Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Theori Ddiwylliannol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr)
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
Mae gan ‘theori ddiwylliannol’ ystyr eang iawn. Gall y term gyfeirio at ddamcaniaethau anthropolegol sydd yn ceisio egluro diwylliant dynol yn ei gyfanrwydd; er enghraifft, ''A Scientific Theory of Culture'' gan Bronislaw Malinowski. Mae’r damcaniaethau hyn, fel arfer, yn ceisio ateb cwestiynau megis ‘beth yw diwylliant?’ a ‘beth yw swyddogaeth diwylliant mewn cymdeithas?’ Ac eto, gall y term gyfeirio at ddamcaniaethau sydd yn ceisio dehongli a beirniadu diwylliannau penodol; er enghraifft, ''Orientalism'' Edward Said a ''Prydeindod'' J. R. Jones. Bwriad y math yma o theori ddiwylliannol yw datguddio’r ideoleg a’r strwythurau pŵer tu ôl i len diwylliant. Gofynnir cwestiynau megis, ‘pa berthnasau grym sydd yn rheoli lledaeniad ac atgynhyrchiad y diwylliant hwn, neu’r elfennau hyn o ddiwylliant?’ Y drydedd ystyr sydd yn gysylltiedig â’r term yw’r ymdrech athronyddol i ddod o hyd i safonau er mwyn asesu cynnyrch diwylliannol. Yn y cyswllt hwn, gallwn gyfeirio at theori ddiwylliannol Kant yn y drydedd ''Feirniadaeth'', neu theori ddiwylliannol yn ''Barddoneg'' Aristoteles. Yn ogystal â chwestiynau diffiniol megis ‘beth yw hanfod y gwaith celf?’, mae’r math yma o theori diwylliannol yn ymwneud â chwestiynau esthetig, megis ‘sut allwn ni wahaniaethu rhwng gwaith celf da ac un gwael?’ 
 
  
Yn y cofnod hwn trafodir theori ddiwylliannol athronwyr Ysgol Frankfurt, sydd yn cyfuno elfennau anthropolegol, beirniadol ac esthetig. Nod damcaniaethwyr Ysgol Frankfurt oedd dyfeisio ‘theori feirniadol o gymdeithas’, trwy gyfuno sail athronyddol Farcsaidd gyda’r gwyddorau cymdeithasol cyfoes. Roedd diddordeb mawr ganddynt mewn estheteg, diwylliant a’r celfyddydau yn ogystal â materion gwleidyddol ac economaidd. Daethant i arddel nifer o safbwyntiau gwahanol tuag at ddiwylliant yn y gymdeithas fodern, gyfalafol, fel y gwelir wrth gymharu syniadau dau o ffigurau’r Ysgol, sef Theodor Adorno a Walter Benjamin. Cychwynnir gyda Benjamin.     
 
 
Yn ei draethawd dylanwadol, ‘Y Gwaith Celf yn Oes ei Atgynyrchioldeb Mecanyddol’ (‘Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit’), dadleuodd Benjamin bod technoleg fodern wedi gweddnewid natur gweithiau celfyddydol a’n canfyddiad ohonynt. Mae gweithiau celf enwog traddodiadol yn meddu ar awyrgylch lled sanctaidd. Wrth sefyll gerbron y Mona Lisa yn oriel y Louvre, rwyf yn ymwybodol o natur unigryw, ddigymar y darlun, ei hanes a’i urddas. Ceir teimlad o ''bellter'' rhyngof i a’r darlun. Enw Benjamin am yr awyrgylch hyn yw ''awra''. Prif nodwedd diwylliant yn yr oes fodern yw dirywiad yr awra. O ganlyniad i dechnoleg recordio, ffotograffiaeth, ffilm, a chyfryngau megis y radio, y sinema, y teledu a’r rhyngrwyd, mae’r gweithiau celf hyn wedi lluosi, ac felly wedi colli eu hunigrywiaeth hudol. Mae’r Mona Lisa bellach yn ymddangos ar gardiau post, crysau-t, a phosteri. Does dim angen ymweld â’r Louvre, fel pererin yn teithio i gysegr; gallaf weld y darlun unrhyw bryd y mynnaf. Effaith atgynhyrchiad mecanyddol, felly, yw dinistrio awra’r gwaith celf. 
 
