Stevens, Meic (g.1942)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed Louis Michael James Stevens yn Solfach. Fel gitarydd, canwr a chyfansoddwr a lwyddodd i bontio canu gwerin, roc a phop, bu’n ffigwr blaenllaw yn y sîn roc Gymraeg o’r 1960au hyd heddiw.
Yn wahanol i nifer o gantorion eraill yn nyddiau cynnar y sîn bop Gymraeg, dechreuodd Stevens ei yrfa recordio yn Saesneg, yn Lloegr, ar label mawr, gan dderbyn cytundeb gyda chwmni Decca yn 1965 a Warner Brothers yn 1970. Ymddangosai ar un cyfnod fel petai â’i fryd ar ddilyn llwybr cantorion gwerin newydd Eingl-Americanaidd megis Bob Dylan a Paul Simon i’r llwyfan byd-eang. Er hynny, roedd ganddo awydd i ganu yn y Gymraeg a recordiodd sawl sengl ar labeli bach Cymreig rhwng 1965 ac 1970. Yn hytrach na chadw at ei gytundeb recordio Saesneg, aeth Stevens yn ôl at ei wreiddiau diwylliannol, gan wneud cyfraniad pwysig tuag at greu a meithrin diwydiant recordio a phop Cymraeg cynnar.
Cynhyrchydd gwreiddiol Stevens ar ei sengl gyntaf ‘Did I Dream’/‘I Saw a Field’ (Decca, 1965) oedd John Paul Jones, yn ddiweddarach o’r band Led Zeppelin, ac felly mae’r recordiau cynnar yn dangos elfennau o gerddoriaeth bop gyfoes y cyfnod, gyda thinc seicedelig. Roedd diddordebau cerddorol Stevens yn cydgordio â rhai Geraint Jarman a Heather Jones, ac fe aeth y tri ati i ffurfio’r grŵp Y Bara Menyn yn 1969, gan herio ynghyd â dychanu natur geidwadol pop Cymraeg cyfoes. Roedd Stevens ei hun yn gymeriad gwahanol iawn i’r stereoteip a geid ar y pryd, yn ôl Meredydd Evans, a fu’n gweithio aml gyda’r canwr fel cynhyrchydd y rhaglen Disc a Dawn yn ystod yr 1960au. Roedd yn gerddor anghyffredin, o ran delwedd ynghyd â medr offerynnol, gyda llais ‘nad oedd ei debyg i’w gael ymysg perfformwyr Cymraeg y cyfnod, yn gyfuniad o grasder grymus a thynerwch rhyfedd’ (yn Ebenezer 1993, 5).
Mae’r cyfuniad o ‘grasder’ a ‘thynerwch’ yn perthyn i allbwn o dros gant o ganeuon sy’n pontio oddeutu hanner canrif. Roedd y baledi cynnar - megis ‘Tryweryn’ (cân am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn 1965), ‘Cân Walter’ a ‘Ddaeth Neb yn Ôl’ - yn brawf o allu telynegol Stevens a’i ddawn wrth lunio a chyfuno alaw gyda geiriau. Er enghraifft, yn ‘Tryweryn’ clywir y brawddegau cerddorol (ar ôl naid o gyfwng y pumed ar ddechrau’r llinell gyntaf a naid o chweched ar ddechrau’r ail) yn disgyn yn llinellau 1, 3 a 4 ym mhob pennill, gan efelychu’n hynod effeithiol lif y dŵr i lawr y cwm.
