Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tystysgrif Pensaer"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Term a ddefnyddir yn aml ar lafar i ddynodi tystysgrif sydd yn awdurdodi taliadau. Fe’i rhyddheir gan swyddog goruchwylio, fel arfer pensaer fel rhan o...')
 
B
 
Llinell 8: Llinell 8:
  
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
“Property Development”, Sara Wilkinson and Richard Reed, Routledge, pumed argraffiad, tudalennau 22-23, 206, 214, 217 a 224
+
''“Property Development”'', Sara Wilkinson and Richard Reed, Routledge, pumed argraffiad, tudalennau 22-23, 206, 214, 217 a 224
 +
 
  
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Tirfesureg]]
 
[[Categori:Tirfesureg]]
 
[[Categori:Tir ac Eiddo]]
 
[[Categori:Tir ac Eiddo]]

Y diwygiad cyfredol, am 07:00, 14 Mehefin 2021

Term a ddefnyddir yn aml ar lafar i ddynodi tystysgrif sydd yn awdurdodi taliadau. Fe’i rhyddheir gan swyddog goruchwylio, fel arfer pensaer fel rhan o’r tîm cynllunio, er mwyn rhyddhau llif arian i gontractwr fel tâl am waith a gwblhawyd yn unol â thelerau cytundeb adeiladu.

Gellid hefyd ei defnyddio fel dogfen i ardystio bod y gwaith a wnaethpwyd i’w gymeradwyo ac yn sail i brynwr neu denant ddwyn achos am iawndal gan y prynwr/tenant os bydd ffaeleddau yn yr adeilad yn amlygu eu hunain dan amgylchiadau arbennig.

Dylid nodi bod y diwydiant tai yn aml yn cynnig gwarant wahanol i’r dystysgrif pensaer, sef tystysgrif Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai NHBC [sef y National House Building Council]. Bydd y lefel o warant ac yswiriant i brynwyr/meddiannydd yn amrywio yn ddibynnol ar p’un ai dystysgrif pensaer ynteu dystysgrif NHBC a roddir.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Property Development”, Sara Wilkinson and Richard Reed, Routledge, pumed argraffiad, tudalennau 22-23, 206, 214, 217 a 224



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.