Williams, D. E. Parry (1900-96)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:37, 11 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Addysgwr, cyfansoddwr, darlledwr ac ysgolhaig. Ganed David Ewart Parry Williams yng Nglyn-nedd ar adeg pan oedd addysg a chyfleoedd cerddorol yn brin a dirwasgiad troad y ganrif yn gwmwl dros y gymuned gyfan. Canu cynulleidfaol Capel y Bedyddwyr (Bethania) a menter ei ewythr yn prynu casgliad o offerynnau llinynnol a barodd iddo ymddiddori mewn cerddoriaeth. Fel chwaraewr cello, bu’n aelod o bedwarawd a ddaeth, yn y man, i gyfeilio i berfformiadau o’r Messiah (Handel), a hynny’n groes i draddodiad Ymneilltuol y dydd. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn 17 oed ac ar sail ei brofiad gwyddonol dilynodd gwrs gradd mewn cemeg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, gan nad oedd cerddoriaeth bryd hynny yn bwnc digon derbyniol ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Yn 23 oed, fodd bynnag, wrth i’r dynfa i fyd cyfansoddi a pherfformio gryfhau, enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (dyfarnwyd ysgoloriaeth gyffelyb i Grace Williams yr un pryd). Treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn arbenigo yn y maes gan feithrin profiad, er enghraifft trwy gyfrwng gwersi arwain gyda Syr Adrian Boult (1889-1983) ac ennill doethuriaeth, cyn derbyn swydd athro cerdd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac Ysgol Lewis, Pengam. Sylwai Parry Williams, fodd bynnag, ar yr adfywiad cerddorol a oedd ar droed yn Lloegr yr adeg honno, a chyfraniad allweddol unigolion fel Elgar, Delius a Vaughan Williams. Ymddiddorai hefyd yng nghrefft y cyfansoddwyr Ewropeaidd gan gynnwys Debussy, Strauss a’r Schoenberg ifanc, a gresynai fod datblygiadau addysg gerddorol yng Nghymru mor araf a digyfeiriad.

Ei ddymuniad oedd adfer y sefyllfa er budd ei gyd- genedl. Cyhoeddwyd ei gyfrol Elfennau Cerddoriaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938) fel cam i’r cyfeiriad hwnnw. Er mai gwrthbwynt yr 16g. oedd un o ddiddordebau pennaf Parry Williams, pwysleisiai bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth gadarn o gynghanedd gerddorol ac adleisir hynny yn ei gyfrol, y cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni yn 1953.

Fel cyfansoddwr, mae ei iaith greadigol yn gwbl donyddol a soniarus. Ni ddewisodd ymgorffori alawon traddodiadol Cymreig yn ei weithiau offerynnol, gan fodloni’n hytrach ar lunio trefniannau syml ond hynod effeithiol o ganeuon brodorol Cymru ar gyfer llais a chyfeiliant piano. Yn dilyn ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1943, gan olynu’r cyfansoddwr E. T. Davies (Dowlais), mynnodd ddenu darlithwyr ifanc (William Mathias, Robert Smith, Reginald Smith Brindle, Bernard Rands a John Hywel) a fyddai’n dyrchafu’r adran i statws rhyngwladol ac a fyddai’n cynnig yr addysg gerddorol orau a mwyaf blaengar i gyw gerddorion y cyfnod.

Bu’n aelod o bwyllgor sefydlu Cyngor Celfyddydau Cymru (1945-49) ac yn gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerdd y Cyngor rhwng 1955 ac 1962. Treuliodd gyfnod fel aelod o fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru a sicrhau bod cerddoriaeth a chyfansoddiadau’r to newydd o gerddorion Cymreig yn hawlio’u lle. Fel un a ymddiddorodd gymaint mewn addysgu cerddoriaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, bu ei gyfraniad i Bwyllgor Termau Cerddoriaeth yn anfesuradwy (cyhoeddwyd y geiriadur yn 1984) a’i gyfraniad at ysgolheictod hefyd yn bwysig. Cefnogai Eisteddfod Llangollen oherwydd amrywiaeth y gerddoriaeth a ddeuai i sylw’r Cymry ond uwchlaw popeth ymhyfrydai yn natblygiad adran gerdd Coleg y Gogledd ym Mangor (Prifysgol Bangor erbyn heddiw) y bu’n gymaint rhan ohoni am gyfran sylweddol o’i oes.

Wyn Thomas

Cyfansoddiadau

  • Ar Gynywair (1954), ar gyfer soprano a phiano

Llyfryddiaeth

  • D. E. Parry Williams, Alawon Cenedlaethol Cymru Cyf. 2 (Caerdydd, 1922)
  • ———, Elfennau Cerddoriaeth (Caerdydd, 1938)
  • ———, A Music Course for Students (Rhydychen, 1953)
  • Enid Parry, ‘Yr Athro Emeritws D. E. Parry-Williams yn

90 oed’, Y Traethodydd (Ebrill, 1991), 65–7

  • John Hywel, ‘D. E. Parry Williams (1900–1996): Teyrnged’, Cerddoriaeth Cymru, 9/9 (Haf, 1997), 15–20
  • D. E. Parry Williams, Cân y werin/Songs of the people [casgliad o 24 alaw werin Gymreig gyda’r hen benillion] (Penygroes, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.