Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiaduraeth rhyfel"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
 
[[Newyddiaduraeth]] sy’n gysylltiedig â rhyfel ac ymladd. Mae [[newyddiaduraeth]] rhyfel wedi bod yn gysylltiedig ag imperialaeth ers amser maith, a datblygodd y [[gohebydd]] rhyfel yn arbenigwr am fod papurau newydd Prydain yn dymuno cynnwys adroddiadau o faes y gad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
 
Yn ystod rhyfeloedd mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedi hynny, roedd galw am [[newyddion]] amdanynt, felly daeth y math hwn o newyddiaduraeth yn ganolog mewn papurau newydd. Darparwyd yr adroddiadau cynnar gan filwyr neu deithwyr, ond roedd oedi sylweddol wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo’n ôl i’r stafell [[newyddion]] ar geffyl neu long, ac roedden nhw’n aml yn anghywir, yn rhy ragfarnllyd ac yn gamarweiniol. Roedd yr angen am newyddiaduraeth fwy gwrthrychol yn dwysáu ac unwaith y’i gwnaed yn bosibl gan y telegraff i adrodd o faes y brwydro pell ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn bosibl i gynnal y math hwn o newyddiaduraeth.
+
Yn ystod rhyfeloedd mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedi hynny, roedd galw am [[newyddion]] amdanynt, felly daeth y math hwn o [[newyddiaduraeth]] yn ganolog mewn papurau newydd. Darparwyd yr adroddiadau cynnar gan filwyr neu deithwyr, ond roedd oedi sylweddol wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo’n ôl i’r stafell [[newyddion]] ar geffyl neu long, ac roedden nhw’n aml yn anghywir, yn rhy ragfarnllyd ac yn gamarweiniol. Roedd yr angen am [[newyddiaduraeth]] fwy gwrthrychol yn dwysáu ac unwaith y’i gwnaed yn bosibl gan y telegraff i adrodd o faes y brwydro pell ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn bosibl i gynnal y math hwn o newyddiaduraeth.
  
Mae’r ddadl dros bwy oedd y [[gohebydd]] rhyfel cyntaf yn mynd yn ei flaen. Ymhlith y rhai cyntaf oedd yr arlunydd o Iseldirwr, Willem van de Velde, a gofnodai wrthdaro morwrol yn y 1650au, Henry Crabb Robinson yn ysgrifennu am Ryfel Iberia yn 1808, gohebwyr Rhyfel Mecsico y 1840au, a William Howard Russell yn gohebu o Ryfel y Crimea (1853–6) ar gyfer ''The Times''. Er bod eu hadroddiadau yn aml yn bleidiol, er hynny, ystyriwyd y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn ‘oes euraidd’ newyddiaduraeth rhyfel (Knightley 1975). Yn sgil dyfodiad radio yn y 1920au a’r 1930au, a’r modd o drosglwyddo lluniau o’r ymladd ar hyd weiren i gydfynd â’r geiriau, daeth gohebu rhyfel yn fwy cyffredin o lawer, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Corea. Cafodd dyfodiad y teledu effaith uniongyrchol ar newyddiadura yn ystod Rhyfel Fietnam a’r rhyfeloedd dilynol.
 
Llinell 9: Llinell 9:
 
Mae’r rhan fwyaf o drafodaethau am ohebu rhyfel yn dangos rhagfarn orllewinol. Mae cwestiynau am [[sensoriaeth]] wedi codi, gyda llywodraethau yn ceisio rheoli llif gwybodaeth. Roedd gohebwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, er enghraifft, yn cael eu sensro’n eang, tra oedd y rheini a oedd yn gohebu yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wledydd democrataidd yn cael eu rheoli’n gymedrol, ond yn cael eu sensro’n llym os oeddent yn adrodd i wladwriaethau totalitaraidd.  
 
Mae arferion eraill sy’n gysylltiedig â gohebu yn ystod y rhyfel yn cynnwys rhannu storïau ymhlith carfan o newyddiadurwyr (''press pools'') a [[gohebu mewnblanedig]] (''embedded reporting'') lle y mae newyddiadurwr yn byw gydag unedau milwrol.
+
Mae arferion eraill sy’n gysylltiedig â gohebu yn ystod y rhyfel yn cynnwys rhannu storïau ymhlith carfan o newyddiadurwyr (''press pools'') a [[gohebu mewnblanedig]] (''embedded reporting'') lle y mae [[newyddiadurwr]] yn byw gydag unedau milwrol.
  
