Sam Tân

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:17, 1 Awst 2014 gan YnYFfram (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd erioed i blant oed meithrin, o fewn unrhyw genre. Cychwynnodd dros 25 mlynedd yn ôl, a mae wedi ei dangos ledled y byd. Mae'n olrhain hanes Sam y dyn tân a'i gyfeillion, yn blant ac oedolion, ym mhentref cyfeillgar Pontypandy yng nghymoedd De Cymru (o'r chweched gyfres ymlaen , symudwyd y pentref i lan y môr). Fe'i crëwyd yn wreiddiol gan ddau swyddog tân, ac mae negeseuon diogelwch yn rhan annatod ohoni, ond heb amharu ar hwyl y straeon bywiog. Fe'i cynhyrchwyd yn y Gymraeg a Saesneg o'r cychwyn cyntaf, gan dderbyn ei llwyddiant gwreiddiol yn yr 1980au hwyr/1990au cynnar: animeiddiwyd pedair cyfres bryd hynny drwy ddull stop-symud gyda modelau. Fe'i hatgyfodwyd yn 2003 gan ddefnyddio cyfuniad o animeiddio stop-symud a rhai elfennau cyfrifiadurol. O 2008 fe'i hanimeiddiwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur, ac yn Llundain a China y'i cynhyrchir bellach.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol Sam Tân

Teitl amgen Fireman Sam

Blwyddyn 1985 hyd heddiw

Hyd Penodau/Cyfresi

  • 8 Pennod 10 munud (cyfresi 1-4, + un bennod 20 munud ychwanegol yng nghyfres 3)
  • 26 Pennod 10 munud (cyfresi 5-8)

Darlledwyr

  • S4C (Cymraeg)
  • BBC One/BBC Two (Saesneg, cyfresi 1-4)
  • BBC Two/CBeebies (Saesneg, cyfres 5)
  • CITV/Channel 5 (Saesneg, cyfres 6 hyd heddiw)

Dyddiad y Darllediad Cyntaf

  • Rhagfyr 1985 (Cymraeg)
  • 17 Tachwedd 1987 (Saesneg)

Cyfarwyddwr

  • John Walker (cyfresi 1-4)
  • Ian Frampton (cyfresi 3 - 4)
  • Jerry Hibbert (cyfresi 6-7)
  • Gary Andrews (cyfres 8)

Prif Animeiddiwr / Cyfarwyddwr Animeiddio

  • John Walker (cyfresi 1-4)
  • George Laban (cyfres 4)
  • Brian Anderson (cyfresi 3-4)
  • Timon Dowdswell (cyfres 5)
  • Gary Andrews (cyfresi 6-7)
  • Laura DiMaio (cyfres 6)
  • Zhaoquin Zhai (cyfres 8)
  • Jane Ma (cyfres 8)

Sgript gan

  • Nia Ceidiog (cyfresi 1-4)
  • Robin Lyons (cyfres 5)
  • Andrew Brenner (cyfresi 6-7)
  • Laura Beaumont (cyfres 8)
  • Rosanne Reeves (fersiwn Gymraeg, cyfresi 6-8)

Stori gan Dave Gingell a Dave Jones gyda chymorth Mike Young (syniad gwreiddiol)

Cynhyrchwyr

  • Ian Frampton, John Walker (cyfresi 1 - 4)
  • Philip Evans (is-gynhyrchydd, cyfres 3)
  • Robin Lyons (cyfres 5)
  • Simon Quinn (cynhyrchydd gweithredol, cyfres 5)
  • Margo Marchant, Lesley Sawl (cyfres 6 - 7)
  • Jen Upton (cynhyrchydd arolygol, cyfresi 6-7)
  • Lisa Pacheco (cyfres 8)
  • Jo Aslett (is-gynhyrchydd, cyfres 8)

Uwch-gynhyrchwyr

  • Christopher Grace, Theresa Plummer-Andrews (cyfresi 3-4)
  • Anna Home (S4Ci), Siwan Jobbins (S4C), Jocelyn Stevenson (HiT) (cyfres 5)
  • Christopher Skala (cyfresi 6-7)
  • Marion Edwards (HiT), Siân Eirian (S4C) (cyfres 8)

Cwmnïau Cynhyrchu

  • Bumper Films (cyfresi 1-4)
  • Siriol Productions (cyfres 5)
  • HiT Entertainment & Xing Xing Digital Corp. (cyfresi 6 - 8)
  • Atsain/Rondo (fersiwn Cymraeg, cyfresi 6-8)

Techneg Animeiddio

  • Animeiddio stop-symud (cyfresi 1-5)
  • Animeiddio cyfrifiadurol (cyfresi 6-8)