Y Fargen

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:16, 18 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Ar ôl i'w gŵr ddioddef anaf yn y rhyfel, sylweddola Catherine fod yn rhaid iddi adael ei theulu a'i ffarm a mynd i werthu eu stoc mewn marchnad ymhell i ffwrdd er mwyn clirio eu dyled dybryd. Ar hyd y ffordd daw sawl rhwystr gan gynnwys ymgeisiau i'w hatal gan Siryff sydd wedi mopio gyda hi ac sydd yn hanner brawd i'r porthmon sy'n ei gyrru.


Sylwebaeth Arbenigol

Saethwyd 'Y Fargen' gefn-wrth-gefn gyda'r fersiwn Saesneg o'r ffilm 'The Proposition', ond gyda actorion gwahanol yn y brif rôlau. Yn lle Nicola Beddoe ac Aneurin Hughes roedd Theresa Russell a Patrick Bergin yn chwarae'r brif ran.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Fargen, Y

Teitl Amgen: The Proposition

Blwyddyn: 1996

Hyd y Ffilm: 90 munud

Cyfarwyddwr: Strathford Hamilton

Sgript gan: Paul Matthews

Cynhyrchydd: Elizabeth Matthews / Paul Matthews

Cwmnïau Cynhyrchu: Peakviewing / S4C / Apix Entertainment

Genre: Oesoedd a fu, Rhamant


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Nichola Beddoe (Catherine)
  • Aneirin Hughes (Rhys)
  • Richard Lynch (Huw)

Cast Cefnogol

  • Richard Harrington - Ifan
  • Jennifer Vaughan - Elen
  • Owen Garmon - Sam
  • Alexandra Clatworthy - Emily
  • Anwen Williams - Mrs Evans
  • Sioned Jones Williams - Ann Hughes
  • Ifan Huw Dafydd - Jâms
  • Nick McGaughey - Cwm
  • Sior Llyfni - Edwards
  • Geoffrey Morgan - Colonel Griffiths
  • Mari Rowland Hughes - Lady Sarah
  • Griff Williams - Asiant
  • Geraint Griffiths - Captain Wilkes
  • Chris Durnal - Swyddog
  • Jams Thomas - Sergeant
  • Richard Goodfield - Gwas Ffarm

Ffotograffiaeth

  • David Lewis

Dylunio

  • Roger Cain

Cerddoriaeth

  • Ben Heneghan / Ian Lawson

Sain

  • Michael J White

Golygu

  • Peter Davies

Effeithiau Arbennig

  • MTFX / Lightforce FX

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Golygydd - Wayne Smith
  • Ymgynghorwyr Sgript - Ifor Wyn Williams / Gareth Rowlands
  • Cyd-gynhyrchwyr - Gareth Rowlands / Euryn Ogwen Williams
  • Uwch-gynhyrchwyr - Dafydd Huw Williams / Robert Baruc
  • Cynllunydd Gwisgoedd - Kath Wilson
  • Cynllunydd Colur / Gwallt - Stella O'Farrell


Manylion Technegol

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 1.85:1

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg (fersiwn arall Saesneg)

Lleoliadau Saethu: Conwy / Y Bontfaen