Rhagataliad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Prior restraint

Ymgais i atal gwybodaeth rhag cael ei datgelu cyn iddi gael ei chyhoeddi. Mae rhagataliad yn digwydd pan fydd y Llywodraeth yn ceisio ymyrryd ac atal cyhoeddi neu ddarlledu eitem newyddion cyn iddo gael ei wneud yn gyhoeddus (yn hytrach na cheisio mynd i gyfraith ar ôl y datgeliad). Fe’i gwelir fel modd o sensoriaeth ac fe’i hystyrir yn rhwystr difrifol i ryddid y wasg (gweler, er enghraifft, Areopagitica gan John Milton a ysgrifennwyd yn 1644) ac yn bur anaml y caiff y rhagataliad ei gyfiawnhau gan y llysoedd. Yn wir, yn Unol Daleithiau’r America, mae’r Goruchaf Lys fel rheol yn ystyried rhagataliad i fod yn anghyfansoddiadol. (O’r herwydd, penderfynwyd caniatáu cyhoeddi Papurau Pentagon yn 1971, er enghraifft). Heddiw, gall rhagataliad fod ar ffurf gwaharddeb neu, yn fwy cyffredin, yn fygythiad o waharddeb.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.