Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomson, George (1757-1851)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
 
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
 
Casglwr [[alawon gwerin]] Cymreig a aned yn Limekilns, Fife, ac a ddaeth yn glerc i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er Annog Celfyddydau a Chynhyrchion yn yr Alban. Roedd Thomson wedi llwyddo i ymchwilio i alawon Albanaidd a Gwyddelig (cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o alawon Albanaidd yn 1793), a throdd ei sylw wedyn at alawon Cymru nad oeddynt, er syndod iddo, wedi ymddangos gyda geiriau Saesneg.
 
Casglwr [[alawon gwerin]] Cymreig a aned yn Limekilns, Fife, ac a ddaeth yn glerc i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er Annog Celfyddydau a Chynhyrchion yn yr Alban. Roedd Thomson wedi llwyddo i ymchwilio i alawon Albanaidd a Gwyddelig (cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o alawon Albanaidd yn 1793), a throdd ei sylw wedyn at alawon Cymru nad oeddynt, er syndod iddo, wedi ymddangos gyda geiriau Saesneg.
  
I ddechrau apeliodd at Gymry a oedd yn gyfeillion iddo i anfon enghreifftiau ato. Awgrymwyd, fodd bynnag, mai ei brif ffynonellau cerddorol oedd cyfrolau [[Edward Jones]], ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784 ac 1794), a chyfrol Jones, ''The Bardic Museum'' (1802). Tua 1806, ar ôl darllen llyfr Thomas Pennant, ''A Tour in Wales'' (1778-81), ac un William Bingley, ''North Wales, Its Scenery, Antiquities, Customs...'' (1804), aeth ar daith yng Nghymru, a bu’r cyfle i glywed perfformiadau o’r alawon yr oedd wedi eu derbyn yn fodd iddo allu cywiro ei gopïau llawysgrif a chasglu rhai eraill nad oeddynt yn ei feddiant. Gwnaed argraff arbennig arno gan berfformiadau’r telynorion dall, [[Edward Randles]] (1763-1820), telynor Syr Foster a’r Fonesig Cunliffe, Plas Acton, Wrecsam, a Mr Edwards (1750-1815) o Fangor, telynor Mr a Mrs Williams, Llanidan, Môn.
+
I ddechrau apeliodd at Gymry a oedd yn gyfeillion iddo i anfon enghreifftiau ato. Awgrymwyd, fodd bynnag, mai ei brif ffynonellau cerddorol oedd cyfrolau [[Edward Jones]], ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784 ac 1794), a chyfrol Jones, ''The Bardic Museum'' (1802). Tua 1806, ar ôl darllen llyfr Thomas Pennant, ''A Tour in Wales'' (1778-81), ac un William Bingley, ''North Wales, Its Scenery, Antiquities, Customs...'' (1804), aeth ar daith yng Nghymru, a bu’r cyfle i glywed perfformiadau o’r alawon yr oedd wedi eu derbyn yn fodd iddo allu cywiro ei gopïau [[llawysgrif]] a chasglu rhai eraill nad oeddynt yn ei feddiant. Gwnaed argraff arbennig arno gan berfformiadau’r telynorion dall, [[Edward Randles]] (1763-1820), telynor Syr Foster a’r Fonesig Cunliffe, Plas Acton, Wrecsam, a Mr Edwards (1750-1815) o Fangor, telynor Mr a Mrs Williams, Llanidan, Môn.
  
 
Wrth olygu ei ganfyddiadau talfyrrodd rai o’r alawon, gan gynnwys ‘Blodau’r Drain’, ‘Mwynen Cynwyd’ a ‘Tros y Garreg’, y teimlai eu bod yn defnyddio ‘ailadrodd undonog a sych’, ac aeth ati o’i ben a’i bastwn ei hun i symleiddio rhannau fel y gellid eu canu’n haws i eiriau Saesneg. Wedi’u haddasu fel hynny, anfonwyd y rhan helaethaf o’r alawon at Joseph Haydn (1732-1809); anfonodd eraill at Leopold Koželuch (1747-1818) i’w trefnu ar gyfer y [[delyn]]-bedal neu’r piano, gyda phosibilrwydd cyfeiliant [[ffidil]] neu soddgrwth.
 
Wrth olygu ei ganfyddiadau talfyrrodd rai o’r alawon, gan gynnwys ‘Blodau’r Drain’, ‘Mwynen Cynwyd’ a ‘Tros y Garreg’, y teimlai eu bod yn defnyddio ‘ailadrodd undonog a sych’, ac aeth ati o’i ben a’i bastwn ei hun i symleiddio rhannau fel y gellid eu canu’n haws i eiriau Saesneg. Wedi’u haddasu fel hynny, anfonwyd y rhan helaethaf o’r alawon at Joseph Haydn (1732-1809); anfonodd eraill at Leopold Koželuch (1747-1818) i’w trefnu ar gyfer y [[delyn]]-bedal neu’r piano, gyda phosibilrwydd cyfeiliant [[ffidil]] neu soddgrwth.

