Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Palaeosianel"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: palaeochannel) Sianel neu ddyffryn afonol nad ydyw bellach yn trosglwyddo arllwysiad, nac yn rhan o’r system ddraenio gyfredol. Gall pala...')
 
(nodyn ar y drwydded CC)
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: palaeochannel)
 
(Saesneg: palaeochannel)
  
Sianel neu ddyffryn afonol nad ydyw bellach yn trosglwyddo [[arllwysiad]], nac yn rhan o’r system ddraenio gyfredol. Gall palaeosianeli fodoli fel sianeli sych amlwg ar wyneb y [[gorlifdir]], wedi eu llenwi yn rhannol gyda dyddodion yn ystod [[llifogydd]], neu wedi eu gorchuddio yn llwyr â dyddodion ac i’w gweld fel nodweddion mewn cyfresi dyddodol. Yn aml, datguddir croesdoriadau palaeosianeli wrth i’r afon gyfredol erydu’n ochrol a mudo ar draws y [[gorlifdir]]. Mae cyfuniadau o nodweddion sianel a [[gorlifdir]] fel barrau, dyddodion croniant ochrol (''lateral accretion deposits'') yn gysylltiedig â’r palaeosianeli hyn. Trwy ddefnyddio perthnasau empirig sydd ar gael ar gyfer afonydd y presennol, mae modd defnyddio mesuriadau o nodweddion y palaeosianeli hyn er mwyn amcangyfrif nodweddion eraill ar gyfer palaeosianeli (Williams, 1988). Er enghraifft, trwy ddefnyddio mesuriadau o led yr afon, tonfedd yr ystum, siâp y croestoriad a natur y dyddodion, mae modd amcangyfrif [[arllwysiad cyforlan]] ar gyfer afonydd y gorffennol (i gyfnodau penodol os oes modd defnyddio technegau [[dyddio]] fel [[dyddio radiocarbon]] neu ymoleuedd i ddyddio’r dyddodion). Datblygodd Dury (1977) hafaliadau er mwyn amcangyfrif [[arllwysiad cyforlan]] y gorffennol (Qb) trwy ddefnyddio mesuriadau o led (w) a thonfedd ystumiau (λ) palaeosianeli:
+
Sianel neu ddyffryn afonol nad ydyw bellach yn trosglwyddo [[arllwysiad]], nac yn rhan o’r system ddraenio gyfredol. Gall palaeosianeli fodoli fel sianeli sych amlwg ar wyneb y [[gorlifdir]], wedi eu llenwi yn rhannol gyda dyddodion yn ystod [[llifogydd]], neu wedi eu gorchuddio yn llwyr â dyddodion ac i’w gweld fel nodweddion mewn cyfresi dyddodol. Yn aml, datguddir croesdoriadau palaeosianeli wrth i’r afon gyfredol erydu’n ochrol a mudo ar draws y gorlifdir. Mae cyfuniadau o nodweddion sianel a gorlifdir fel barrau, dyddodion croniant ochrol (''lateral accretion deposits'') yn gysylltiedig â’r palaeosianeli hyn. Trwy ddefnyddio perthnasau empirig sydd ar gael ar gyfer afonydd y presennol, mae modd defnyddio mesuriadau o nodweddion y palaeosianeli hyn er mwyn amcangyfrif nodweddion eraill ar gyfer palaeosianeli (Williams, 1988). Er enghraifft, trwy ddefnyddio mesuriadau o led yr afon, tonfedd yr ystum, siâp y croestoriad a natur y dyddodion, mae modd amcangyfrif [[arllwysiad cyforlan]] ar gyfer afonydd y gorffennol (i gyfnodau penodol os oes modd defnyddio technegau [[dyddio]] fel [[dyddio radiocarbon]] neu ymoleuedd i ddyddio’r dyddodion). Datblygodd Dury (1977) hafaliadau er mwyn amcangyfrif arllwysiad cyforlan y gorffennol (Qb) trwy ddefnyddio mesuriadau o led (w) a thonfedd ystumiau (λ) palaeosianeli:
  
 
Qb = (w/2.99)1.81
 
Qb = (w/2.99)1.81
Llinell 14: Llinell 14:
 
Yn ogystal, gellir asesu faint o ynni oedd ar gael yn y system afonol yn y gorffennol ac a oedd y sianel wedi ei dominyddu gan lwyth crog neu lwyth garw. Trwy edrych ar strwythurau dyddodol y barrau yn y palaeosianeli gellir amcangyfrif cyfeiriad a chyflymder y llif. Gellir amcangyfrif y straen croesrym ar wely’r afon drwy edrych ar ddosbarthiad maint y dyddodion yn ogystal. Mae technegau arsylwi o bell (er enghraifft ''Light Detection and Ranging'' – LiDAR, a radar sy’n treiddio i’r ddaear) yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn adnabod lleoliad paleosianeli a nodweddion fel lled a dyfnder.   
 
Yn ogystal, gellir asesu faint o ynni oedd ar gael yn y system afonol yn y gorffennol ac a oedd y sianel wedi ei dominyddu gan lwyth crog neu lwyth garw. Trwy edrych ar strwythurau dyddodol y barrau yn y palaeosianeli gellir amcangyfrif cyfeiriad a chyflymder y llif. Gellir amcangyfrif y straen croesrym ar wely’r afon drwy edrych ar ddosbarthiad maint y dyddodion yn ogystal. Mae technegau arsylwi o bell (er enghraifft ''Light Detection and Ranging'' – LiDAR, a radar sy’n treiddio i’r ddaear) yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn adnabod lleoliad paleosianeli a nodweddion fel lled a dyfnder.   
  