 
Mae Benjamin yn croesawu’r datblygiad hwn. Nid yw’r gwaith celf ôl-awratig (''nachauratische'') yn gaeth i awdurdod traddodiad. Nid gwrthrych sanctaidd mohono bellach, ond un cyhoeddus, wedi ei rannu’n deilchion hygyrch. Yn ôl Benjamin, y sinema yw’r gelfyddyd ôl-awratig ''par excellence'' - yn wir, mae ei fodolaeth yn seiliedig ar atgynhyrchiad mecanyddol. Trwy dechnegau megis yr agoslun a’r saethiad araf, gall ffilmiau ein gwneud yn ymwybodol o agweddau cudd o’r byd ac o fodolaeth dynol. O gymharu ymateb ffafriol y gynulleidfa dorfol i ffilmiau Charlie Chaplin a’i hymateb dirmygus i ddarluniau Ciwbaidd Picasso, mae Benjamin yn dadlau bod celf ôl-awratig yn medru cau’r bwlch rhwng diwylliant poblogaidd ac arbrofion yr ''avant-garde''. Er bod natur gyfalafol y diwydiant ffilmiau yn rhwystro’r broses, felly, mae gan gelfyddydau ôl-awratig oes atgynhyrchiad mecanyddol y potensial i ffurfio diwylliant democrataidd, blaengar, ac yn y pen draw, chwyldroadol.
 
 
Trown yn awr at waith Theodor Adorno. Anghytuna Adorno â dehongliad optimistaidd Benjamin. Er ei fod yn cydnabod natur gyfalafol y diwydiant ffilm, methodd Benjamin ystyried pa mor niweidiol yw’r strwythur economaidd hwn i’r gobaith o ddatblygu diwylliant rhydd a blaengar. Yn hytrach na diflannu, mae awra’r gwaith celf wedi’i drosglwyddo i sêr ffilm a cherddoriaeth. Prif nodwedd diwylliant modern, yn ôl Adorno, yw dylanwad aflesol y ‘diwydiant diwylliant’, sydd yn difetha’r posibilrwydd o gynhyrchu gweithiau celf go-iawn.   
 
 
Mae Adorno yn ystyried cwmnïau ffilm, cerddoriaeth, a theledu, ynghyd â’r cyfryngau torfol megis y sinema, y radio, a gorsafoedd teledu, fel un diwydiant diwylliant. Swyddogaeth y diwydiant diwylliant yw elwa trwy werthu nwyddau diwylliannol i’r boblogaeth, a’i fwriad, felly, yw atgyfnerthu’r drefn gyfalafol a chyfyngu ar unrhyw bosibilrwydd o feirniadaeth neu newid radical. Yn groes i honiad Benjamin, mae technoleg fodern yn hwyluso’r amcanion hyn. Er mwyn deall safbwynt Adorno, mae’n rhaid ystyried ei ddehongliad o natur gweithiau celf.
 
 
 
Ystyrier un o gampweithiau cerddoriaeth glasurol, megis Nawfed Symffoni Beethoven. Nodwedd bwysica’r symffoni yw’r ffaith bod y rhannau a’r cyfan yn ''cyfryngu'' ei gilydd. Hynny yw, mae’r rhannau yn effeithio ar y cyfan ac ar ei gilydd, a’r cyfan yn effeithio ar y rhannu mewn modd sydd yn hwyluso datblygiad y symffoni. Proses ''dilechdidol'' yw hwn, felly. Beth sydd yn hanfodol, yn ôl Adorno, yw’r ffaith nad yw’r cyfryngiad cyffredin yn gyflawn – nid yw cyfanrwydd y symffoni yn cyflyru’r rhannau yn gyfan gwbl, na’r rhannu yn llwyr gyflyru’r symffoni. Byddai perthynas o’r fath yn rhewi’r gwaith celf, fel petai, ac yn atal ei ddatblygiad. Mae yna dyndra creadigol rhwng y rhannau a’r cyfan tu fewn i weithiau celf ‘heb eu safoni’, ac yn ôl Adorno mae’r cyflwr dilechdidol hwn yn dylanwadu ar y gynulleidfa. Trwy gysylltu â gweithiau celf sydd yn enghreifftiau o gyfanrwydd amhendant, heb ei ddominyddu gan un syniad, sydd yn agored i newid a chynnydd, gall yr unigolyn ddatblygu personoliaeth rydd ac annibynnol, sydd yn hwyluso hunanreolaeth a hyblygrwydd. Dyma enghraifft o ddiwylliant go-iawn (''Kultur'') yn meithrin (''bildung'') goddrychedd rhydd. 
 
