Teulu

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:24, 17 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad–yng–nghyfraith Hywel, fe'i gorfodir i wynebu'r ffaith mai dymuniad penna' ei wraig yw symud 'nôl i Aberaeron i fyw. I Hywel, sy'n feddyg llwyddiannus yn Llundain, mae'r syniad yn anathema llwyr. Chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda'r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy'n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda'i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. Gorffenodd y gyfres gyntaf gyda'r gwylwyr ar bigau'r draen yn dilyn priodas Llŷr a Dr Manon a thrawiad Dr John. Yn yr ail gyfres, mae Llŷr ar fin agor clwb newydd ar y maes carafannau mae'n rhedeg ar dir y teulu. Mae e a Manon, sy'n cael ei chwarae gan Catrin Morgan, yn paratoi i symud o Fryncelyn i gartref newydd. Bydd y trydedd gyfres yn cael ei ddarlledi yn Hydref 2010.

Dyma wybodaeth o'r cwmni Apollo sy'n cynhyrchu'r ddrama:

"Saga deuluol yw ‘Teulu’ ac iddi flas meddygol. Mae’r drydedd gyfres yn cychwyn oddeutu 6 mis ers diwedd Cyfres 2 a’r teulu, bellach, yn dechrau ymgodymi a’r ffaith fod Richard Morgan wedi marw. Fel yn y ddwy gyfres flaenorol mae’r saga deuluol, emosiynol yn ganolog i’r gyfres ac yn gorwedd ochor yn ochor a’r straeon sy’n deillio o’r feddygfa yn wythnosol ac o wythnos i wythnos. Mae’r dafarn, a’r clwb hefyd yn lleoliadau reolaidd a phwysig i’r gyfres. Mae cymeriadau’r gyfres yn ymddangos ar y cyfan ymhob un o’r penodau er bod ambell i gymeriad gwadd yn dal i ymddangos mewn penodau unigol. Yn y gyfres hon, cyflwynir 3 chymeriad newydd. Nyrs arbenigol yw Anest sy’n dod i weithio i’r feddygfa ac mae Huw, ei gwr,yn y pendraw yn cael ei benodi yn rheolwr Y Cei. Mae Ffion Huws a ymddangosodd fel cyfreithwraig mewn un bennod yng Nghyfres 2 yn ail ymuno a’r cast ym mhennod 5 ac yn tyfu i fod yn un o gymeriadau rheolaidd yn y gyfres."


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Teulu

Blwyddyn: 2008, 2010

Hyd y Ffilm: 60 munud bob pennod

Cyfarwyddwr: Delyth Thomas, Sion Humphreys, Rhys Powys, Gareth Rowlands

Sgript gan: Meic Povey, Branwen Cennard

Stori gan: Geraint Lewis

Cynhyrchydd: Branwen Cennard

Cwmnïau Cynhyrchu: Boomerang

Genre: Drama


Cast a Chriw

Prif Gast

  • William Thomas (Richard)
  • Mair Rowlands (Margaret)
  • Geraint Morgan (Hywel)
  • Rhys ap Hywel (Llyr)
  • Rhian Jones (Llinos)
  • Gaynor Morgan Rees (Dot)
  • Heledd Baskerville (Catrin)
  • Zak Daly (Owain)
  • Jonathan Nefydd (Danny)
  • Rhys Parry Jones (Dr John)
  • Eiry Thomas (Eirlys)
  • Catrin Morgan (Manon)
  • Lydia Jones (Meleri)
  • Dewi Rhys Williams (Eric)
  • Meilyr Sion (Rhydian Lloyd)
  • Bradley Freegard (Steffan)
  • Steffan Rhodri (Danny)
  • Beth Robert (Myra)
  • Matthew Gravelle (Huw)

Ffotograffiaeth

Ray Orton, Tony Yates

Dylunio

Phil Rawsthorne

Cerddoriaeth

Dyfan Jones Sain Tom Logan, Andy Powell, Rolant Jones

Golygu

Sara Jones, Angharad Owen


Manylion Technegol

Fformat Saethu: Clir Lun

Math o Sain: Stereo

Lliw: Lliw

Cymhareb: Agwedd 16:9

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Aberaeron, Caerdydd