Mae symlrwydd y mynegiant yn aml yn cuddio’r grefft a’r cynildeb sydd wrth wraidd caneuon Stevens. Ar un olwg, portread o’r gorffennol a diniweidrwydd yr oes a fu sydd yn perthyn i symlrwydd mynegiant ‘Merch o’r Ffatri Wlân’, ond mae natur ailadroddus y gân yn ddelwedd o waith caled ac ailadroddus y ffatri, gyda’r ‘merched ... yn gwneud gwaith dyn ond am gyflog llai’ (Stevens yn Ebenezer 1993, 15). Ar y llaw arall, mae’r hyfryd ‘Môr o Gariad’ o’r record hir Nos Du Nos Da (Sain, 1982) yn graddol ddatguddio perthynas a ddaeth i ben, tra bod diffuantrwydd y gân i gofio Bobby Sands – aelod o Fyddin Weriniaethol Iwerddon a fu farw ar ôl bod ar streic newyn yng ngharchar Long Kesh yng Ngogledd Iwerddon – yn dawel ddirdynnol.Daw’r ‘crasder’ sy’n perthyn i ganeuon eraill Stevens o’i etifeddiaeth o arddull y blues. Datblygodd y rhain drwy wrando ar gerddorion blues megis Leadbelly, Big Bill Broonzy, Jesse Fuller a Gary Davis, ond hefyd drwy feithrin cysylltiadau gyda cherddorion a oedd yn perfformio yn y tafarndai a’r clybiau ger dociau Caerdydd, lle bu’n byw ers yr 1970au, megis y gitarydd jazz Victor Parker. Yn ogystal â’r baledi, mae yna ddwyster yn aml yn perthyn i ganeuon blues Stevens. Dywedodd am ei gân blues gyntaf yn y Gymraeg, ‘Gwely Gwag’, ‘mae na fwy o ddyfnder ynddi nag ma neb yn feddwl. Ond fel ’na ma’r blues. Mae nhw’n ganeuon cwbwl syml ond ma nhw’n cuddio llawer iawn o deimlad’ (Stevens yn Ebenezer 1993, 17). Rhwng y ddau begwn, roedd gan Stevens y ddawn i gyfansoddi caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn ogystal, megis ‘Y Brawd Houdini’ (a boblogeiddiwyd yn ddiweddarach gan y Super Furry Animals) ynghyd â chaneuon wedi eu hysbrydoli gan gyfnod hapus tua diwedd yr 1970au lle bu’n byw yn Llydaw, fel ‘Rue St Michel’ a ‘Douarnanez’. Roedd ‘hwyl’ y canu yn bwysig iawn i Stevens, a phan ar ei orau, roedd ei berfformiadau byw – un ai ar ei ben ei hun neu gyda’i fand – yn brofiadau bythgofiadwy.
Chwaraeodd Meic Stevens rôl bwysig yn hanes cwmni recordiau Sain, gan ddefnyddio’i gysylltiadau yn Llundain i logi stiwdio i recordio sengl gyntaf y cwmni, Dŵr gan Huw Jones, gyda Geraint Jarman a Heather Jones yn y cefndir. Yn ei gerddoriaeth fel artist unigol mae Meic Stevens yn llwyddo i gamu o’r tyner i’r garw a’r grymus, ac mae ei themâu yn cwmpasu byd gwleidyddiaeth, serch a mwy; bydd yn aml hefyd yn canu am unigolion a wnaeth argraff arno. Ers degawdau mae wedi datblygu ei arddull hawdd ei hadnabod ef ei hun o ganu a chwarae’r gitâr, a bu ganddo ddylanwad digamsyniol ar gerddorion gwerin a phop Cymraeg ers dros hanner canrif.
Sarah Hill a Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- ‘Did I Dream’ [sengl] (Decca F.12174, 1965)
- Meic Stevens [EP] (Wren WRE1045, 1968)
- Mwg [EP] (Wren WRE1073, 1969)
- ‘Ballad of Old Joe Blind’ [sengl] (Warner Bros WB8007, 1970)
- Outlander (Warner Bros WS3005, 1970)
- Y Brawd Houdini [EP] (Sain 4, 1970)
- Byw yn y Wlad [EP] (Wren WRE1107, 1971)
- Gwymon (Wren WRL536, 1972)
- Gôg (Sain 1065M, 1977)
- Nos Du Nos Da (Sain 1239, 1982)
- Gitâr yn y Twll Dan Stâr (Sain 1273M, 1983)
- Lapis Lazuli (Sain 1312M, 1985)
- Gwin a Mwg a Merched Drwg (Sain C608N, 1987)
- Bywyd ac Angau (Fflach C052D, 1989)
- Ware’n Noeth (Sain SCD4088, 1991)
- Er Cof am Blant y Cwm (Crai CD036, 1993)
Casgliadau:
- Dim Ond Cysgodion – Y Baledi (Sain SCD2001, 1992)
- Ghost Town (Tenth Planet TP028, 1997)
Llyfryddiaeth
- Lyn Ebenezer (gol.), I Adrodd yr Hanes: 51 o Ganeuon Meic Stevens (Llanrwst, 1993)
- Meic Stevens, Meic Stevens: Hunangofiant y Brawd Houdini (Talybont, 2009)
- ———, Crwydryn â mi: Hunangofiant Meic Stevens (Talybont, 2009)
- ———, Mâs o Mâ: Hunangofiant Meic Stevens (Rhan 3) (Talybont, 2011)
- Hefin Wyn, Ar Drywydd Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach (Talybont, 2015)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.