Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tomkins, Thomas (1572-1656)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddor...')
 
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
+
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
 
Roedd Thomas Tomkins, un o’r cyfansoddwyr mwyaf a aned yng Nghymru, yr ystyrir yn gyffredinol ei fod o statws Ewropeaidd, yn fab i organydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Thomas Tomkins yr hynaf. Bu’n byw yn Nhyddewi hyd nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed, lle’r oedd yn aelod o’r côr, cyn symud wedyn i Gaerloyw. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod Tomkins wedi bod yn ddisgybl i William Byrd rywbryd cyn ei benodi’n organydd i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1596. Fe’i gwahoddwyd gan Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd, i gyfrannu’r fadrigal, ''The fauns and satyrs tripping'', i ''The Triumphs of Oriana'' (1601).
 
Roedd Thomas Tomkins, un o’r cyfansoddwyr mwyaf a aned yng Nghymru, yr ystyrir yn gyffredinol ei fod o statws Ewropeaidd, yn fab i organydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Thomas Tomkins yr hynaf. Bu’n byw yn Nhyddewi hyd nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed, lle’r oedd yn aelod o’r côr, cyn symud wedyn i Gaerloyw. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod Tomkins wedi bod yn ddisgybl i William Byrd rywbryd cyn ei benodi’n organydd i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1596. Fe’i gwahoddwyd gan Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd, i gyfrannu’r fadrigal, ''The fauns and satyrs tripping'', i ''The Triumphs of Oriana'' (1601).
  
Roedd Tomkins yn aelod cyswllt o Goleg Magdalen, Rhydychen o 1593; nid oedd angen preswylio yno, ac wedi pedair blynedd ar ddeg o astudio enillodd ei radd BMus yn 1607. Yn 1612 bu farw etifedd y brenin, y Tywysog Harri, ac ar gyfer yr angladd darparodd Tomkins [[anthem]], ''Know you not''; ynddi cymerodd bob cyfle i ddangos ehangder ei fedrau cyfansoddi. Mae’r alarnad estynedig sy’n llawn cromatyddiaeth a gwrthbwynt cwynfanus yn un o’r darnau gorau a gyfansoddwyd yn Lloegr yn yr 17g.
+
Roedd Tomkins yn aelod cyswllt o Goleg Magdalen, Rhydychen o 1593; nid oedd angen preswylio yno, ac wedi pedair blynedd ar ddeg o astudio enillodd ei radd BMus yn 1607. Yn 1612 bu farw etifedd y brenin, y Tywysog Harri, ac ar gyfer yr angladd darparodd Tomkins [[Anthemau | anthem]], ''Know you not''; ynddi cymerodd bob cyfle i ddangos ehangder ei fedrau cyfansoddi. Mae’r alarnad estynedig sy’n llawn cromatyddiaeth a gwrthbwynt cwynfanus yn un o’r darnau gorau a gyfansoddwyd yn Lloegr yn yr 17g.
  
Fe’i penodwyd yn 1621 yn organydd y Capel Brenhinol ac o’r pryd hwnnw hyd y Rhyfel Cartref bu’n rhannu ei amser rhwng cyfnodau o wasanaeth yn Llundain a Chaerwrangon. Un casgliad yn unig o fadrigalau a gynhyrchodd Tomkins, sef ei ''Songs'' (1622); cyflwynwyd pob darn ynddo i aelod o’r [[teulu]], cyfaill, neu gydweithiwr proffesiynol. Mae safon gyffredinol y madrigalau hyn yn gyson uchel, gan gynnwys y darn a ystyrir yn uchafbwynt ei waith, ''When David heard that Absalom was slain''. Yn dilyn marwolaeth sydyn Orlando Gibbons yn 1625, daeth Tomkins yn uwch organydd y Capel Brenhinol ac i’w ran ef y daeth y cyfrifoldeb o drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer coroni Siarl I yn ystod yr un flwyddyn.
+
Fe’i penodwyd yn 1621 yn organydd y Capel Brenhinol ac o’r pryd hwnnw hyd y Rhyfel Cartref bu’n rhannu ei amser rhwng cyfnodau o wasanaeth yn Llundain a Chaerwrangon. Un casgliad yn unig o fadrigalau a gynhyrchodd Tomkins, sef ei ''Songs'' (1622); cyflwynwyd pob darn ynddo i aelod o’r teulu, cyfaill, neu gydweithiwr proffesiynol. Mae safon gyffredinol y madrigalau hyn yn gyson uchel, gan gynnwys y darn a ystyrir yn uchafbwynt ei waith, ''When David heard that Absalom was slain''. Yn dilyn marwolaeth sydyn Orlando Gibbons yn 1625, daeth Tomkins yn uwch organydd y Capel Brenhinol ac i’w ran ef y daeth y cyfrifoldeb o drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer coroni Siarl I yn ystod yr un flwyddyn.
  