Er y portreadwyd rôl y gohebydd rhyfel yn aml fel un rhamantus, mewn gwirionedd mae amrywiaeth o broblemau’n gysylltiedig â newyddiaduraeth rhyfel, megis cyfrifoldeb, gwirionedd a chydbwysedd, ymhlith eraill. Mae gohebu ar adeg o ryfel yn aml yn golygu gweithio o dan amodau cwbl wahanol i unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gwaith newyddion arferol.  
+
Er y portreadwyd rôl y [[gohebydd]] rhyfel yn aml fel un rhamantus, mewn gwirionedd mae amrywiaeth o broblemau’n gysylltiedig â newyddiaduraeth rhyfel, megis cyfrifoldeb, gwirionedd a chydbwysedd, ymhlith eraill. Mae gohebu ar adeg o ryfel yn aml yn golygu gweithio o dan amodau cwbl wahanol i unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gwaith [[newyddion]] arferol.  
  
Mae’r ddelwedd o’r gohebydd rhyfel fel anturiaethwr sy’n cymryd risg, neu’n mentro fel ''daredevil'', heliwr neu dwyllwr, yn un sy’n cael ei chyfleu mewn nofelau, ffilmiau, dramâu, a chynrychioliadau ffuglennol eraill o newyddiaduraeth. Yn yr un modd, mae syniad yn bodoli bod newyddiadurwr rhyfel rywsut yn gwneud gwaith newyddiadurol ‘gwell’, a bod eu profiadau’n fwy dilys, atyniadol, ac yn fwy nodedig na newyddiadurwyr eraill. Ac eto, oherwydd eu hymrwymiad i rywfaint o hunaniaeth genedlaethol, a hyd yn oed gwladgarwch, gall hynny arwain at ambell newyddiadurwr yn newid y ffordd y mae’n mynd ati i newyddiadura. Gall bod yn bleidiol i un ochr olygu bod newyddiadurwr yn dewis geiriau amhriodol, yn anwybyddu persbectif ehangach, yn peidio â dewis delweddau priodol a phenodol, neu hyd yn oed yn golygu bod newyddiadurwr yn gwisgo bathodynnau pleidiol.
+
Mae’r ddelwedd o’r [[gohebydd]] rhyfel fel anturiaethwr sy’n cymryd risg, neu’n mentro fel ''daredevil'', heliwr neu dwyllwr, yn un sy’n cael ei chyfleu mewn nofelau, ffilmiau, dramâu, a chynrychioliadau ffuglennol eraill o newyddiaduraeth. Yn yr un modd, mae syniad yn bodoli bod [[newyddiadurwr]] rhyfel rywsut yn gwneud gwaith newyddiadurol ‘gwell’, a bod eu profiadau’n fwy dilys, atyniadol, ac yn fwy nodedig na newyddiadurwyr eraill. Ac eto, oherwydd eu hymrwymiad i rywfaint o hunaniaeth genedlaethol, a hyd yn oed gwladgarwch, gall hynny arwain at ambell newyddiadurwr yn newid y ffordd y mae’n mynd ati i newyddiadura. Gall bod yn bleidiol i un ochr olygu bod newyddiadurwr yn dewis geiriau amhriodol, yn anwybyddu persbectif ehangach, yn peidio â dewis delweddau priodol a phenodol, neu hyd yn oed yn golygu bod newyddiadurwr yn gwisgo bathodynnau pleidiol.
  
O dan amodau heddychlon, gan amlaf pan welir bod y newyddiadurwr yn ‘rhy agos’ at [[stori]] (h.y. bod y stori’n effeithio arno, ei deulu, ei ffrindiau neu ei gymdogaeth), mae’r [[golygydd]] yn ei dynnu oddi ar y [[stori]]. Nid yw’n cael ei ystyried yn gweithredu’n wrthrychol.
 
Ond mewn rhyfel, os bydd newyddiadurwyr yn dangos ei hun fel rhywun gwladgarol, anaml iawn y cânt eu tynnu oddi ar y stori. Yn hytrach, y disgwyl ymhlith rhai yw y byddant yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu fel newyddiadurwyr gwrthrychol arferol, a chymryd safbwynt mwy gwladgarol.
+
Ond mewn rhyfel, os bydd newyddiadurwyr yn dangos ei hun fel rhywun gwladgarol, anaml iawn y cânt eu tynnu oddi ar y [[stori]]. Yn hytrach, y disgwyl ymhlith rhai yw y byddant yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu fel newyddiadurwyr gwrthrychol arferol, a chymryd safbwynt mwy gwladgarol.
  
