Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhys Ifans"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(DEFAULTSORT (trefnu yn y categori ôl cyfenw))
(categori newydd: Categori:Ffilm a Theledu Cymru)
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd Rhys Ifans yn Hwlffordd ar 22 Gorffennaf 1968, yn fab i'r athrawon Eurwyn a Beti Wyn - y naill o Nefyn a'r llall o Hermon, Sir Benfro. Yn dilyn cyfnod o fyw ger Crymych symudodd y teulu - gan gynnwys ei frawd bach Llyr- i Ruthun. Daeth y teulu'n aelodau blaenllaw o Gwmni Theatr Rhuthun, ac yn dilyn sefydlu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, bwriodd Rhys ei brentisiaeth ar lwyfan y theatr ieuenctid leol.
+
Ganwyd '''Rhys Ifans''' yn Hwlffordd ar 22 Gorffennaf 1968, yn fab i’r athrawon Eurwyn a Beti Wyn, y naill o Nefyn a’r llall o Hermon, Sir Benfro. Yn dilyn cyfnod o fyw ger Crymych symudodd y teulu gan gynnwys ei frawd bach Llyr i Ruthun. Daeth y teulu’n aelodau blaenllaw o Gwmni Theatr Rhuthun, ac yn dilyn sefydlu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, bwriodd Rhys ei brentisiaeth ar lwyfan y theatr ieuenctid leol.
  
Arhosodd yn Ysgol Maes Garmon tan y chweched dosbarth, ac yn ddeunaw oed, aeth i Lundain i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, gan ddychwelyd i Gymru i gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol ar S4C, gan gynnwys y cyfresi Swig O ... a ''Pobol Y Chyff'' ddechrau’r nawdegau, ''Sdwnsh'' (1990); ''Mwy Na Phapur Newydd'' (1991); ''Rhag Pob Brad'' (1994); ''Tydi Coleg yn Grêt'' (1995).
+
Arhosodd yn Ysgol Maes Garmon tan y chweched dosbarth, ac yn ddeunaw oed, aeth i Lundain i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, gan ddychwelyd i Gymru i gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol ar S4C, gan gynnwys y cyfresi ''Swig O ...'' a ''Pobol Y Chyff'' ddechrau’r nawdegau, ''Sdwnsh'' (1990); ''Mwy Na Phapur Newydd'' (1991); ''Rhag Pob Brad'' (1994); ''Tydi Coleg yn Grêt'' (1995).
  
Ym 1996, yn dilyn perfformiad trawiadol ar y cyd â Helen McCrory yn ''Streetlife'' gan Karl Francis i BBC Cymru, cafodd ran fechan yn y ffilm ''August'' dan gyfarwyddwyd Anthony Hopkins.
+
Ym 1996, yn dilyn perfformiad trawiadol ar y cyd â Helen McCrory yn ''Streetlife'' gan [[Karl Francis]] i BBC Cymru, cafodd ran fechan yn y ffilm ''August'' dan gyfarwyddwyd Anthony Hopkins.
  
 
Flwyddyn yn ddiweddarach, serennodd Rhys a’i frawd Llyr fel yr efeilliaid Jeremy a Julian Lewis yn y ffefryn cwlt ''Twin Town'', ac yn dilyn hynny cafodd ran flaenllaw fel dihiryn yn y gyfres dditectif ''Trial and Retribution'' ar ITV, a rhannau bychain yn y ffilmiau ''Dancing at Lughnasa'' (1998) gyda Meryl Streep, a ''Heart'' (1999) gan yr awdur nodedig Jimmy McGovern, yng nghwmni Christopher Eccleston a Matthew Rhys.
 
Flwyddyn yn ddiweddarach, serennodd Rhys a’i frawd Llyr fel yr efeilliaid Jeremy a Julian Lewis yn y ffefryn cwlt ''Twin Town'', ac yn dilyn hynny cafodd ran flaenllaw fel dihiryn yn y gyfres dditectif ''Trial and Retribution'' ar ITV, a rhannau bychain yn y ffilmiau ''Dancing at Lughnasa'' (1998) gyda Meryl Streep, a ''Heart'' (1999) gan yr awdur nodedig Jimmy McGovern, yng nghwmni Christopher Eccleston a Matthew Rhys.
Llinell 11: Llinell 11:
 
Yn sgil hynny llwyddodd i gydbwyso rhannau mewn ffilmiau cymharol fach - gan gynnwys ''Janice Beard 45WPM'' (1999); ''Rancid Aluminium'' (1999); ''Once Upon a Time in the Midlands'' (2002) a ''Danny Deckchair'' (2003) gyda nifer cynyddol o ffilmiau mwy ac Americanaidd, fel ''Little Nicky'' (2000); ''The Shipping News'' (2001), a ffefryn personol iddo, ''Human Nature'' (2001), gan y cyfarwyddwr Michel Gondry a sgript gan Charlie Kaufman.
 
