Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tŷ ar y Tywod"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Cefndir== Ystyrir ''Tŷ ar y Tywod'' gan y diweddar Gwenlyn Parry yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Theatr Gymraeg. Hon oedd drama Gomisiw...')
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 09:05, 22 Gorffennaf 2014

Cefndir

Ystyrir Tŷ ar y Tywod gan y diweddar Gwenlyn Parry yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Theatr Gymraeg. Hon oedd drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri yn 1968. Fe’i llwyfannwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno gan Gwmni Theatr Cymru, ac fe gymharwyd y ddrama â gwaith swreal ac abswrd dramodwyr byd eang fel Harold Pinter ac Eugene Ionesco.

Stori am ddau ddyn yw Tŷ ar y Tywod. Mae un yn byw mewn cwt ar y traeth a’r llall yn berchennog ffair gerllaw. Lleolir y ddrama dair act yng nghwt Gŵr y Tŷ, sydd â rhan ohono wedi suddo i’r tywod. Gerllaw mae’r ffair yn ehangu’n gyflym, ond mae’r cwt yn rhwystro unrhyw ddatblygiadau pellach. Mae Gŵr y Tŷ yn benderfynol o warchod ei gartref doed a ddel er bod hwnnw’n dirywio’n gyflym.

Felly stori drasig ydyw yn trafod cwymp dyn wrth iddo frwydro amgylchiadau sydd yn ei erbyn. Ac yntau’n methu dianc rhag sŵn a bwrlwm y Ffair, yr unig beth sy’n ei gynnal yw ei atgofion, ond mae plant y ffair yn ei wawdio a’i boenydio am fod yn wallgof.

Mae’r perchennog am ymestyn ei ffair ac mae’r caban yn rhwystro ei gynlluniau. Yn groes i’r disgwyl mae pethau’n troi’n chwithig i’r perchennog a’r diwedd yw i’r ffair ddod yn eiddo i’r gŵr a drigai yn y caban. Felly, mae’r rhod bob amser yn troi ac mae’r ddau gymeriad yn cynrychioli’r ddynoliaeth yn eu brwydr am rym a materoliaeth.

Nid yw’r ddrama Tŷ ar y Tywod wedi ei chyfyngu i unrhyw amser neu leoliad penodol ac er bod dros ddeugain mlynedd ers y perfformiad cyntaf mae neges gignoeth y ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed.

Llyfryddiaeth
Ross, Nic (2003) Tŷ ar y Tywod – Ffair heb ddiflastod na gwagedd
Theatr Genedlaethol Cymru (2005) Tŷ ar y Tywod