 
Daeth dechrau’r Rhyfel Cartref â chryn chwalfa i fywyd sefydlog Tomkins. Bu farw ei wraig gyntaf, Alice, yn 1642, ond tua 1649 priododd wraig weddw leol, Martha Browne. Yn dilyn y gwarchae ar Gaerwrangon yn 1646, ataliwyd y gwasanaethau yn yr eglwys gadeiriol am y tro, ond parhaodd Tomkins i fyw yng nghlos y gadeirlan, gan gyfansoddi cerddoriaeth lawfwrdd hyd 1654, pan aeth i fyw gyda’i fab Nathaniel ym mhentref Martin Hussingtree. Yno y bu farw yn 1656, yn 84 oed. Yn 1668 trefnodd ei fab Nathaniel gyhoeddi nifer fawr o’i wasanaethau a’i [[anthemau]] mewn casgliad o’r enw ''Musica Deo sacra''.
 
Daeth dechrau’r Rhyfel Cartref â chryn chwalfa i fywyd sefydlog Tomkins. Bu farw ei wraig gyntaf, Alice, yn 1642, ond tua 1649 priododd wraig weddw leol, Martha Browne. Yn dilyn y gwarchae ar Gaerwrangon yn 1646, ataliwyd y gwasanaethau yn yr eglwys gadeiriol am y tro, ond parhaodd Tomkins i fyw yng nghlos y gadeirlan, gan gyfansoddi cerddoriaeth lawfwrdd hyd 1654, pan aeth i fyw gyda’i fab Nathaniel ym mhentref Martin Hussingtree. Yno y bu farw yn 1656, yn 84 oed. Yn 1668 trefnodd ei fab Nathaniel gyhoeddi nifer fawr o’i wasanaethau a’i [[anthemau]] mewn casgliad o’r enw ''Musica Deo sacra''.
  
Litwrgaidd yw’r mwyafrif o weithiau Tomkins a oroesodd - mae saith o wasanaethau, tri yn y dull ‘llawn’, gan gynnwys un gwasanaeth ‘mawr’, a phedwar yn y dull ‘gwersi’. Mae ei [[anthemau]] llawn, er eu bod yn geidwadol eu harddull, ymhlith goreuon y cyfnod; mae ei anthemau gwersi yn aml yn flaengar, gydag awgrymiadau o’r dull Baróc. Mae ''O sing unto the Lord ac Almighty God, the fountain of all wisdom'', anthemau llawn ill dwy, yn amlygu gwreiddioldeb harmonig eithriadol Tomkins, ynghyd â’i synnwyr o bensaernïaeth gerddorol. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth lawfwrdd o safon uchel, gan gynnwys pafán ‘ar gyfer yr amseroedd dyrys hyn’, sy’n coffáu dienyddio Siarl I yn 1649.
+
Litwrgaidd yw’r mwyafrif o weithiau Tomkins a oroesodd - mae saith o wasanaethau, tri yn y dull ‘llawn’, gan gynnwys un gwasanaeth ‘mawr’, a phedwar yn y dull ‘gwersi’. Mae ei [[anthemau]] llawn, er eu bod yn geidwadol eu harddull, ymhlith goreuon y cyfnod; mae ei [[anthemau]] gwersi yn aml yn flaengar, gydag awgrymiadau o’r dull Baróc. Mae ''O sing unto the Lord ac Almighty God, the fountain of all wisdom'', anthemau llawn ill dwy, yn amlygu gwreiddioldeb harmonig eithriadol Tomkins, ynghyd â’i synnwyr o bensaernïaeth gerddorol. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth lawfwrdd o safon uchel, gan gynnwys pafán ‘ar gyfer yr amseroedd dyrys hyn’, sy’n coffáu dienyddio Siarl I yn 1649.
  
 
'''David Evans'''
 
'''David Evans'''
Llinell 22: Llinell 22:
 
*John Irving, ''The Instrumental Music of Thomas Tomkins'' (Efrog Newydd, 1989)
 
*John Irving, ''The Instrumental Music of Thomas Tomkins'' (Efrog Newydd, 1989)
  
*Anthony Boden, ''Thomas Tomkins: the last Elizabethan''
+
*Anthony Boden, ''Thomas Tomkins: the last Elizabethan'' (Aldershot, 2005)
(Aldershot, 2005)
 
  
 
*Sally Harper, ''Music in Welsh Culture Before 1650'' (Aldershot, 2007)
 
*Sally Harper, ''Music in Welsh Culture Before 1650'' (Aldershot, 2007)

