Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr Arloeswr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Lansiwyd ''Yr Arloeswr'' pan oedd y ddau olygydd, R. Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones, yn fyfyrwyr yng Nholeg Prifysgol Cymru Bangor, yn...')
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Daeth y cylchgrawn i ben pan aeth y ddau olygydd ymlaen i ddilyn gyrfa y tu allan i Fangor, er iddynt ymuno eto i gyd-olygu ''Taliesin'' rhwng 1987 a 1992.
 
Daeth y cylchgrawn i ben pan aeth y ddau olygydd ymlaen i ddilyn gyrfa y tu allan i Fangor, er iddynt ymuno eto i gyd-olygu ''Taliesin'' rhwng 1987 a 1992.
  
T. Robin Chapman
+
'''T. Robin Chapman'''
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Diwygiad 12:18, 1 Awst 2016

Lansiwyd Yr Arloeswr pan oedd y ddau olygydd, R. Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones, yn fyfyrwyr yng Nholeg Prifysgol Cymru Bangor, yn 1957. Cyhoeddwyd wyth rhifyn ohono – yn ddigon afreolaidd – rhwng hynny a diwedd 1960.

Ysgubol efallai oedd haeriad brawddeg agoriadol ‘Sylwadau’ y ddau olygydd yn y rhifyn cyntaf (Haf 1957) ‘[nad] oes yng Nghymru heddiw gylchgrawn llenyddol’, ond yn dilyn tranc Y Llenor W. J. Gruffydd yn 1951 a chyn lansio Taliesin yn 1962, ni feddai Cymru ar yr un cyfnodolyn a weithredai fel canolbwynt i ddialog beirniadol awdurdodol. Cyfyng eu cylchrediad a chylch ei gyfranwyr oedd Y Fflam (1946-52) Euros Bowen, Pennar Davies a J. Gwyn Griffiths, a chyfnodolion yn gwasanaethu cynulleidfaoedd neilltuol oedd Lleufer (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1944-73) a’r Einion (Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, 1949-58). Dim ond wedi i Caerwyn Williams ddod yn olygydd ar Y Traethodydd yn 1965 y daeth y cynnwys llenyddol yn ddigamsyniol amlycach na’r cynnwys diwinyddol.

Denodd Yr Arloeswr gyfranwyr cefnogol o blith y to hŷn. Cafwyd darnau achlysurol gan Islwyn Ffowc Elis, Bobi Jones ac Aneirin Talfan Davies ymhlith eraill, ac fe berswadiwyd Waldo Williams i gyhoeddi ei farwnad i’w gyfaill Ernie Llwyd Williams yn y rhifyn olaf. Fodd bynnag, trwch ei gyfranwyr rheolaidd oedd y ddau olygydd eu hunain a’u cyfoedion, megis y cerddor Bernard Rands a’r bardd a’r beirniad Gwyn Thomas.

Daeth y cylchgrawn i ben pan aeth y ddau olygydd ymlaen i ddilyn gyrfa y tu allan i Fangor, er iddynt ymuno eto i gyd-olygu Taliesin rhwng 1987 a 1992.

T. Robin Chapman


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.