Yn sgil hynny llwyddodd i gydbwyso rhannau mewn ffilmiau cymharol fach - gan gynnwys ''Janice Beard 45WPM'' (1999); ''Rancid Aluminium'' (1999); ''Once Upon a Time in the Midlands'' (2002) a ''Danny Deckchair'' (2003) gyda nifer cynyddol o ffilmiau mwy ac Americanaidd, fel ''Little Nicky'' (2000); ''The Shipping News'' (2001), a ffefryn personol iddo, ''Human Nature'' (2001), gan y cyfarwyddwr Michel Gondry a sgript gan Charlie Kaufman.
  
Yna yn 2004, denodd glod beirniadol gyda dwy ran drawiadol; y gyntaf fel Jed, stelciwr cymeriad Daniel Craig yn addasiad Roger Michell o’r nofel ''Enduring Love'' gan Ian McEwan, ac yna perfformiad trydanol a enillodd wobr BAFTA iddo am yr actor gorau yn nramateiddiad BBC4 o fywyd Peter Cook - ''Not Only But Always''.
+
Yna yn 2004, denodd glod beirniadol gyda dwy ran drawiadol; y gyntaf fel Jed, stelciwr cymeriad Daniel Craig yn addasiad Roger Michell o’r nofel ''Enduring Love'' gan Ian McEwan, ac yna perfformiad trydanol a enillodd wobr BAFTA iddo am yr actor gorau yn nramateiddiad BBC4 o fywyd Peter Cook ''Not Only But Always''.
  
Ers hynny, mae’n gweithio’n gyson mewn gwanhaol gyfryngau, gan gynnwys perfformiad cofiadwy fel Huw, y ffarmwr unig sy'n gymysg oll i gyd yn ffilm fer Hugo Blick, ''Six Days One June'' fel rhan o gyfres o fonologau ar BBC2 yn 2008.
+
Ers hynny, mae’n gweithio’n gyson mewn gwanhaol gyfryngau, gan gynnwys perfformiad cofiadwy fel Huw, y ffarmwr unig sy’n gymysg oll i gyd yn ffilm fer Hugo Blick, ''Six Days One June'' fel rhan o gyfres o fonologau ar BBC2 yn 2008.
  
Ymhlith ei gynyrchiadau ffilm diweddar mwyaf nodedig y mae ''Chromophobia'' (2005); ''Hannibal'' (2007); ''Elizabeth: The Golden Age'' (2007); ''The Boat That Rocked'' (2009); ''Nanny McPhee and the Big Bang'' (2010); ''Greenberg'' (2010) a ''Mr Nice'' (2010), gyda’r cynyrchiadau ''Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1''; ''Passion Play'' ac ''Anonymous'' yn debyg o gael eu rhyddhau ddiwedd 2010 a dechrau 2011.
+
Ymhlith ei gynyrchiadau ffilm diweddar mwyaf nodedig y mae ''Chromophobia'' (2005); ''Hannibal Rising'' (2007); ''Elizabeth: The Golden Age'' (2007); ''The Boat That Rocked'' (2009); ''Nanny McPhee and the Big Bang'' (2010); ''Greenberg'' (2010) a ''Mr Nice'' (2010), gyda’r cynyrchiadau ''Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1''; ''Passion Play'' ac ''Anonymous'' yn debyg o gael eu rhyddhau ddiwedd 2010 a dechrau 2011.
  
 
Mae ganddo hefyd gysylltiadau â’r diwydiant roc a phop. Ef oedd lleisydd gwreiddiol gyda’r ''Super Furry Animals'', ond penderfynodd adael y band yn gynnar yn eu gyrfa i ganolbwyntio ar ei waith actio. Bu'n actio mewn sawl fideo bop, gan gynnwys ''Mulder and Scully'' gan Catatonia ym 1998 a ''The Importance of Being Idle'' gan Oasis yn 2005. Sefydlodd ei fand The Peth, a chafwyd taith lwyddiannus ledled Cymru a Lloegr i gyd-fynd â rhyddhau ei albwm gyntaf ''The Golden Mile'' yn 2008. Disgwylir i’r ail albwm gael ei rhyddhau yn 2011.
 