Mae gohebydd rhyfel yn wynebu cyfrifoldeb ychwanegol wrth weithio dros adeg o drawma. Mae’n cyflawni sawl rôl (esbonio, [[cyfieithu]] a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd) ar gyfer ei gynulleidfa. O ystyried hyn, nid oedd yn syndod bod cymaint o’r sylw a roddwyd i ymosodiadau 9/11, er enghraifft, yn canolbwyntio ar gwestiwn allweddol trawma a’i ganlyniadau (gweler Zelizer ac Allan 2002).  
 
Llinell 26: Llinell 26:
 
Disgwylir i newyddiadurwyr weithredu mewn sawl ffordd yn ystod rhyfel: bod yn ddigon agos i’r digwyddiad er mwyn ymateb i’r hyn sy’n digwydd, ond yn ddigon pell er mwyn aros yn ddiogel; bod yn ddigon awdurdodol er mwyn darparu gwybodaeth ddibynadwy ac i wirio honiadau cymhleth sy’n datblygu; parhau i amddiffyn hawliau dynol sy’n cael eu tanseilio mewn  rhyfel ond gan fod yn ddigon diduedd er mwyn gweld strategaethau’r sawl sy’n ymladd ar bob ochr bob amser. Mae’r rhain felly yn rhoi awdurdod penodol i’r gohebydd rhyfel fel llygad dyst.
 
Mae’r weithred hon o dystio, o weld calon y stori drostynt eu hunain, yn codi problem ehangach i’r newyddiadurwyr, sef penderfynu beth sy’n cyfrif fel gwirionedd ar faes y gad. Mae bod yno’n awgrymu y bydd y trais, y difrod, y dioddefaint a’r marwolaethau sy’n anochel mewn rhyfel yn cael eu cyfleu’n wahanol rywsut. Ac eto, mae cyfyngiadau gwleidyddol, milwrol, economaidd a thechnolegol, ymhlith cyfyngiadau eraill, yn effeithio ar brofiad y gohebydd yno.
+
Mae’r weithred hon o dystio, o weld calon y [[stori]] drostynt eu hunain, yn codi problem ehangach i’r newyddiadurwyr, sef penderfynu beth sy’n cyfrif fel gwirionedd ar faes y gad. Mae bod yno’n awgrymu y bydd y trais, y difrod, y dioddefaint a’r marwolaethau sy’n anochel mewn rhyfel yn cael eu cyfleu’n wahanol rywsut. Ac eto, mae cyfyngiadau gwleidyddol, milwrol, economaidd a thechnolegol, ymhlith cyfyngiadau eraill, yn effeithio ar brofiad y gohebydd yno.
 
Mae tystiolaeth anecdotaidd o sawl rhyfel yn cefnogi hyn, e.e. pan fo gohebwyr yn methu cael caniatâd i fynd i faes y gad gan y fyddin, neu pan fo camerâu yn torri a ddim yn gweithio, neu pan fo unigolion yn gwrthod siarad. Ar ben hynny, gall synnwyr y newyddiadurwr o ddinasyddiaeth, a hyd yn oed ei wladgarwch, gael ei gwestiynu. Yn rhy aml, mae newyddiadurwyr yn cyfarfod â phobl sydd am wybod: ‘ydych chi gyda ni, neu a ydych yn ein herbyn ni?’ Ar y pwynt hwn, mae newyddiadurwyr unigol yn penderfynu drostynt eu hunain beth yw eu rôl, gan wybod y gallai eu penderfyniad ''ad hoc'' gael goblygiadau dwys ar sut y mae eu cynulleidfaoedd yn dod i ddeall natur y rhyfel a’r canlyniadau i’r dioddefwyr.  
 
==Llyfryddiaeth==
[[Llyfryddiaeth]]
 
Allan, S. a Zelizer, B. (goln) 2004. ''Reporting War: Journalism in Wartime''. Llundain: Routledge.  
 
Allan, S. a Zelizer, B. (goln) 2004. ''Reporting War: Journalism in Wartime''. Llundain: Routledge.  

Y diwygiad cyfredol, am 11:14, 2 Mai 2019

Saesneg: War journalism

Newyddiaduraeth sy’n gysylltiedig â rhyfel ac ymladd. Mae newyddiaduraeth rhyfel wedi bod yn gysylltiedig ag imperialaeth ers amser maith, a datblygodd y gohebydd rhyfel yn arbenigwr am fod papurau newydd Prydain yn dymuno cynnwys adroddiadau o faes y gad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ystod rhyfeloedd mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedi hynny, roedd galw am newyddion amdanynt, felly daeth y math hwn o newyddiaduraeth yn ganolog mewn papurau newydd. Darparwyd yr adroddiadau cynnar gan filwyr neu deithwyr, ond roedd oedi sylweddol wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo’n ôl i’r stafell newyddion ar geffyl neu long, ac roedden nhw’n aml yn anghywir, yn rhy ragfarnllyd ac yn gamarweiniol. Roedd yr angen am newyddiaduraeth fwy gwrthrychol yn dwysáu ac unwaith y’i gwnaed yn bosibl gan y telegraff i adrodd o faes y brwydro pell ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn bosibl i gynnal y math hwn o newyddiaduraeth.

