Sam Tân

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd erioed i blant oed meithrin, o fewn unrhyw genre. Cychwynnodd dros 25 mlynedd yn ôl, a mae wedi ei dangos ledled y byd. Mae'n olrhain hanes Sam y dyn tân a'i gyfeillion, yn blant ac oedolion, ym mhentref cyfeillgar Pontypandy yng nghymoedd De Cymru (o'r chweched gyfres ymlaen , symudwyd y pentref i lan y môr). Fe'i crëwyd yn wreiddiol gan ddau swyddog tân, ac mae negeseuon diogelwch yn rhan annatod ohoni, ond heb amharu ar hwyl y straeon bywiog. Fe'i cynhyrchwyd yn y Gymraeg a Saesneg o'r cychwyn cyntaf, gan dderbyn ei llwyddiant gwreiddiol yn yr 1980au hwyr/1990au cynnar: animeiddiwyd pedair cyfres bryd hynny drwy ddull stop-symud gyda modelau. Fe'i hatgyfodwyd yn 2003 gan ddefnyddio cyfuniad o animeiddio stop-symud a rhai elfennau cyfrifiadurol. O 2008 fe'i hanimeiddiwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur, ac yn Llundain a China y'i cynhyrchir bellach.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol Sam Tân

Teitl amgen Fireman Sam

Blwyddyn 1985 hyd heddiw

Hyd Penodau/Cyfresi

  • 8 Pennod 10 munud (cyfresi 1-4, + un bennod 20 munud ychwanegol yng nghyfres 3)
  • 26 Pennod 10 munud (cyfresi 5-8)

Darlledwyr

  • S4C (Cymraeg)
  • BBC One/BBC Two (Saesneg, cyfresi 1-4)
  • BBC Two/CBeebies (Saesneg, cyfres 5)
  • CITV/Channel 5 (Saesneg, cyfres 6 hyd heddiw)

Dyddiad y Darllediad Cyntaf

  • Rhagfyr 1985 (Cymraeg)
  • 17 Tachwedd 1987 (Saesneg)

Cyfarwyddwr

  • John Walker (cyfresi 1-4)
  • Ian Frampton (cyfresi 3 - 4)
  • Jerry Hibbert (cyfresi 6-7)
  • Gary Andrews (cyfres 8)

Prif Animeiddiwr / Cyfarwyddwr Animeiddio

  • John Walker (cyfresi 1-4)
  • George Laban (cyfres 4)
  • Brian Anderson (cyfresi 3-4)
  • Timon Dowdswell (cyfres 5)
  • Gary Andrews (cyfresi 6-7)
  • Laura DiMaio (cyfres 6)
  • Zhaoquin Zhai (cyfres 8)
  • Jane Ma (cyfres 8)

Sgript gan

  • Nia Ceidiog (cyfresi 1-4)
  • Robin Lyons (cyfres 5)
  • Andrew Brenner (cyfresi 6-7)
  • Laura Beaumont (cyfres 8)
  • Rosanne Reeves (fersiwn Gymraeg, cyfresi 6-8)

Stori gan Dave Gingell a Dave Jones gyda chymorth Mike Young (syniad gwreiddiol)

Cynhyrchwyr

  • Ian Frampton, John Walker (cyfresi 1 - 4)
  • Philip Evans (is-gynhyrchydd, cyfres 3)
  • Robin Lyons (cyfres 5)
  • Simon Quinn (cynhyrchydd gweithredol, cyfres 5)
  • Margo Marchant, Lesley Sawl (cyfres 6 - 7)
  • Jen Upton (cynhyrchydd arolygol, cyfresi 6-7)
  • Lisa Pacheco (cyfres 8)
  • Jo Aslett (is-gynhyrchydd, cyfres 8)

Uwch-gynhyrchwyr

  • Christopher Grace, Theresa Plummer-Andrews (cyfresi 3-4)
  • Anna Home (S4Ci), Siwan Jobbins (S4C), Jocelyn Stevenson (HiT) (cyfres 5)
  • Christopher Skala (cyfresi 6-7)
  • Marion Edwards (HiT), Siân Eirian (S4C) (cyfres 8)

Cwmnïau Cynhyrchu

  • Bumper Films (cyfresi 1-4)
  • Siriol Productions (cyfres 5)
  • HiT Entertainment & Xing Xing Digital Corp. (cyfresi 6 - 8)
  • Atsain/Rondo (fersiwn Cymraeg, cyfresi 6-8)

Techneg Animeiddio

  • Animeiddio stop-symud (cyfresi 1-5)
  • Animeiddio cyfrifiadurol (cyfresi 6-8)


Cast a Chriw

Prif Gast - fersiwn Gymraeg

  • Gareth Lewis (cyfresi 1-4)
  • Richard Elfyn (cyfresi 6-8)
  • Ceri Tudno (cyfresi 6-8)
  • Geraint Todd (cyfresi 6-8)
  • Ceri Mill (cyfresi 6-8)

Ffotograffiaeth

  • dim cydnabyddiaeth perthnasol yng nghlodrestr cyfresi 1-4
  • Christine Vestergaard (cyfarwyddwraig ffotograffiaeth, cyfres 5)
  • James Lewis, Richard Whiteford (cynorthwywyr camera goleuo, cyfres 5)
  • Matthew Ktcat (cefnogaeth dechnegol camera, cyfres 5)

Celf - Dylunio Setiau, Modelau, Cerbydau, Gwisgoedd, Graffeg, Propiau

  • Beverly Knowlden (setiau, cyfresi 1-4)
  • Linda Thodesen (setiau, cyfresi 1-2, modelau, cyfresi 3-4)
  • Janice Shakespeare (setiau, cyfres 3)
  • Barry Zafar (setiau, cyfres 3)
  • George Laban (modelau, cyfres 4)
  • Nikita Mitchell (modelau, cyfres 4)
  • Alison Paling (modelau, cyfres 4)
  • Brian Anderson (cerbydau, cyfresi 1-4)
  • Alun Jones (cerbydau, cyfresi 3-4)
  • Tim Farrington (cyfarwyddwr celf, setiau a dylunio cerbydau, cyfres 5)
  • Holly Beck (gwisgwr set a chyfarwyddo celf, cyfres 5)
  • Simon Griffiths, Marcus Stephens (dylunio graffeg, cyfres 5)
  • Kim Burdon (cyfarwyddwr celf, cyfresi 6-7)
  • Peter Mays (cynllunudd propiau, cyfresi 6-7)

Cerddoriaeth

  • Ben Heneghan, Ian Lawson (cerddoriaeth, cyfresi 1 - 5, cerddoriaeth y gân agoriadol, pob cyfres)
  • Robin Lyons (geiriau'r gân agoriadol, pob cyfres)
  • David Pickvance (cerddoriaeth, cyfresi 6-8)
  • Euros Rhys (cyfarwyddwr cerdd y fersiwn Gymraeg, cyfresi 6-7)
  • Rosanne Reeves (geiriau Cymraeg y gân agoriadol, cyfresi 5-8)
  • Maldwyn Pope (canwr, cyfresi 1-4)
  • Steffan Rhys Williams (canwr, cyfresi 5-8)

Sain