Mae ganddo hefyd gysylltiadau â’r diwydiant roc a phop. Ef oedd lleisydd gwreiddiol gyda’r ''Super Furry Animals'', ond penderfynodd adael y band yn gynnar yn eu gyrfa i ganolbwyntio ar ei waith actio. Bu'n actio mewn sawl fideo bop, gan gynnwys ''Mulder and Scully'' gan Catatonia ym 1998 a ''The Importance of Being Idle'' gan Oasis yn 2005. Sefydlodd ei fand The Peth, a chafwyd taith lwyddiannus ledled Cymru a Lloegr i gyd-fynd â rhyddhau ei albwm gyntaf ''The Golden Mile'' yn 2008. Disgwylir i’r ail albwm gael ei rhyddhau yn 2011.
  
Yn ogystal â gwaith ffilm, mae wedi perfformio’n helaeth ar lwyfan, gan gynnwys cynyrchiadau Hamlet a ''The Government Inspector'' (1986) yn Theatr Clwyd; ''Midsummer Night’s Dream'' yn theatr agored Regent’s Park (1992); ''Poison Pen'' a ''Smoke'' yn The Royal Exchange ym Manceinion (1993); ''Theyestes'' yn y Royal Court (1994) a ''Beautiful Thing'' yn y Duke of York Theatre (1994); ''Under Milk Wood'' a Valpone yn y National Theatre (1995); yna ''Badfinger'' (1997); ''Accidental Death of an Anarchist'' (2003) a ''Don Juan in Soho'' (2006) yn y Donmar Warehouse.
+
Yn ogystal â gwaith ffilm, mae wedi perfformio’n helaeth ar lwyfan, gan gynnwys cynyrchiadau Hamlet a ''The Government Inspector'' (1986) yn Theatr Clwyd; ''A Midsummer Night’s Dream'' yn theatr agored Regent’s Park (1992); ''Poison Pen'' a ''Smoke'' yn The Royal Exchange ym Manceinion (1993); ''Theyestes'' yn y Royal Court (1994) a ''Beautiful Thing'' yn y Duke of York Theatre (1994); ''Under Milk Wood'' a ''Volpone'' yn y National Theatre (1995); yna ''Badfinger'' (1997); ''Accidental Death of an Anarchist'' (2003) a ''Don Juan in Soho'' (2006) yn y Donmar Warehouse.
  
 
''Bywgraffiad gan Lowri Cooke''.
 
''Bywgraffiad gan Lowri Cooke''.
  
 
{{DEFAULTSORT:Ifans, Rhys}}
 
{{DEFAULTSORT:Ifans, Rhys}}
[[Categori:Yn y Ffrâm]]
+
[[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]]
[[Categori:Bywgraffiadau]]
+
[[Categori:Actorion]]
  
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__

Y diwygiad cyfredol, am 11:01, 25 Gorffennaf 2014

Ganwyd Rhys Ifans yn Hwlffordd ar 22 Gorffennaf 1968, yn fab i’r athrawon Eurwyn a Beti Wyn, y naill o Nefyn a’r llall o Hermon, Sir Benfro. Yn dilyn cyfnod o fyw ger Crymych symudodd y teulu – gan gynnwys ei frawd bach Llyr – i Ruthun. Daeth y teulu’n aelodau blaenllaw o Gwmni Theatr Rhuthun, ac yn dilyn sefydlu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, bwriodd Rhys ei brentisiaeth ar lwyfan y theatr ieuenctid leol.

Arhosodd yn Ysgol Maes Garmon tan y chweched dosbarth, ac yn ddeunaw oed, aeth i Lundain i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, gan ddychwelyd i Gymru i gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol ar S4C, gan gynnwys y cyfresi Swig O ... a Pobol Y Chyff ddechrau’r nawdegau, Sdwnsh (1990); Mwy Na Phapur Newydd (1991); Rhag Pob Brad (1994); Tydi Coleg yn Grêt (1995).