Y diwygiad cyfredol, am 14:48, 8 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Thomas Tomkins, un o’r cyfansoddwyr mwyaf a aned yng Nghymru, yr ystyrir yn gyffredinol ei fod o statws Ewropeaidd, yn fab i organydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Thomas Tomkins yr hynaf. Bu’n byw yn Nhyddewi hyd nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed, lle’r oedd yn aelod o’r côr, cyn symud wedyn i Gaerloyw. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod Tomkins wedi bod yn ddisgybl i William Byrd rywbryd cyn ei benodi’n organydd i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1596. Fe’i gwahoddwyd gan Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd, i gyfrannu’r fadrigal, The fauns and satyrs tripping, i The Triumphs of Oriana (1601).

Roedd Tomkins yn aelod cyswllt o Goleg Magdalen, Rhydychen o 1593; nid oedd angen preswylio yno, ac wedi pedair blynedd ar ddeg o astudio enillodd ei radd BMus yn 1607. Yn 1612 bu farw etifedd y brenin, y Tywysog Harri, ac ar gyfer yr angladd darparodd Tomkins anthem, Know you not; ynddi cymerodd bob cyfle i ddangos ehangder ei fedrau cyfansoddi. Mae’r alarnad estynedig sy’n llawn cromatyddiaeth a gwrthbwynt cwynfanus yn un o’r darnau gorau a gyfansoddwyd yn Lloegr yn yr 17g.

Fe’i penodwyd yn 1621 yn organydd y Capel Brenhinol ac o’r pryd hwnnw hyd y Rhyfel Cartref bu’n rhannu ei amser rhwng cyfnodau o wasanaeth yn Llundain a Chaerwrangon. Un casgliad yn unig o fadrigalau a gynhyrchodd Tomkins, sef ei Songs (1622); cyflwynwyd pob darn ynddo i aelod o’r teulu, cyfaill, neu gydweithiwr proffesiynol. Mae safon gyffredinol y madrigalau hyn yn gyson uchel, gan gynnwys y darn a ystyrir yn uchafbwynt ei waith, When David heard that Absalom was slain. Yn dilyn marwolaeth sydyn Orlando Gibbons yn 1625, daeth Tomkins yn uwch organydd y Capel Brenhinol ac i’w ran ef y daeth y cyfrifoldeb o drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer coroni Siarl I yn ystod yr un flwyddyn.

Daeth dechrau’r Rhyfel Cartref â chryn chwalfa i fywyd sefydlog Tomkins. Bu farw ei wraig gyntaf, Alice, yn 1642, ond tua 1649 priododd wraig weddw leol, Martha Browne. Yn dilyn y gwarchae ar Gaerwrangon yn 1646, ataliwyd y gwasanaethau yn yr eglwys gadeiriol am y tro, ond parhaodd Tomkins i fyw yng nghlos y gadeirlan, gan gyfansoddi cerddoriaeth lawfwrdd hyd 1654, pan aeth i fyw gyda’i fab Nathaniel ym mhentref Martin Hussingtree. Yno y bu farw yn 1656, yn 84 oed. Yn 1668 trefnodd ei fab Nathaniel gyhoeddi nifer fawr o’i wasanaethau a’i anthemau mewn casgliad o’r enw Musica Deo sacra.

Litwrgaidd yw’r mwyafrif o weithiau Tomkins a oroesodd - mae saith o wasanaethau, tri yn y dull ‘llawn’, gan gynnwys un gwasanaeth ‘mawr’, a phedwar yn y dull ‘gwersi’. Mae ei anthemau llawn, er eu bod yn geidwadol eu harddull, ymhlith goreuon y cyfnod; mae ei anthemau gwersi yn aml yn flaengar, gydag awgrymiadau o’r dull Baróc. Mae O sing unto the Lord ac Almighty God, the fountain of all wisdom, anthemau llawn ill dwy, yn amlygu gwreiddioldeb harmonig eithriadol Tomkins, ynghyd â’i synnwyr o bensaernïaeth gerddorol. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth lawfwrdd o safon uchel, gan gynnwys pafán ‘ar gyfer yr amseroedd dyrys hyn’, sy’n coffáu dienyddio Siarl I yn 1649.

David Evans

Llyfryddiaeth Ddethol

  • Denis Stevens, Thomas Tomkins ([arg. diw.] Efrog Newydd, 1967)
  • David R. A. Evans, ‘Thomas Tomkins and the Prince of Wales’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/4 (1983), 57–69
  • John Irving, The Instrumental Music of Thomas Tomkins (Efrog Newydd, 1989)
  • Anthony Boden, Thomas Tomkins: the last Elizabethan (Aldershot, 2005)
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture Before 1650 (Aldershot, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.