 
Nawr, ystyrier darn o gerddoriaeth fodern – er enghraifft, cân pop o ganol yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennwyd y gân er mwyn ei darlledu, drosodd a throsodd, ar y radio. Rhaid i’r gynulleidfa adnabod y tiwn yn syth; rhaid i bob elfen o’r gân – y ‘bachyn’ agoriadol, y penillion, y cytgan – gyd-fynd er mwyn ffurfio nwydd diwylliannol sydd yn apelio at y gwrandawyr. Dyma enghraifft o ddarn o gerddoriaeth sydd ‘wedi ei safoni’, yn nhermau Adorno. Mae’r cyfan yn cyflyru’r rhannau, a’r rhannau yn llenwi strwythur y cyfan heb effeithio ar ei gilydd mewn modd dilechdidol. Does dim elfen o ryddid mewnol neu dyndra creadigol i ddylanwadu ar y gynulleidfa. Casgliad o effeithiau yw’r gwaith celf, effeithiau y gall y diwydiant diwylliant eu defnyddio er mwyn creu ymateb addas yn ei gwsmeriaid. Roedd Adorno yn arbennig o feirniadol o jazz am y rhesymau hyn. Nid yw gweithiau celf y gorffennol yn ddiogel rhag y diwydiant diwylliant, ychwaith. Ystyriwch berfformiad o Nawfed Symffoni Beethoven ar Classic FM. Ni fyddai’r orsaf yn darlledu’r symffoni gyfan, dim ond detholiad ohoni, y rhannau mwyaf enwog ac adnabyddus. Mae rhyw fath o awra lwgr yn glynu wrth enw’r campweithiau o leiaf. Darostyngir y gwaith celf yn gyfres o ‘uchafbwyntiau’, y rhannau wedi eu gwahanu o’r cyfan, ac felly diffoddir y berthynas ddilechdidol rhyngddynt. Ni all y gwaith celf safonedig feithrin rhyddid a hunanreolaeth, dim ond ‘ffug-feithrin’ (''halbbildung'') goddrychedd y gwrandäwr, a hynny at ddibenion y drefn gyfalafol. 
 
 
Nid yw Adorno yn obeithiol ynglŷn â rhagolygon diwylliant. Nid yw’n bosib dychwelyd i oes ‘diwylliant uwch’. Mae strwythur economaidd cymdeithas wedi newid yn gyfan gwbl, ac wedi’r cyfan, eiddo dosbarthiadau breintiedig yr uchelwyr a’r ''bourgeoisie'' uwch oedd symffonïau Beethoven. Yr unig ffordd o gynhyrchu celf go-iawn bellach yw trwy greu gweithiau celf na all y diwydiant diwylliant eu cipio a’u safoni, gweithiau celf sydd yn fwriadol o annymunol a haniaethol, er enghraifft cerddoriaeth cyfansoddwyr Ail Ysgol Fienna megis Schoenberg, Webern a Berg. Yn groes i honiadau gobeithiol Benjamin, gwêl Adorno’r newidiadau yn y diwylliant modern fel enghraifft arall o dra-arglwyddiaeth cyfalaf dros y byd dynol.       
 
 
'''Dafydd Huw Rees'''
 
==Llyfryddiaeth==
 
 
Adorno, T., (1941), ‘On Popular Music’, ''Studies in Philosophy and Social Sciences'', 9:1, 17-48.
 
 
Adorno, T., (1981), ‘Das Schema der Massenkultur’, yn ''Gesammelte Schriften III – Dialektik der Aufklärung'' (Frankfurt: Suhrkamp Verlag), tt. 299-335. 
 
 
Adorno, T., (1972), ‘Theorie der Halbbildung’, yn ''Gesammelte Schriften VIII – Soziologische Schriften I'' (Frankfurt: Suhrkamp Verlag), tt. 93-121.
 
 
Aristoteles, (2001), ''Barddoneg'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
 
 
Benjamin, W., (2010), ''Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit'' (Frankfurt: Suhrkamp Verlag).
 
 
Jones, J. R., (2013), ''Prydeindod'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/prydeindod-jr-jones [Cyrchwyd: 1 Awst 2016].
 
 
Kant, I., (2013), ''Kritik der Urteilskraft'' (Berlin: Edition Holzinger).
 
 
 
Malinowski, B., (1960), ''A Scientific Theory of Culture and Other Essays'' (Efrog Newydd: Oxford University Press)
 
 
Said, E., (2003), ''Orientalism'' (Llundain: Penguin)
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 09:45, 4 Ebrill 2018