Ym 1996, yn dilyn perfformiad trawiadol ar y cyd â Helen McCrory yn Streetlife gan Karl Francis i BBC Cymru, cafodd ran fechan yn y ffilm August dan gyfarwyddwyd Anthony Hopkins.

Flwyddyn yn ddiweddarach, serennodd Rhys a’i frawd Llyr fel yr efeilliaid Jeremy a Julian Lewis yn y ffefryn cwlt Twin Town, ac yn dilyn hynny cafodd ran flaenllaw fel dihiryn yn y gyfres dditectif Trial and Retribution ar ITV, a rhannau bychain yn y ffilmiau Dancing at Lughnasa (1998) gyda Meryl Streep, a Heart (1999) gan yr awdur nodedig Jimmy McGovern, yng nghwmni Christopher Eccleston a Matthew Rhys.

Hefyd ym 1999 rhyddhawyd Notting Hill gyda Hugh Grant a Julia Roberts yn y prif rannau, ond cymeriad Spike a’i drôns blêr greodd yr argraff fwyaf, gan gyflwyno Ifans i gynulleidfa ryngwladol ac i sylw cynhyrchwyr dylanwadol.

Yn sgil hynny llwyddodd i gydbwyso rhannau mewn ffilmiau cymharol fach - gan gynnwys Janice Beard 45WPM (1999); Rancid Aluminium (1999); Once Upon a Time in the Midlands (2002) a Danny Deckchair (2003) gyda nifer cynyddol o ffilmiau mwy ac Americanaidd, fel Little Nicky (2000); The Shipping News (2001), a ffefryn personol iddo, Human Nature (2001), gan y cyfarwyddwr Michel Gondry a sgript gan Charlie Kaufman.

Yna yn 2004, denodd glod beirniadol gyda dwy ran drawiadol; y gyntaf fel Jed, stelciwr cymeriad Daniel Craig yn addasiad Roger Michell o’r nofel Enduring Love gan Ian McEwan, ac yna perfformiad trydanol a enillodd wobr BAFTA iddo am yr actor gorau yn nramateiddiad BBC4 o fywyd Peter Cook – Not Only But Always.

Ers hynny, mae’n gweithio’n gyson mewn gwanhaol gyfryngau, gan gynnwys perfformiad cofiadwy fel Huw, y ffarmwr unig sy’n gymysg oll i gyd yn ffilm fer Hugo Blick, Six Days One June fel rhan o gyfres o fonologau ar BBC2 yn 2008.

Ymhlith ei gynyrchiadau ffilm diweddar mwyaf nodedig y mae Chromophobia (2005); Hannibal Rising (2007); Elizabeth: The Golden Age (2007); The Boat That Rocked (2009); Nanny McPhee and the Big Bang (2010); Greenberg (2010) a Mr Nice (2010), gyda’r cynyrchiadau Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1; Passion Play ac Anonymous yn debyg o gael eu rhyddhau ddiwedd 2010 a dechrau 2011.

Mae ganddo hefyd gysylltiadau â’r diwydiant roc a phop. Ef oedd lleisydd gwreiddiol gyda’r Super Furry Animals, ond penderfynodd adael y band yn gynnar yn eu gyrfa i ganolbwyntio ar ei waith actio. Bu'n actio mewn sawl fideo bop, gan gynnwys Mulder and Scully gan Catatonia ym 1998 a The Importance of Being Idle gan Oasis yn 2005. Sefydlodd ei fand The Peth, a chafwyd taith lwyddiannus ledled Cymru a Lloegr i gyd-fynd â rhyddhau ei albwm gyntaf The Golden Mile yn 2008. Disgwylir i’r ail albwm gael ei rhyddhau yn 2011.

Yn ogystal â gwaith ffilm, mae wedi perfformio’n helaeth ar lwyfan, gan gynnwys cynyrchiadau Hamlet a The Government Inspector (1986) yn Theatr Clwyd; A Midsummer Night’s Dream yn theatr agored Regent’s Park (1992); Poison Pen a Smoke yn The Royal Exchange ym Manceinion (1993); Theyestes yn y Royal Court (1994) a Beautiful Thing yn y Duke of York Theatre (1994); Under Milk Wood a Volpone yn y National Theatre (1995); yna Badfinger (1997); Accidental Death of an Anarchist (2003) a Don Juan in Soho (2006) yn y Donmar Warehouse.

Bywgraffiad gan Lowri Cooke.