Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Saunders, Gwenno (g.1981)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Llinell 6: Llinell 5:
 
Flwyddyn yn ddiweddarach ymunodd â’r triawd pop retro-indie benywaidd The Pipettes, grŵp a ysbrydolwyd gan recordiau y cynhyrchydd Phil Spector gyda grwpiau benywaidd o’r 1960au megis The Ronettes a The Crystals. Bu’n aelod o’r grŵp hyd at 2010, gan ganu prif lais ar ‘Pull Shapes’, eu sengl fwyaf poblogaidd. Yn 2008, daeth ei chwaer y gantores Ani Glass, hefyd yn aelod.
 
Wedi cyfnod o deithio gydag artistiaid megis y ddeuawd electronaidd Pnau ac Elton John, rhyddhaodd Gwenno albwm cysyniad synth-pop yn 2014 o’r enw ''Y Dydd Olaf''. Gan gymryd y teitl o nofel ddyfodolaidd Owain Owain ynglŷn â grym globalyddiaeth a thechnoleg yr oes ôl-fodern, ac wedi ei gynhyrchu gan ei phartner Rhys Edwards (gynt o Jakakoyak), derbyniodd ''Y Dydd Olaf'' adolygiadau hynod ffafriol, gyda Laura Snapes o’r ''Guardian'' yn datgan fod swyn oesol yn perthyn iddo: ‘only a minority will understand this very modern protest album, but its motorik spin and soft synths recall Broadcast and Chromatics, and shimmer with universal magic’ (Snapes 2015).
+
Wedi cyfnod o deithio gydag artistiaid megis y ddeuawd electronaidd Pnau ac Elton John, rhyddhaodd Gwenno albwm cysyniad synth-pop yn 2014 o’r enw ''Y Dydd Olaf''. Gan gymryd y teitl o [[nofel]] ddyfodolaidd Owain Owain ynglŷn â grym globalyddiaeth a thechnoleg yr oes ôl-fodern, ac wedi ei gynhyrchu gan ei phartner Rhys Edwards (gynt o Jakakoyak), derbyniodd ''Y Dydd Olaf'' adolygiadau hynod ffafriol, gyda Laura Snapes o’r ''Guardian'' yn datgan fod swyn oesol yn perthyn iddo: ‘only a minority will understand this very modern protest album, but its motorik spin and soft synths recall Broadcast and Chromatics, and shimmer with universal magic’ (Snapes 2015).
 
'''
 
'''
 
Pwyll ap Siôn'''
 
Pwyll ap Siôn'''

Diwygiad 23:17, 25 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores a fu’n gweithio’n bennaf ym maes canu pop amgen electronaidd. Ganed yng Nghaerdydd. Yn ferch i’r bardd Cernyweg a’r ieithydd Tim Saunders, roedd Gwenno yn rhugl mewn Cymraeg a Chernyweg. Pan yn ifanc derbyniodd hyfforddiant yn academi ddawns Iwerddon gan ddod yn rhan o gynhyrchiad Michael Flatley Lord Of The Dance. Yn ei hugeiniau cynnar daeth i sylw Rhys Mwyn, gan ryddhau y sengl ‘Môr Hud’ yn 2002 ar label Crai a chydweithio gyda Llwybr Llaethog yn 2004 ar y gân Gernyweg ‘Vodya.’

Flwyddyn yn ddiweddarach ymunodd â’r triawd pop retro-indie benywaidd The Pipettes, grŵp a ysbrydolwyd gan recordiau y cynhyrchydd Phil Spector gyda grwpiau benywaidd o’r 1960au megis The Ronettes a The Crystals. Bu’n aelod o’r grŵp hyd at 2010, gan ganu prif lais ar ‘Pull Shapes’, eu sengl fwyaf poblogaidd. Yn 2008, daeth ei chwaer y gantores Ani Glass, hefyd yn aelod.

Wedi cyfnod o deithio gydag artistiaid megis y ddeuawd electronaidd Pnau ac Elton John, rhyddhaodd Gwenno albwm cysyniad synth-pop yn 2014 o’r enw Y Dydd Olaf. Gan gymryd y teitl o nofel ddyfodolaidd Owain Owain ynglŷn â grym globalyddiaeth a thechnoleg yr oes ôl-fodern, ac wedi ei gynhyrchu gan ei phartner Rhys Edwards (gynt o Jakakoyak), derbyniodd Y Dydd Olaf adolygiadau hynod ffafriol, gyda Laura Snapes o’r Guardian yn datgan fod swyn oesol yn perthyn iddo: ‘only a minority will understand this very modern protest album, but its motorik spin and soft synths recall Broadcast and Chromatics, and shimmer with universal magic’ (Snapes 2015). Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Vodya [EP] (Crai CD089, 2003)
  • Y Dydd Olaf (Peski PESKI030, 2014)

gyda The Pipettes:

  • ‘ABC’ [sengl] (Transgressive Records TRANS005, 2005)
  • We Are The Pipettes (Memphis Industries MI072CD, 2006)
  • Earth vs. The Pipettes (Fortuna Pop! FPOP92CD, 2010)

Llyfryddiaeth

  • Laura Snapes, ‘Gwenno: the ex-Pipette is leading the Welsh-speaking music revival’, The Guardian (8 Medi 2015)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.