Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiaduraeth heddwch"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg : ''Peace journalism'' Math o newyddiaduraeth eiriolaeth sy’n annog y cyhoedd i fynegi barn er mwyn ystyried ymatebion di-drais i wrthdaro...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
Saesneg : ''Peace journalism''
 
Saesneg : ''Peace journalism''
  
Math o [[newyddiaduraeth]] eiriolaeth sy’n annog y cyhoedd i fynegi barn er mwyn ystyried ymatebion di-drais i wrthdaro a rhyfel. Yn y 1960au hwyr, bathodd Johan Galtung y term peace journalism mewn ymateb i’r hyn a welodd fel sylw negyddol i ryfel (gweler hefyd Galtung 1998). Serch hynny, mae ymdrechion i annog diwedd trais a rhyfel gan fudiadau cymdeithasol a newyddiaduraeth yn dyddio’n ôl i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Unol Daleithiau America (UDA) a llefydd eraill, pan oedd cyfnodolion Cristnogol a oedd yn gysylltiedig â mudiadau heddwch (megis Calumet neu ''Advocate of Peace'') yn cefnogi heddwch fel rhan o’u gweledigaeth am gymdeithas well.
+
Math o [[newyddiaduraeth]] eiriolaeth sy’n annog y cyhoedd i fynegi barn er mwyn ystyried ymatebion di-drais i wrthdaro a rhyfel. Yn y 1960au hwyr, bathodd Johan Galtung y term peace journalism mewn ymateb i’r hyn a welodd fel sylw negyddol i ryfel (gweler hefyd Galtung 1998). Serch hynny, mae ymdrechion i annog diwedd trais a rhyfel gan fudiadau cymdeithasol a [[newyddiaduraeth]] yn dyddio’n ôl i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Unol Daleithiau America (UDA) a llefydd eraill, pan oedd cyfnodolion Cristnogol a oedd yn gysylltiedig â mudiadau heddwch (megis Calumet neu ''Advocate of Peace'') yn cefnogi heddwch fel rhan o’u gweledigaeth am gymdeithas well.
  
Yn fwy diweddar, mae newyddiaduraeth heddwch yn gysylltiedig â nifer o fudiadau heddwch rhyngwladol a oedd yn erbyn arfau niwclear ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar strwythur gwrthdaro, crëwyd newyddiaduraeth heddwch er mwyn cyferbynnu ag adroddiadau cyfoes o ryfel, sydd yn tueddu i hyrwyddo gwrthdaro ar draul deall y rhesymau pam fod trais yn bodoli neu ganlyniadau trais.  
 
Llinell 12: Llinell 12:
  
[[Llyfryddiaeth]]
 
[[Llyfryddiaeth]]
 +
 
Galtung J., a Fischer D. 2013. High Road, Low Road: Charting the Course for Peace Journalism. Yn Johan Galtung. SpringerBriefs on Pioneers in Science and Practice 5. Springer: Berlin, Heidelberg, tt. 95–102.  
 
Diwygiad 08:55, 2 Mai 2019

Saesneg : Peace journalism

Math o newyddiaduraeth eiriolaeth sy’n annog y cyhoedd i fynegi barn er mwyn ystyried ymatebion di-drais i wrthdaro a rhyfel. Yn y 1960au hwyr, bathodd Johan Galtung y term peace journalism mewn ymateb i’r hyn a welodd fel sylw negyddol i ryfel (gweler hefyd Galtung 1998). Serch hynny, mae ymdrechion i annog diwedd trais a rhyfel gan fudiadau cymdeithasol a newyddiaduraeth yn dyddio’n ôl i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Unol Daleithiau America (UDA) a llefydd eraill, pan oedd cyfnodolion Cristnogol a oedd yn gysylltiedig â mudiadau heddwch (megis Calumet neu Advocate of Peace) yn cefnogi heddwch fel rhan o’u gweledigaeth am gymdeithas well.

Yn fwy diweddar, mae newyddiaduraeth heddwch yn gysylltiedig â nifer o fudiadau heddwch rhyngwladol a oedd yn erbyn arfau niwclear ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar strwythur gwrthdaro, crëwyd newyddiaduraeth heddwch er mwyn cyferbynnu ag adroddiadau cyfoes o ryfel, sydd yn tueddu i hyrwyddo gwrthdaro ar draul deall y rhesymau pam fod trais yn bodoli neu ganlyniadau trais.

Mae newyddiaduraeth heddwch yn awgrymu osgoi llawer o’r dicotomïau sy’n nodweddu sylw’r cyfryngau mewn rhyfel (y defnydd o eiriau fel y ‘ni’ a ‘nhw’, ‘dioddefwyr’, ‘enillwyr’ a rhai sy’n ‘colli’) a chanolbwyntio yn hytrach ar broblemau a chanlyniadau sy’n gyffredin i bawb. Mae’n rhoi sylw i gamdrin hawliau dynol ar bob ochr, gan ddefnyddio geiriau mwy addas a llai o ansoddeiriau difrïol er mwyn disgrifio gweithredoedd rhyfel, ac er mwyn disgrifio effeithiau gweladwy ac anweledig polisïau sy’n gysylltiedig â’r rhyfel.

Wedi ei hysgogi gan ymchwilwyr academaidd, fel y cyn-newyddiadurwyr Jake Lynch ac Annabel McGoldrick (2005), mae newyddiaduraeth heddwch heddiw i’w gweld ar draws nifer o sefydliadau hyfforddi academaidd a chyfryngol, ac mae pob un ohonynt o blaid cyfeirio newyddiadurwyr i gyfeiriad newydd wrth feddwl am ryfel a gwrthdaro.

Llyfryddiaeth

Galtung J., a Fischer D. 2013. High Road, Low Road: Charting the Course for Peace Journalism. Yn Johan Galtung. SpringerBriefs on Pioneers in Science and Practice 5. Springer: Berlin, Heidelberg, tt. 95–102.

Lynch, J. a McGoldrick, A. 2005. Peace Journalism. Gloucestershire: Hawthorne Press.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.