Diwygiad 16:27, 29 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Casglwr alawon gwerin Cymreig a aned yn Limekilns, Fife, ac a ddaeth yn glerc i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er Annog Celfyddydau a Chynhyrchion yn yr Alban. Roedd Thomson wedi llwyddo i ymchwilio i alawon Albanaidd a Gwyddelig (cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o alawon Albanaidd yn 1793), a throdd ei sylw wedyn at alawon Cymru nad oeddynt, er syndod iddo, wedi ymddangos gyda geiriau Saesneg.

I ddechrau apeliodd at Gymry a oedd yn gyfeillion iddo i anfon enghreifftiau ato. Awgrymwyd, fodd bynnag, mai ei brif ffynonellau cerddorol oedd cyfrolau Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784 ac 1794), a chyfrol Jones, The Bardic Museum (1802). Tua 1806, ar ôl darllen llyfr Thomas Pennant, A Tour in Wales (1778-81), ac un William Bingley, North Wales, Its Scenery, Antiquities, Customs... (1804), aeth ar daith yng Nghymru, a bu’r cyfle i glywed perfformiadau o’r alawon yr oedd wedi eu derbyn yn fodd iddo allu cywiro ei gopïau llawysgrif a chasglu rhai eraill nad oeddynt yn ei feddiant. Gwnaed argraff arbennig arno gan berfformiadau’r telynorion dall, Edward Randles (1763-1820), telynor Syr Foster a’r Fonesig Cunliffe, Plas Acton, Wrecsam, a Mr Edwards (1750-1815) o Fangor, telynor Mr a Mrs Williams, Llanidan, Môn.

Wrth olygu ei ganfyddiadau talfyrrodd rai o’r alawon, gan gynnwys ‘Blodau’r Drain’, ‘Mwynen Cynwyd’ a ‘Tros y Garreg’, y teimlai eu bod yn defnyddio ‘ailadrodd undonog a sych’, ac aeth ati o’i ben a’i bastwn ei hun i symleiddio rhannau fel y gellid eu canu’n haws i eiriau Saesneg. Wedi’u haddasu fel hynny, anfonwyd y rhan helaethaf o’r alawon at Joseph Haydn (1732-1809); anfonodd eraill at Leopold Koželuch (1747-1818) i’w trefnu ar gyfer y delyn-bedal neu’r piano, gyda phosibilrwydd cyfeiliant ffidil neu soddgrwth.

Yn niffyg geiriau Saesneg i’r alawon Cymreig a ddewiswyd, comisiynodd Thomson benillion newydd at ei gilydd, gan ychwanegu ei deitlau ei hun. Ymhlith y beirdd a ddefnyddiwyd yr oedd Joanna Baillie, Alexander Boswell, Robert Burns, Matthew G. Lewis, Richard Llwyd, Amelia Opie a Walter Scott. Ymddangosodd y gyfrol gyntaf, A Select Collection of Original Welsh Airs..., yn 1809 gydag ugain o alawon wedi’u trefnu gan Haydn a deg gan Koželuch. Cyhoeddwyd ail gyfrol yn 1811 a oedd yn cynnwys tri deg a phedair o alawon (y trefnwyd deunaw ohonynt gan Haydn ac un ar bymtheg gan Koželuch).

Roedd iechyd Haydn yn dirywio, ac oherwydd hynny roedd Thomson erbyn 1805 wedi cysylltu â Beethoven (1770-1827), a ddechreuodd weithio ar ei drefniannau cyntaf o alawon Cymreig ddiwedd 1809. O’r deg alaw ar hugain yn y drydedd gyfrol (a ymddangosodd yn 1817) roedd pedair wedi’u trefnu gan Haydn a chwech ar hugain gan Beethoven (WoO 155, rhifau 1–26). Gwelir naw o’r chwe alaw ar hugain yn argraffiad 1794 o Relicks Jones, gydag amrywiadau bychain. At hynny, credir bod nifer o drefniannau diweddarach Haydn wedi eu gwneud ar y cyd â’i ddisgybl Sigismund von Neukomm (1778-1858), a bod Thomson weithiau wedi newid mwy ar fersiynau Haydn.

Mae ei fethiant i gyhoeddi alawon gwerin Cymru yn ddiaddurn yn anorfod wedi lleihau gwerth ei gasgliad. Bu farw yn Leith ar 18 Chwefror 1851.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Barry Cooper, ‘The Welsh Folk-Song Melodies set by Beethoven: A Preliminary Investigation’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 1 (1996), 5–22
  • Marjorie E. Rycroft, ‘Haydn’s Welsh Songs: George Thomson’s Musical and Literary Sources’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 7 (2007), 92–133



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.