Mae’r ddadl dros bwy oedd y gohebydd rhyfel cyntaf yn mynd yn ei flaen. Ymhlith y rhai cyntaf oedd yr arlunydd o Iseldirwr, Willem van de Velde, a gofnodai wrthdaro morwrol yn y 1650au, Henry Crabb Robinson yn ysgrifennu am Ryfel Iberia yn 1808, gohebwyr Rhyfel Mecsico y 1840au, a William Howard Russell yn gohebu o Ryfel y Crimea (1853–6) ar gyfer The Times. Er bod eu hadroddiadau yn aml yn bleidiol, er hynny, ystyriwyd y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn ‘oes euraidd’ newyddiaduraeth rhyfel (Knightley 1975). Yn sgil dyfodiad radio yn y 1920au a’r 1930au, a’r modd o drosglwyddo lluniau o’r ymladd ar hyd weiren i gydfynd â’r geiriau, daeth gohebu rhyfel yn fwy cyffredin o lawer, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Corea. Cafodd dyfodiad y teledu effaith uniongyrchol ar newyddiadura yn ystod Rhyfel Fietnam a’r rhyfeloedd dilynol.

Mae’r rhan fwyaf o drafodaethau am ohebu rhyfel yn dangos rhagfarn orllewinol. Mae cwestiynau am sensoriaeth wedi codi, gyda llywodraethau yn ceisio rheoli llif gwybodaeth. Roedd gohebwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, er enghraifft, yn cael eu sensro’n eang, tra oedd y rheini a oedd yn gohebu yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wledydd democrataidd yn cael eu rheoli’n gymedrol, ond yn cael eu sensro’n llym os oeddent yn adrodd i wladwriaethau totalitaraidd.

Mae arferion eraill sy’n gysylltiedig â gohebu yn ystod y rhyfel yn cynnwys rhannu storïau ymhlith carfan o newyddiadurwyr (press pools) a gohebu mewnblanedig (embedded reporting) lle y mae newyddiadurwr yn byw gydag unedau milwrol.

Er y portreadwyd rôl y gohebydd rhyfel yn aml fel un rhamantus, mewn gwirionedd mae amrywiaeth o broblemau’n gysylltiedig â newyddiaduraeth rhyfel, megis cyfrifoldeb, gwirionedd a chydbwysedd, ymhlith eraill. Mae gohebu ar adeg o ryfel yn aml yn golygu gweithio o dan amodau cwbl wahanol i unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gwaith newyddion arferol.

Mae’r ddelwedd o’r gohebydd rhyfel fel anturiaethwr sy’n cymryd risg, neu’n mentro fel daredevil, heliwr neu dwyllwr, yn un sy’n cael ei chyfleu mewn nofelau, ffilmiau, dramâu, a chynrychioliadau ffuglennol eraill o newyddiaduraeth. Yn yr un modd, mae syniad yn bodoli bod newyddiadurwr rhyfel rywsut yn gwneud gwaith newyddiadurol ‘gwell’, a bod eu profiadau’n fwy dilys, atyniadol, ac yn fwy nodedig na newyddiadurwyr eraill. Ac eto, oherwydd eu hymrwymiad i rywfaint o hunaniaeth genedlaethol, a hyd yn oed gwladgarwch, gall hynny arwain at ambell newyddiadurwr yn newid y ffordd y mae’n mynd ati i newyddiadura. Gall bod yn bleidiol i un ochr olygu bod newyddiadurwr yn dewis geiriau amhriodol, yn anwybyddu persbectif ehangach, yn peidio â dewis delweddau priodol a phenodol, neu hyd yn oed yn golygu bod newyddiadurwr yn gwisgo bathodynnau pleidiol.

O dan amodau heddychlon, gan amlaf pan welir bod y newyddiadurwr yn ‘rhy agos’ at stori (h.y. bod y stori’n effeithio arno, ei deulu, ei ffrindiau neu ei gymdogaeth), mae’r golygydd yn ei dynnu oddi ar y stori. Nid yw’n cael ei ystyried yn gweithredu’n wrthrychol. Ond mewn rhyfel, os bydd newyddiadurwyr yn dangos ei hun fel rhywun gwladgarol, anaml iawn y cânt eu tynnu oddi ar y stori. Yn hytrach, y disgwyl ymhlith rhai yw y byddant yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu fel newyddiadurwyr gwrthrychol arferol, a chymryd safbwynt mwy gwladgarol.

