydd y gallai cludeiriau ar gopaon mynyddoedd oroesi dan gapiau iâ gwadn-oer, tenau, tra bod y dyffrynnoedd wedi’u meddiannu gan rewlifau gwadn-cynnes erydol. At hynny, gwyddys fod tyrau a chludeiriau ar Ynys Baffin, Canada, wedi goroesi er iddynt gael eu claddu dan lif y llen iâ ddiwethaf. Yn yr achos yma, felly, ymddengys fod tyrau a chludeiriau ond yn dynodi ardaloedd na ddioddefodd erydiad rhewlifol dwys. Mae cryn ddadlau hefyd ynglŷn ag arwyddocâd presenoldeb mwynau clai, megis gibbsit, caolinit a halloysit, mewn priddoedd mynydd. Er bod rhai awduron o’r farn eu bod yn dynodi copaon (nynatacau) na chafodd eu claddu dan len neu gap iâ, mae eraill wedi dadlau y gallai’r fath fwynau clai fod yn gynnyrch cynnar prosesau hindreulio ac nad ydynt, felly, yn ddiagnostig o hindreuliad cyn-Ddefensaidd (pre-Devensian) nac ychwaith hindreuliad ffinrewlifol.

Llyfryddiaeth

  • Ballantyne, C.K. a Harris, C. (1994) The Periglaciation of Great Britain, Cambridge University Press, Caergrawnt, tt. 182–7, 190–2.
  • Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 607–10.
  • McCarroll, D., ‘North-west Wales’, tt. 30–2, yn Lewis, C.A. a Richards, A.E. (2005) The Glaciations of Wales and Adjoining Areas, Logaston Press, Logaston.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.