 +
== Llyfryddiaeth ==
  
Charlton, R (2009) ''Fundamentals of fluvial geomorphology'', Routledge, Abingdon, 223 tt.
+
* Charlton, R (2009) ''Fundamentals of fluvial geomorphology'', Routledge, Abingdon, 223 tt.
  
Dury, G.H. (1977) Underfit streams, retrospect, perspect and prospect, Yn Gregory, K.J. (Gol) ''River Channel Changes'', John Wiley and Sons, Chichester, t. 281-293.
+
* Dury, G.H. (1977) Underfit streams, retrospect, perspect and prospect, Yn Gregory, K.J. (Gol) ''River Channel Changes'', John Wiley and Sons, Chichester, tt. 281–293.
  
Knighton, D. (1998) ''Fluvial forms and processes: a new perspective'', Arnold, Llundain, 376tt.
+
* Knighton, D. (1998) ''Fluvial forms and processes: a new perspective'', Arnold, Llundain, 376 tt.
  
Nash, D.J. (2000) Palaeochannel, In Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) ''The Dictionary of Physical Geography'', Blackwell, Rhydychen, t. 203.
+
* Nash, D.J. (2000) Palaeochannel, In Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) ''The Dictionary of Physical Geography'', Blackwell, Rhydychen, t. 203.
 +
 
 +
 
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Daearyddiaeth]]
 +
 
 +
__NOAUTOLINKS__

Y diwygiad cyfredol, am 15:44, 13 Awst 2014

(Saesneg: palaeochannel)

Sianel neu ddyffryn afonol nad ydyw bellach yn trosglwyddo arllwysiad, nac yn rhan o’r system ddraenio gyfredol. Gall palaeosianeli fodoli fel sianeli sych amlwg ar wyneb y gorlifdir, wedi eu llenwi yn rhannol gyda dyddodion yn ystod llifogydd, neu wedi eu gorchuddio yn llwyr â dyddodion ac i’w gweld fel nodweddion mewn cyfresi dyddodol. Yn aml, datguddir croesdoriadau palaeosianeli wrth i’r afon gyfredol erydu’n ochrol a mudo ar draws y gorlifdir. Mae cyfuniadau o nodweddion sianel a gorlifdir fel barrau, dyddodion croniant ochrol (lateral accretion deposits) yn gysylltiedig â’r palaeosianeli hyn. Trwy ddefnyddio perthnasau empirig sydd ar gael ar gyfer afonydd y presennol, mae modd defnyddio mesuriadau o nodweddion y palaeosianeli hyn er mwyn amcangyfrif nodweddion eraill ar gyfer palaeosianeli (Williams, 1988). Er enghraifft, trwy ddefnyddio mesuriadau o led yr afon, tonfedd yr ystum, siâp y croestoriad a natur y dyddodion, mae modd amcangyfrif arllwysiad cyforlan ar gyfer afonydd y gorffennol (i gyfnodau penodol os oes modd defnyddio technegau dyddio fel dyddio radiocarbon neu ymoleuedd i ddyddio’r dyddodion). Datblygodd Dury (1977) hafaliadau er mwyn amcangyfrif arllwysiad cyforlan y gorffennol (Qb) trwy ddefnyddio mesuriadau o led (w) a thonfedd ystumiau (λ) palaeosianeli:

Qb = (w/2.99)1.81 Qb = (λ/32.86)1.81

Newidiwyd y berthynas uchod er mwyn cael cymarebau o werthoedd y newidynnau yn y gorffennol (llythrennau breision) a’r presennol (llythrennau bychain):

Q/q = (W/w)1.81

Trwy hyn gellir cael syniad uniongyrchol o unrhyw newid rhwng y gorffennol a’r presennol. Wedi dweud hyn, gall fod yn anodd mesur lled ac arwynebedd croesdoriad paleosianeli yn ddigon cywir os nad yw’r palaeosianeli wedi eu cadw’n ddigonol.

Yn ogystal, gellir asesu faint o ynni oedd ar gael yn y system afonol yn y gorffennol ac a oedd y sianel wedi ei dominyddu gan lwyth crog neu lwyth garw. Trwy edrych ar strwythurau dyddodol y barrau yn y palaeosianeli gellir amcangyfrif cyfeiriad a chyflymder y llif. Gellir amcangyfrif y straen croesrym ar wely’r afon drwy edrych ar ddosbarthiad maint y dyddodion yn ogystal. Mae technegau arsylwi o bell (er enghraifft Light Detection and Ranging – LiDAR, a radar sy’n treiddio i’r ddaear) yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn adnabod lleoliad paleosianeli a nodweddion fel lled a dyfnder.

Llyfryddiaeth

  • Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
  • Dury, G.H. (1977) Underfit streams, retrospect, perspect and prospect, Yn Gregory, K.J. (Gol) River Channel Changes, John Wiley and Sons, Chichester, tt. 281–293.
  • Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.
  • Nash, D.J. (2000) Palaeochannel, In Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) The Dictionary of Physical Geography, Blackwell, Rhydychen, t. 203.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.