Mae gohebydd rhyfel yn wynebu cyfrifoldeb ychwanegol wrth weithio dros adeg o drawma. Mae’n cyflawni sawl rôl (esbonio, cyfieithu a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd) ar gyfer ei gynulleidfa. O ystyried hyn, nid oedd yn syndod bod cymaint o’r sylw a roddwyd i ymosodiadau 9/11, er enghraifft, yn canolbwyntio ar gwestiwn allweddol trawma a’i ganlyniadau (gweler Zelizer ac Allan 2002).

Yn dilyn ymosodiadau 9/11, roedd y wasg boblogaidd, ynghyd â chyhoeddiadau ar gyfer newyddiadurwyr, yn cynnwys storïau a oedd yn rhoi sylw i symptomau straen, gyda gohebwyr a oedd yn ei chanol hi yn profi’r straen waethaf. Codwyd cwestiynau nid yn unig ynghylch y ffordd yr oedd trawma yn effeithio ar waith a swyddogaethau newyddiadurol, ond hefyd ar a oedd newyddiadurwyr eu hunain yn gallu cyflawni’r hyn a ddisgwylid ganddynt yn ystod cyfnod o drychineb neu argyfwng.

Yn y bôn, mae gohebu rhyfel yn mynnu bod syniadau o’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ymarfer newyddiadurol da yn cael eu haildrefnu ar sail meini prawf gwahanol nag a fyddai fel arfer yn ymddangos yn briodol; meini prawf sy’n dod i’r wyneb mewn ffordd drawiadol o dan amgylchiadau heriol (gweler Allan a Zelizer 2004, Matheson ac Allan 2009).

Disgwylir i newyddiadurwyr weithredu mewn sawl ffordd yn ystod rhyfel: bod yn ddigon agos i’r digwyddiad er mwyn ymateb i’r hyn sy’n digwydd, ond yn ddigon pell er mwyn aros yn ddiogel; bod yn ddigon awdurdodol er mwyn darparu gwybodaeth ddibynadwy ac i wirio honiadau cymhleth sy’n datblygu; parhau i amddiffyn hawliau dynol sy’n cael eu tanseilio mewn rhyfel ond gan fod yn ddigon diduedd er mwyn gweld strategaethau’r sawl sy’n ymladd ar bob ochr bob amser. Mae’r rhain felly yn rhoi awdurdod penodol i’r gohebydd rhyfel fel llygad dyst.

Mae’r weithred hon o dystio, o weld calon y stori drostynt eu hunain, yn codi problem ehangach i’r newyddiadurwyr, sef penderfynu beth sy’n cyfrif fel gwirionedd ar faes y gad. Mae bod yno’n awgrymu y bydd y trais, y difrod, y dioddefaint a’r marwolaethau sy’n anochel mewn rhyfel yn cael eu cyfleu’n wahanol rywsut. Ac eto, mae cyfyngiadau gwleidyddol, milwrol, economaidd a thechnolegol, ymhlith cyfyngiadau eraill, yn effeithio ar brofiad y gohebydd yno. Mae tystiolaeth anecdotaidd o sawl rhyfel yn cefnogi hyn, e.e. pan fo gohebwyr yn methu cael caniatâd i fynd i faes y gad gan y fyddin, neu pan fo camerâu yn torri a ddim yn gweithio, neu pan fo unigolion yn gwrthod siarad. Ar ben hynny, gall synnwyr y newyddiadurwr o ddinasyddiaeth, a hyd yn oed ei wladgarwch, gael ei gwestiynu. Yn rhy aml, mae newyddiadurwyr yn cyfarfod â phobl sydd am wybod: ‘ydych chi gyda ni, neu a ydych yn ein herbyn ni?’ Ar y pwynt hwn, mae newyddiadurwyr unigol yn penderfynu drostynt eu hunain beth yw eu rôl, gan wybod y gallai eu penderfyniad ad hoc gael goblygiadau dwys ar sut y mae eu cynulleidfaoedd yn dod i ddeall natur y rhyfel a’r canlyniadau i’r dioddefwyr.

Llyfryddiaeth

Allan, S. a Zelizer, B. (goln) 2004. Reporting War: Journalism in Wartime. Llundain: Routledge.

Knightley, P. 1975. The First Casualty. New York and London: Harcourt Brace Jovanovich.

Matheson, D. ac Allan, S. 2009. Digital War Reporting. Cyfres Digital Media and Society. Cambridge: Polity Press.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.