Rhys-Evans, Tim (g.1972)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arweinydd, sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd y corau Only Men Aloud ac Only Boys Aloud. Bu Rhys-Evans hefyd ynghlwm â sefydlu Only Kids Aloud yn 2012. Yn enedigol o Dredegar, bu’n athro lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am gyfnod. Cyn sefydlu Only Men Aloud, bu’n arwain corau meibion y Black Mountain Male Chorus of Wales a chôr meibion Dynfant. Cychwynnodd Only Men Aloud yn 2006, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe ddaethant i sylw cenedlaethol gan ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Last Choir Standing. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n sianelu’r rhan fwyaf o’i egni at weithgaredd Only Boys Aloud, ac fe dderbyniodd MBE yn 2013 am ei waith diflino wrth godi arian ar gyfer achosion da.

Disgyddiaeth

gydag Only Men Aloud:

  • Band of Brothers (Decca 2712706, 2009)
  • Live From Wales (Denon COZ17785, 2010)
  • In Festive Mood (OMA Records OMACD1, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.