Parodi

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:31, 31 Mawrth 2017 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio


Trafodwyd parodi yn helaeth gan feirniaid o ddyddiau Aristoteles hyd at theorïwyr diweddar fel Linda Hutcheon a Walter Benjamin. Fe'i hystyrir yn un o elfennau nodweddiadol Ôl-foderniaeth. Mae'r cofnod hwn yn trafod yn bennaf ei ddefnydd fel dyfais lenyddol a diwylliannol yn y cyd-destun Cymraeg.

Efelychiad o destun llenyddol neu gelfyddydol blaenorol yw parodi. Gwneir hyn fel arfer mewn ffordd ddoniol, yn aml er mwyn cael hwyl am ben y gwreiddiol. Parodïwyd soned boblogaidd R. Williams Parry, ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ gan Waldo Williams yn ei gerdd ‘Hoelion’. Roedd y soned wreiddiol yn sôn am gyflwr haniaethol ‘hiraeth’ mewn ffordd ddwys ac aruchel – ‘Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith/ Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn cân.’ Mae’r parodi yn cadw mesur a phatrymau cystrawennol y gwreiddiol, ond yn cyflwyno’r ‘hoelion’ diriaethol mewn cywair chwareus: ‘Mae hoelion mewn parwydydd ac mewn pyst . . . Mewn bocsis sebon – ac ym mhopeth, jyst’.

Gan ei fod yn enghraifft o gyfeiriadaeth ryngdestunol mae parodi yn dibynnu ar gyd-ddealltwriaeth rhwng y parodïwr a'i gynulleidfa. O fewn y gymuned Cymraeg yn y 19g. a'r 20g. roedd poblogrwydd mawr yr emynau Cymraeg a thelynegion Ceiriog ac eraill yn eu gwneud yn dir ffrwythlon ar gyfer eu hailweithio at bwrpas parodi neu ei berthynas agos pastiche. (Honiad cyffredin yw nad yw pastiche yn cynnwys elfennau mor wawdlyd a dychanol â pharodi.) Yn ddiwylliannol roedd hyn yn beth cadarnhaol, yn dyst i ddiwylliant torfol Cymraeg ac yn gallu bod yn ddathliad hwyliog o ffurfiau a thestunau llenyddol annwyl a phoblogaidd. Llunnid parodïau yn fyrfyfyr neu dan amgylchiadau mwy ffurfiol fel cystadleuaeth eisteddfodol.

Poenai Wil Bryan, un o gymeriadau'r nofelydd Daniel Owen, iddo ddigio Duw trwy wneud parodïau o emynau Williams Pantycelyn. Mynegwyd protest wleidyddol yn yr 20g wrth wneud i barodi o un o gerddi enwocaf Ceiriog , 'Nant y Mynydd' gyfeirio at bwnc cronfeydd dŵr yng Nghymru. Yn ôl un fersiwn - 'Nant y mynydd chromium plated/ Yn ymdroelli tua'r taps/ Rhwng y pipes yn sisial ganu/ Byddaf draw yn Lerpwl chwap.' Elwa ar gynhysgaeth ddiwylliannol gyffredin a wneir mewn achosion o'r fath; mae'r un peth ar waith yn siantiau cefnogwyr chwaraeon, ffurf a wna ddefnydd helaeth o barodi. Dynwared dychanol neu ddoniol yw parodi, a gellir meddwl am y perfformiwr o ddynwaredwr (e.e. Emyr 'Himyrs' Roberts) fel parodïwr.

Gall parodi awgrymu hefyd bod y dull a efelychir wedi bwrw ei blwc fel cyfrwng gwreiddiol, ffrwythlon. Gwnaeth R. Williams Parry hyn yn 'Awdl yr Hwyaden', â'i hadleisiau amlwg o'i awdl gynharach lwyddiannus ef ei hun, 'Yr Haf'. Ceir parodi o arddull straeon byrion Kate Roberts a'i hefelychwyr gan Gareth Miles yn ei ddrama Diwedd y Saithdegau. Parodïir iaith ac arddull Caradog Prichard gan Mihangel Morgan yn ei stori fer 'Recsarseis Bŵc'. Mewn achosion fel y rhain mae parodi yn gyfrwng i artist wrthod confensiynau llywodraethol ei ragflaenwyr er mwyn creu gofod i'w lais priodol ei hun.

Ceir hefyd enghreifftiau pur uchelgeisiol i deyrngedu neu i ddychanu trwy efelychu. Pastiche adnewyddol o arddull gynharach ym myd canu poblogaidd a geir ar grynoddisg Saron, Dail y Gaeaf, ynghyd â'r prosiect ehangach yr oedd yn rhan ohono. Dan y nom-de-plume Wynne Ellis cyhoeddodd y bardd Gwynne Williams gyfrol o barodi a pastiche deifiol a chaboledig, sef Cerddi Cwrs y Byd.



Robert Rhys

Llyfryddiaeth

Hutcheon, L. (1985), A Theory of Parody (New York and London: Methuen)

Llwyd, A. gol. (1998), Cerddi R. Williams Parry: y Casgliad Cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee)

Miles, G. (1983), Diwedd y Saithdegau (Penygroes: Cyhoeddiadau Mei)

Morgan, M. (2000), Cathod a Chŵn (Talybont: y Lolfa)

Rose, M.A. (1993), Parody: Ancient, Modern and Post-modern (Cambridge: Cambridge University Press)

Saron (2014), Dail y Gaeaf (Klep Dim Trep) (gw. hefyd http://www.klepdimtrep.com/saron)

'Wynne Ellis' (2000), Cerddi Cwrs y Byd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas)



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.