Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Paparazzi"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Paparazzi'' Term a ddefnyddir i ddynodi ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau neu fideo heb yn wybod i’r person. Maent yn defnyddio tactegau an...')
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 14:02, 31 Gorffennaf 2019

Saesneg: Paparazzi

Term a ddefnyddir i ddynodi ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau neu fideo heb yn wybod i’r person. Maent yn defnyddio tactegau anarferol neu ymwthiol fel arfer. Yn wahanol i ffotonewyddiadurwyr sy’n tynnu lluniau unigolion yn agored, mewn mannau cyhoeddus neu mewn lleoliadau preifat a drefnwyd ymlaen llaw, mae paparazzi yn defnyddio tactegau amheus a llechwraidd er mwyn portreadu pobl, gan amlaf enwogion, sydd wrthi’n gwneud pethau cyffredin fel siopa a bwyta, neu’n gwneud pethau a all beri embaras, fel cweryla’n gyhoeddus.

Mae’r gair paparazzi yn dod o’r Eidaleg. Mae’r term yn tarddu o’r ffilm ‘La dolce vita’ a gyfarwyddwyd gan Frederico Fellini yn 1960. Ynddo ceir hanes newyddiadurwr sy’n gweithio i gylchgrawn clecs (gossip magazine). Erbyn hyn mae paparazzi yn dynodi pob math o ffotograffiaeth diegwyddor ac anfoesegol ledled y byd. Mae’r ras i dynnu delweddau anhygoel o enwogion wedi arwain at densiynau trafferthus rhyngddynt a’r ffotograffwyr hyn. Er enghraifft, tybir bod y Dywysoges Diana wedi cael ei herlid gan baparazzi cyn ei marwolaeth ym Mharis yn 1997.