Tann, Hilary (g.1947)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:23, 22 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfansoddwr Hilary Tann yn Llwynypia yn yr hen Sir Forgannwg. Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gydag Alun Hoddinott gan dderbyn ei gradd BMus yn 1968 cyn ymgymryd â chwrs ôl-radd gyda’r cyfansoddwr Jonathan Harvey ym Mhrifysgol Southampton. Wedi astudiaethau pellach ym Mhrifysgol Princeton yn Unol Daleithiau America (UDA) yn 1972 gyda Milton Babbitt a James K. Randall derbyniodd ei PhD yn 1981. Bu cyfnod wedyn o ddarlithio yn UDA tra’n treulio amser yn teithio i Japan, Korea a China gan ymchwilio i draddodiadau perfformio y a’r shakuhachi. A hithau wedi ymgartrefu yn UDA, ar hyn o bryd hi yw Athro Cerddoriaeth John Howard Payne yn Ngholeg Undebol Schenectady.

Mewn gyrfa lewyrchus sydd hyd yma wedi esgor ar ragor na 75 o gyfansoddiadau, gwelir bod Tann yn cael ei hysbrydoli gan amrywiaeth eang o themâu. Bu tirwedd neu leoliadau Cymreig ynghyd â’r byd natur a berthyn iddynt yn symbyliad i nifer o’i chyfansoddiadau siambr, megis The Cresset Stone (1993) ar gyfer cello unawdol neu The Walls of Morlais Castle (2002) ar gyfer obo, feiola a soddgrwth. Yn ogystal, arweiniodd ei diddordeb yn y traddodiad cerddorol Japaneaidd at gyfansoddiadau sy’n meddu ar naws ddwyreiniol sy’n awgrymu yn hytrach na dyfynnu, gan gynnwys Of Erthe and Air (1990) ar gyfer ffliwt, clarinet ac offerynnau taro a’r darn cerddorfaol From Afar (1996).

Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)

Cerddorfaol:

  • The Open Field (In memoriam Tienanmen Square) (1990)
  • From Afar (1996)
  • The Grey Tide and the Green (2001)
  • From the Feather to the Mountain (2004)
  • Shakkei (2007) ar gyfer obo unawdol a cherddorfa siambr

Ensemble/offerynnol:

  • Doppelgänger (1984), ar gyfer piano unawdol
  • Winter Sun, Summer Rain (1986), ar gyfer ffliwt, clarinet, feiola, cello a celesta
  • Of Erthe and Air (1990), ar gyfer ffliwt, clarinet ac offerynnau taro
  • The Cresset Stone (1993), ar gyfer cello unawdol
  • The Walls of Morlais Castle (1998), ar gyfer obo, feiola a cello



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.